Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyfraith

gyfraith

Y mae'n Brydeiniwr yn ôl y gyfraith er ei fod yn Gymro yn genedledig.

Yn llygaid y gyfraith, Twrciaid yw plant a anwyd yn yr Almaen i rieni Twrcaidd, hyd yn oed.

DAFYDD: ...yr adegau y mae angen torri'r gyfraith ydi pan mae'r gyfraith yn rhwystr; pan mae'r gyfraith yn erbyn.

Yn 1937, os torrai rhywun y gyfraith, roedd carchar bron yn anochel.

Mae'n gyfiawn, gan ddilyn y gyfraith yn agos, mae'n hael, mae'n drugaroga ac y mae'n dewis rhyfel pan nad oes dewis arall.

Newidiodd hynny ddwy flynedd yn ol, ond mae amheuaeth yn dal i fod nad yw'r gyfraith yn cydnabod yn swyddogol unrhyw gyfrifon sydd heb fod yn Saesneg.

Ateb Mr S oedd na hidiai ef fotwm am y gyfraith gan fod achos Waldo mor amhoblogaidd ac na feiddiai Waldo ei amddiffyn ei hun mewn llys barn.

Clyma hon ynghyd bobl a rannodd yr un diriogaeth dros gyfnod hir o amser ac a ddatblygodd yn ystod cwrs ei hanes yn y famwlad, draddodiadau ac arferion a sefydliadau a'u gwahana oddi wrth bobloedd a chenhedloedd eraill Cynnwys y rhain fel arfer gyfraith, crefydd, sefydliadau gwleidyddol ac iaith, er nid yw'r nodweddion oll bob amser yn bresennol.

(Esboniwyd wrthym ar ol hynny nad oedd y gyfraith yn caniatau i unrhyw silff mewn siop fod yn hollol wag.) Mewn un cornel o'r ystafell safai dau giw hir o bobl yn ddistaw ac yn llonydd.

Peth arall i sylwi arno yw fod y ddau wedi graddio yn y gyfraith yn Rhydychen.

Yn ^ol Marx, mae'r uwch-ffurfiant yn cyflawni ei swyddogaeth o gyfreithloni'r cysylltiadau cynhyrchu sy'n bodoli yn yr is-ffurfiant trwy hyrwyddo ideoleg y dosbarth rheoli yn yr ysgolion, y cyfryngau, y gyfraith, etc.

Cynigiodd gyfaddawd sef derbyn canlyniad y cyfri â llaw yn Florida heb fynd i gyfraith pe baen nhw'n caniatau i'r cyfri hwnnw'n barhau.

Estynnwn groeso pwyllog i ddau fesur eleni, y naill gan y Llywodraeth, y llall gan Gomisiwn y Gyfraith, a ddylai gynnig gwell amddiffyniad yn y dyfodol.

Ond mae'r Gyfraith i'w beio lawn cymaint, os nad mwy, nag unrhyw faes arall.

Waeth befo eu bod yn torri'r gyfraith: oni welwyd ambell Seneddol yn ymlafnio'i orau rhy las wrth geisio chwarae'r gem yn ol rheolau hunangar ei feistres?

Etifeddai'r naill ddosbarth eu heiddo yn ôl y gyfraith Seisnig, a olygai etifeddu gan y cyntafanedig, a'r llall yn ôl y gyfraith Gymreig (neu Gyfraith Hywel fel y'i gelwid), a olygai rannu'r etifeddiaeth yn gyfartal rhwng meibion, a hynny o fewn uned deuluol ddiffiniedig.

Fel y saif y Gyfraith ar hyn o bryd, nid oes reidrwydd ar yrrwr i gario'i frwydded yrru yn ei boced.

O'r holl alwedigaethau proffesiynol y gymhwysaf i'r dosbarth egniol hwn oedd y gyfraith.

Fe allai tri phlentyn o Went newid y gyfraith mewn achos Uchel Lys heddiw.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd y barnwr yn argymell fod rhaid newid y gyfraith," meddai.

Fel hyn, bydd ysgolion yn cadw at ofynion y gyfraith ond hefyd yn datblygu mewn modd cadarnhaol, gan 'ddod rownd' un gofyniad statudol arall eto nas lluniwyd gydag ardaloedd gwledig mewn golwg.

Hen gyfraith wirion galed yntê?

Dengys y ddedfryd a dderbyniodd David Phillips a John Smith anghysondeb parhaus y gosb a fu am gyflawni troseddau cyffelyb, gan fod rheithgorau a barnwyr fel ei gilydd yn ystyried y gyfraith yn rhy llym ac felly yn gyndyn i weithredu ei holl rym.

