Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyfochrog

gyfochrog

Dylid nodi mai'r ymarfer gorau yw gosod y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfochrog â'i gilydd neu gefn wrth gefn.

Wrth nesu at Lyn Llydaw fe gerddwch yn gyfochrog â'r bibell ddþr newydd sbon danlli sy'n nadreddu tua gorsaf drydan Cwm Dyli.

Rhai blynyddoedd yn ol, archwiliwyd y cirysau ochrol blaen yn y miscrosgop electron ac ymddengys bod pob cirws yn tarddu o un gell, a'i fod yn cynnwys dwy res gyfochrog o silia.

yn cael dwy uned gyfochrog ar y Maes- fel arfer mor agos ac y gellir at Theatr y Maes.

Efallai fod hyn yn arbennig o wir mewn dinas fel Los Angeles gan fod yr archfarchnadoedd enwog, er enghraifft, yn sefyll yn gyfochrog ymhob ardal, ac felly'n ymladd am euheinioes.

Yn gyfochrog â'r ddau gyfeiriad hyn mewn hen gerddi, y mae'n werth crybwyll y ffaith fod pedwar neu bymp o bersonau o'r enw Arthur yn hysbys yn y chweched a'r seithfed ganrif, yn benaethiaid neu fân frenhinoedd, yng Ngogledd Prydain, yn Iwerddon ac yng Nghymru.

Y gymysgedd hon o arddulliau dysgu sydd yn rhoi'r cyfle gorau i ddisgyblion ddatblygu eu galluoedd ieithyddol a'u dealltwriaeth bynciol yn gyfochrog gan fod pwrpas real i'r ddeubeth mewn sefyllfa o'r fath.

Yn yr un modd ag y mae ysgolion Cymraeg penodedig a mudiadau fel yr Urdd a Merched y Wawr yn gweithredu'n gyfan gwbl ddi-amod drwy'r Gymraeg, yr her yw sefydlu peuoedd Cymraeg sydd yn gyfochrog â'r rhai hynny sydd yn bodoli yn y Saesneg ar hyn o bryd.

Nid oes ryfedd felly bod 'cenedl' a 'brenhiniaeth' (neu 'teyrnas', fel y cyfieithir yr un gair weithiau) yn ymddangos yn gyfochrog yn y Beibl, ac i bob pwrpas yn cael eu defnyddio fel cyfystyron - "chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid ac yn genedl sanctaidd" Ymddengys i Israel, o sylwi ar y cenhedloedd oddi amgylch, ganfod eu bod o ran eu trefn gymdeithasol yn deyrnasoedd neu'n freniniaethau, a daeth felly i ystyried meddu brenin fel un o nodau cenedligrwydd.

Gan nad yw'r Cynulliad â'r hawl i basio deddfwriaeth gynradd, pwyswn arnoch i fynnu fod senedd Westminster yn neilltuo amser penodol i drafod Deddf Addysg gyfochrog i Gymru fydd yn gweithredu barn y Cynulliad Cymreig.