Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyfoedion

gyfoedion

Ond roedd yr iaith a ddefnyddiodd i gyfleu ei sylwadau beirniadol yn nodweddiadol ddi-flewyn-ar-dafod, yn debyg i bawb o'i gyfoedion o'r un dosbarth.

Ni fagodd fol ei gyfoedion, a gallai roi dau dro am un i fechgyn ysgol.

Un parod efo'i ddyrnau oedd Owain Goch yr hynaf ohonynt ond am yr ail fab dywedid bod hwn yn graffach na'i gyfoedion.

Wrth feddwl, 'roedd yna eraill wrth gwrs o blith aelodau'r capel yn yr un cyflwr â mi, yn rhyfedd iawn 'doeddyn nhw ddim i gyd yn gyfoedion a mi.

Bu methiant y myfyrwyr i gyd-weithio'n effeithiol gyda'r gweithwyr a'r modd y bu i brotest y chwedegau chwythu'i phlwc yn gryn siom i Schneider a nifer o'i gyfoedion.

* Cynnig cyngor a chefnogaeth i hybu hunan-ymwybyddiaeth; hyrwyddo cynghori gan gyfoedion drwy'r grwpiau Hunan-Eiriolaeth a Hyfforddi Ymwybyddiaeth Cydraddoldeb Anabledd.

Ond tra mae Lenz yn ymwneud ag effeithiau'rsiom a deimlai Schneider a nifer o'i gyfoedion wedi chwalfa'r mudiad mawr, mae'n diweddu ar nodyn positif.

Prin iawn oedd profiad Schneider a'i gyfoedion o'r ofnau a'r boen a oedd wedi dilyn yr Ail Ryfel Byd.

Fel Roci Jones yr adnabyddid Thomas Jones gan ei gyfoedion a'i gydnabod, ac mae'r enw'n parhau yn y teulu hyd heddiw.

Ni allai Harri ychwaith beidio â meddwl am ei gyfoedion a'i gyfeillion, fel y byddent yn cymryd arnynt gydymdeimlo ag ef yn ei golled, ac ar yr un pryd yn llechwraidd chwerthin yn eu llewys ei fod wedi bod mor anffortunus yn ei ymdrech gyntaf i droi ei gefn arnynt hwy!

'Dwi eisiau i Cai a'i gyfoedion fedru derbyn addysg berthnasol fydd yn fodd iddynt ddatblygu meddwl agored, dadansoddiadol.

Er nad yw gweithwyr gofal yn gyfoedion, dydi hynny ddim yn golygu nad oes ganddynt ran i'w chwarae wrth i ddefnyddiwr y gwasanaeth ddatblygu ei hunan ymwybyddiaeth a'i werthoedd personol.

Mewn gwirionedd, yr oedd ymateb Thomas Charles a'i gyfoedion i'r cyhuddiadau hyn yn ymestyn lawer ymhellach ac yn ddyfnach na chyhoeddi pamffled.