O safbwynt adeiladu a throsglwyddo ystadau yr oedd y gyfraith Seisnig yn amlwg yn fwy manteisiol na'r gyfraith Gymreig, ac o'r cychwyn cyntaf gwelir rhai Cymry nid yn unig yn ymwthio i rai o'r bwrdeistrefi ond hefyd yn mynnu'r hawl i ddal eu tiroedd a'u trosglwyddo yn ôl cyfraith Lloegr.

Daeth 2,000 ac wedyn 4,000 i ralïau mawr yng Nghaerdydd, a dechreuodd pob math o bobl dorri'r gyfraith wrth brotestio dros Ddeddf Iaith Gyflawn.

Y Prif Gyfreithiwr Erlyn oedd Daniel Alun Roberts Thomas (DART i'w ffrindiau a'i gydnabod), cymeriad os bu un erioed, tipyn yn un-llygeidiog yn achos y Gymraeg, a daeth rhai o'i sgarmesoedd gyda Chymdeithas yr Iaith yn enwog iawn ar y pryd, ond roedd yn gyfreithiwr da, a thu allan i faterion yr Iaith, yn un o farn gyfreithiol ddibynnol a sad, a'i wybodaeth o'r gyfraith droseddol yn eang a manwl.

A chyda threiglad amser daeth yn rhan ddigon anrhydeddus o'r traddodiad Seisnig i bwysleisio rhyddid pobl i fyw eu bywyd preifat heb i'r gyfraith a'r llywodraeth ymyrryd.

"Ond dyw e ddim yn erbyn y gyfraith i'n gwahardd ni." Geiriau o'r galon gan un o "leiafrifoedd" mwyaf niferus Gwledydd Prydain.

Ac yn Wrecsam y ganed y mab hyna, Gwyn, a raddiodd yn y Gyfraith yn Aberystwyth, ac sydd bellach ers tro byd yn gweithio yn un o Swyddfeydd y Llywodraeth yn Awstralia.

addysg, crefydd, y teulu, y gyfraith, gwleidyddiaeth, etc.) yn ganlyniad hynny, yn syniad allweddol i ddadansoddiad diwylliannol Marcsaidd.

Ac yng ngolwg y gyfraith y mae lladd bwriadol yn fwrdwr.

Ynddo ceisiodd egluro sut y ffurfiwyd yr ynys wedi'r Dilyw, a holai beth oedd iaith y trigolion, ai o'r Hebraeg y tarddodd y Gymraeg: disrifiodd gyfraith a chrefydd gynnar yr ynys, athroniaeth a defodau'r Derwyddon, eu tamlau, eu hallorau a'u canolfannau yn y llwyni derw, gan atgynhyrchu'r lluniau o'r henebion derwyddol a gynhwysodd yn ei atebion i Queries Lhwyd.

A hyd yn oed pan fethai hynny yr oedd modd ystumio'r gyfraith Gymreig (drwy ddyfais a elwid prid er mwyn cyrraedd yr un nod.

Efallai fod rhyw gymaint o ddrwgdeimlad eisoes rhwng Evan Meredith a Morgan, gan fod ail ŵr Catrin, Oliver Thomas, yn frawd i chwaer-yng- nghyfraith Meredith, Seina wraig Morris Meredith o'r Lloran Uchaf yn Llansilin, a bod y teulu yn amau ei bod hi wedi ei briodi yn ei henaint er mwyn ei arian; hefyd yr oedd nai Evan Meredith, Edward Morris, wedi chwenychu ficeriaeth Llanrhaeadr ar ôl Oliver Thomas, er mai at y gyfraith fel bywoliaeth y trodd yntau'n ddiweddarach.

Un o oblygiadau'r ddeddf hon oedd ordeinio trwy gyfraith mai eglwys ddwyieithog, o leiaf yn ei gwasanaethau cyhoeddus, fyddai'r Eglwys yng Nghymru o hynny allan.

Graddiodd yntau yn y gyfraith - yng Nghaer-grawnt - a bu wedyn yn gynorthwywr i William Tyndale.

Yn anffodus, mae posibilrwydd i rai o'r gwartheg fod wedi eu prynu oedd eisoes wedi eu trin gyda hormonau, felly mae gwaith ymchwil a gymer gryn amser i'w wneud fel y gellid dwyn y rhai euog i gyfraith.

Mae hyn yn arwain at yr ail fesur a gynigiwyd gan Gomisiwn y Gyfraith sef eu hadroddiad, 'Trais yn y Cartref a Meddiant y Cartref Teuluol, adolygiad o'r gwahanol ddeddfwriaeth bresennol sy'n cynnig meddyginiaethau sifil yn erbyn trais yn y cartref.

