Wrth gwrs, mae'n iawn tynnu sylw at gyfraniad y bobol hyn.
A bu gan Dr Gwynfor Evans ei hunan gyfraniad creadigol eithriadol i'r stori.
Prin, mae'n wir, yw'r wybodaeth fywgraffyddol fanwl sydd gennym amdano a'i waith, ond nid yw hynny'n rhwystr inni werthfawrogi ei gyfraniad.
Fel gŵr cadarn ei argyhoeddiad gafaelai Jacob ym mhopeth gyda'i holl egni a rhoi o'i orau glas er sicrhau urddas a graen i'w gyfraniad.
Felly hefyd gyfraniad prin y diwydianwyr, cyflogwyr y boblogaeth, i'r ddarpariaeth addysgol.
Dymuna'r Pwyllgor ddiolch yn hael i bawb a roes gyfraniad hael mewn amrywiol ffyrdd ac am bob cydweithrediad er hwylustod y trefniadau.
Ac i'r rhai hynny ohona chi sydd wedi bod yn bwyta siocled plaen yn lle siocled llaeth gydol y blynyddoedd yn meddwl y gwnaiff o lai o gyfraniad i faint eich bol, does gen i ond dau air; Ha blydi ha.
Mae ei gyfraniad wedi bod yn fwy na'r hyn oedd yn digwydd ar y cae, oherwydd ei bersonoliaeth a'i ddylanwad ar ei gyd chwaraewyr.
Llew Jones yn un o awduron mwyaf toreithiog Cymru gyda'i gyfraniad yn enfawr ym maes llenyddiaeth plant.
Ymhlith yr athronwyr proffesiynol y mae rhai sydd wedi rhoi cryn gyfraniad i feddwl cymdeithasol a gwleidyddol.
Y mae'r cofiant yn gyfraniad o bwys wedi'i seilio ar waith ymchwil trylwyr, yn cynnwys defnydd helaeth o ffynonellau niferus, llafar ac ysgrifenedig.
Wrth sôn am yr Esgob, canolbwyntir yn arbennig ar ei gyfraniad i'r cyfieithiadau hyn.
Y mae rhoi clust i'r gri yng nghanol adfyd yn gyfraniad amhrisiadwy ac yn gyfrifoldeb y dylai hyrwyddwyr iaith ei arddel.
Yr unig reswm arall pam y'u galwyd nhw yno, oedd i chwerthin ar un jôc amlwg yn araith Mr Blair, a chlapio ar ddiwedd ei gyfraniad.
Mae'r datblygiad cyffrous hwn yn gyfraniad ymarferol gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg i dechnoleg newydd yn Gymraeg.
Dywedir yn aml mai papur Caledfryn oedd Y Seren Ogleddol ond, er mor sylweddol ei gyfraniad iddo, nid yw hyn yn gywir.
Nododd un ysgol gyfraniad AEM, ac un arall gyfraniad gan Cen Williams (Coleg Normal).
Bu gan Fangor ei gyfraniad i'r maes hwn hefyd o'r dechrau bron, gydag uned ffilmiau yn anfon eitemau cyson i Gaerdydd neu Fanceinion ar gyfer 'Heddiw' yn y chwedegau cynnar.
Yn seremoni wobrwyo Roc a Phop Radio Cymru 2000, enillodd Geraint Jarman wobr unigryw am gyfraniad oes i'r byd cerddorol yng Nghymru, a nawr mae S4C ar fin darlledu rhaglen arbennig i nodi ei gyfraniad anhygoel.
Fodd bynnag, mae angen i arolygwyr fod yn ymwybodol o gyfraniad agweddau eraill, megis cyd-wasanaethau a gweithgareddau trawsgwricwlaidd, a all fod o gymorth i hyrwyddo safonau da a datblygu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth disgyblion.
Pan ydym yn sôn am y ddarpariaeth bresennol yn y Gymraeg ar gyfer ieuenctid yr ydym yn syth yn meddwl am gyfraniad yr Urdd, y Ffermwyr Ifainc neu'r Ysgolion Sul.
Byddai llun o'r lanfa mewn llecyn mor ddiarffordd yn nannedd y mor yn gyfraniad hefyd.
Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw gyfraniad, boed ar ffurf cyllid, neu offer.
Wrth ddathlu pen blwydd stiwdio Bangor yn hanner cant oed, cofio yr ydym am gyfraniad Bangor i un arall o'r sefydliadau hanfodol hynny, sef cyfundrefn radio a theledu cenedlaethol.
Llew' drwy'r blynyddoedd ym myd llyfrau plant, o'r dyddiau cynnar hynny (ar ddechrau'r pumdegau) pan gâi cyrsiau i awduron eu cynnal yn y Cilgwyn, Castellnewydd Emlyn, at ennill Gradd MA Prifysgol Cymru am ei gyfraniad i lenyddiaeth plant.
Myn Saunders Lewis mai 'i gyfraniad i athroniaeth wleidyddol yw ei gyfraniad pwysicaf.
Diolch fod y Brifysgol wedi cydnabod ei gyfraniad trwy roi iddo Radd Meistr yn y Celfyddydau er anrhydedd.
Ei gyfraniad mawr i lywodraeth yr Eisteddfod oedd ei allu i edrych ar broblem o sawl cyfeiriad, o safbwynt ariannol, o safbwynt trefniadol, ac o safbwynt celfyddydol, ac arwain ei gydgynghorwyr yn y diwedd at benderfyniad y byddai'r budd mwyaf ohono yn deillio i'r eisteddfodwr cyffredin.
