Byddai'r frawddeg olaf yn cyfleu llawer mwy i gyfoeswyr Daniel Owen nag a gyflea i ni, oblegid bu dadlau brwd yr amser hwn rhwng yr Arminiaid a'r Calfiniaid, fel y dengys gwaith Thomas Jones, Dinbych, a fwriodd dymor yn yr Wyddgrug, a dadlau nid llai brwd rhwng y Calfiniaid a'r Uchel-Galfiniaid, dadl a fu mor chwerw yn Henaduriaeth Sir y Fflint fel y bu raid i'r Cyfundeb ymyrryd.
Yr wyf yn amau nad oedd gan ein gwron fawr o amynedd chwaith at ei gyfoeswyr ymhlith y beirdd yr oedd cynffon y weledigaeth hon yn chwipio'u dychymyg, sef y rhai megis Saunders Lewis a Gwenallt a fynnai gysylltu'r Gymru oedd ohoni yn y tridegau gyda rhyw Gymru reiol ufudd-Gristionogol mewn gorffennol di-ffaith.
Ei gred, fel amryw o'i gyfoeswyr, oedd fod y Gymraeg yn tarddu o'r Hebraeg ac y gellir olrhain ei tharddiad yn ôl i'r cymysgu ieithoedd a ddigwyddodd adeg helynt Twr Babel.
Son felly er mwyn ei leoli a diffinio natur ei gynnyrch a dynodi ei le o fewn patrwm ei gyfoeswyr?
Ond bu rhai eraill o'i gyfoeswyr yn dangos diddordeb dwfn yn y gorffennol - boed hwn yn orffennol chwedlonol a rhamantaidd fel yr un yr ymhyfrydai T Gwynn Jones ynddo, neu yn orffennol hanesyddol, gwareiddiedig ac aristocrataidd fel eiddo Saunders Lewis, neu yn orffennol Cristnogol fel yr un a ymddengys yng ngwaith Gwenallt.
Treuliodd RT dipyn o'i amser mewn adolygiad ac mewn erthygl yn tynnu blew o drwynau rhai o'i gyfoeswyr (Bebb, er enghraifft) yr oedd dylanwad y weledigaeth hon - er teneued oedd - arnynt o hyd mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.
Y mae mor anodd gallu dirnad bellach pam yr oedd y genhedlaeth honno'n dotio clywed Christmas Evans a'i gyfoeswyr yn traethu.
Ni pharhaodd y mudiad clasureiddio hwn am fwy nag un genhedlaeth, serch hynny, ac ni welir fawr o ddylanwad clasurol ar farddoniaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg, onid yn anuniongyrchol efallai trwy ddylanwad Goronwy Owen a'i gyfoeswyr.
Bu mwy o swyn yn ei enw ef i Gymru oll, a mwy o ramant yn ei fywyd, nag odid yr un o'i gyfoeswyr.
Wynn Thomas, Morgan Llwyd: ei Gyfeillion, ei Gyfoeswyr, a'i Gyfnod.
Damwain oedd Cymreictod i Elfed, ac i fwyafrif ei gyfoeswyr.