Mesur Erthylu yn dod yn gyfraith.

Nid ym myd y Gyfraith yn unig y mae diffyg statws i'r iaith, wrth gwrs.

Dechreuasant gydag ymlyniad wrth y goron Seisnig (a barhâi yn Ffrangeg ei hiaith, fel y gwnâi'r gyfraith Seisnig), ond o hyn y datblygodd ymlyniad wrth Loegr.

Ond mae'r Barri wedi bygwth mynd i gyfraith os digwydd hynny.

Parchu'r gyfraith.

Aeth ef ar ei union i weld Mr S, gan ddweud wrtho gan ei fod yn hyddysg yn y gyfraith sut y gallai ef gysoni'r hysbysiad â'r gyfraith.

Ond daeth yn amlwg yn fuan nad oedd yr adran honno'n barod i weithredu cyn i'r gyfraith symud yn erbyn y diffynyddion eraill, ac yn sgil hynny daeth ychwaneg o rwystredigaethau.

Mae'r gyfraith yn bleidiol i'r Gymraeg, a dyna ydi holl bwynt cael Bwrdd statudol i weithredu.

Pan oedd yn ifanc bu'n astudio'r gyfraith yn Llundain; ymunodd â llys y brenin a bu'n ei helpu i ymladd yn erbyn gwrthryfelwyr yn yr Alban.

un cwrs ar destun Ymarferiad Cyflogaeth a'r Gyfraith.

Yn y Bocs Sebon y mis hwn mae Gill Rees yn mynd â ni i fyd y gyfraith ac yn trafod un o'n hawliau sylfaenol.

Serch hynny, erys y ffaith eu bod yn rhwym dan gyfraith gwlad i gadw cwningod o dan reolaeth.

Cyhoeddodd y bwrdd reolau er dyrannu'r llety a oedd ar gael ganddo, ond yn ymarferol byddai'n dyrannu tai yn ôl rheolau cwbl wahanol nas hysbysebwyd fel oedd yn ofynnol dan y gyfraith.

Yn ogystal, nid yw ond teg i'r cyflenwyr gael eu dwyn i gyfraith.

Pan mae'r gyfraith yn hyrwyddo hawliau pobl, yna does dim angen torri'r gyfraith.

Mae'n erbyn y gyfraith.

Fel arfer, sôn y byddaf am y Gyfraith fel y mae, ac nid am y Gyfraith fel y dylai (yn fy marn i) fod.

Ond, ar ôl dweud hyn oll, nidoes gyfiawnhad dros y difri%o sydd wedi bod arni gan y Gyfraith a chan y cyfreithwyr a'r llysodd ar hyd y canrifoedd, ac sydd wedi parhau hyd ein dyddiau ni.

Mae'n rhaid i ffermwyr ddipio defaid yn ôl y gyfraith yn flynyddol i arbed yr anifeiliaid rhag afiechydon.

Fe fydd nifer o ddarllenwyr ardal Llanelli yn siwr o gofio'r digwyddiad erchyll hwn, ond difyr yw gweld y datblygiadau gwyddonol sy'n helpu i adeiladu achos yn erbyn Graham Bowen, a chael hynny o safbwynt y gyfraith.

Mae aelodaeth o'r grŵp Heddlu a'r Gyfraith yn agored i bob menyw yn y mudiad sydd am gymryd rhan yn bennaf mewn dwy agwedd ar waith CiF ymgyrchu ar yr naill law, a hyfforddi Heddluoedd Cymru ar y llall, gan geisio hyrwyddo gwell dealltwriaeth o sefyllfa anodd a pheryglus dros ben, menywod a phlant a beryglir gan drais gan yr union berson ddylai fod yn eu hamddiffyn.

At hynny, fel ceidwad heddwch ymysg ei bobl, ymgymerodd â'r cyfrifoldeb, ynghyd â'i gyd-ustusiaid, o weithredu'r gyfraith ymhlith ei gydnabod, yn bennaf mewn llysoedd sesiwn chwarter a'r llysoedd bach.

"Y mae gwraig yn rhwym wrth y gyfraith tra byddo ei gŵr yn fyw." Os yw "ded¶tai% yn cyfeirio at gwlwm priodas, byddem yn disgwyl i "ou ded¶tai% (nid yn rhwym) olygu'r gwrthwyneb, sef rhyddid o'r cwlwm priodas.

Fodd bynnag, roedd y gallu i siarad yr iaith mewn galwedigaethau megis meddygaeth a'r gyfraith yn fodd i greu perthynas agos ac felly sicrhau gwasanaeth mwy effeithiol.