Rhoes llyfr fel Rebecca Riots (David Williams) gyfle iddo dynnu sylw at gyfraniad Thomas Emlyn Thomas, y gweinidog Undodaidd o Gribyn, a'r gŵr a fu'n 'rebel dros ryddid y werin'.
Dylai'r Gweinidogion gydnabod bod y dull o gynhyrchu adnoddau drwy ddefnyddio'r canolfannau adnoddau yn gost effeithiol iawn gan iddo elwa ar gyfraniad y sefydliadau addysgol sy'n cynnal y canolfannau i leihau y grant.
Mae'r daflen grynodeb yn cynnwys crynodeb o'r graddau a roddwyd ar gyfer yr holl wersi a welwyd, a sylwadau ar safonau cyrhaeddiad, ansawdd y dysgu, ansawdd yr addysgu a ffactorau cyfrannol, a dylai gynnwys, lle bo hynny'n briodol, farn ar gyfraniad amlwg y pwnc tuag at hyrwyddo'r dimensiwn Cymreig a chyflwyniad themâu trawsgwricwlaidd.
Ar yr wyneb, fe fydd y filltir neu ddwy nesa' trwy fideoland Sgiwen yn cadarnhau rhagfarnau: Does yna ddim byd o werth yng Nghwm-nedd heblaw am y rygbi - a byddai Crysau Duon Gareth Llewelyn yn glwb ceiniog a dime heblaw am gyfraniad ffermwyr ifanc cyhyrog Cymraeg o sir Benfro.
Cerddi cryf am gyfraniad y Dysgwyr i'r Gymru newydd hyderus.
Mae Bayly'n adnabyddus am ei gyfraniad at y bywyd ysbrydol yn ei lyfr Yr Ymarfer o Dduwioldeb.
I orffen y rhaglen fe gawn ni gyfraniad gan unigolyn sydd wedi chwarae mewn nifer o grwpiau dros y blynyddoedd.
Ei chryfder yw ei hamgyffred eithriadol o sefyllfa a chymeriad, o gyfraniad manion bywyd i'w gyfanrwydd, a'i hymdeimlo mawr â'r elfennaidd a'r sylfaenol, yn enwedig lle mae colli o ryw fath, neu fod heb rywbeth, yn profi ac yn bychanu dyn.
Pe baech wedi gorfod sefyll arholiad yr haf hwn, a chwestiwn ar y papur yn gofyn 'Pwy oedd Carnhuanawc, a beth oedd ei gyfraniad i fywyd Cymru?' , tybed sawl un ohonoch a fyddai wedi gallu dechrau ei ateb, heb sôn am gynnig ateb boddhaol?
Yr ydym yn gytun bellach mai yn y dilyniant 'Sonedau y Nos' y ceir ganddo ei gyfraniad mwyaf nodedig.
Clywais am gyfraniad cofiadwy Ieuan Evans, Rhydymain yn portreadu'n effeithiol mewn Rali yn nyddiau cynnar y mudiad pan yr oedd y Rali yn unig faes gweithgareddau o'r natur yma.
Y mae y gyfrol yn byrlymu o edmygedd o'r ysgolhaig y bu ei gyfraniad yn un mor wiw yn ystod cyfnod diweddar y dadeni Dysg.
Yn Llen y Llenor y mae Ceri Davies nid yn unig yn dilyn ond yn pwyso a mesur yn feirniadol ei gyfraniad hynod i lên Cymru ac i Gristnogaeth.
Ai difyrrwch felly fyddai f'adroddiadau - neu gyfraniad pitw tuag at addysg y rheiny fyddai'n dewis gwylio?
Y mae ei enw ef yn enw teuluaidd yng Nghymru bellach, oherwydd ei gyfraniad pwysig i emynyddiaeth ein gwlad.
Derbyniodd y Llys gyfraniad, oherwydd yr elw ym Mhwllheli, a oedd ymhell y tu hwnt i'w ddisgwyliadau ddwy flynedd yn gynharach.
Golygai disgyblaeth deuluol gydnabyddedig fod gan bob uned o'r fath gyfraniad pendant i'w wneud yn y gymdeithas.
Cyfrol am gyfraniad Arglwyddes Llanofer i gerddoriaeth Cymru yn y 19eg ganrif.
CYFLWYNWYD adroddiad y Swyddog Adeiladau ar gais y tenant am gyfraniad gan y Cyngor tuag at gost difrod a achoswyd i'r carped a phapur ar y wal o ganlyniad i ddŵr redeg i'r tŷ o dan y drws.
Er hynny, yr oedd Gwybod yn arbrawf ardderchog ac yn gyfraniad gwerthfawr at lenyddiaeth addysgol plant y genhedlaeth honno.
Ymddangosai Alun Michael yn ddiffuant o ddiolchgar iddi am gyfraniad amserol a rhoddodd sicrwydd fod pob hawl i aelodau'r Cynulliad berthyn i'r Seiri Rhyddion ond na allent ddisgwyl bod uwchlaw arolwg.
Ac ar ben y cwbl, gwnaethant gyfraniad at feithrin yng Nghymru draddodiad gloyw o ddarllen ac adrodd cyhoeddus a oedd yn ddeallus, yn gywir a phwysleisiol.
Na ddiystyrwch gyfraniad y plwyfi bach!
Yr ydym yn hen gyfarwydd bellach â darllen am gyfraniad teulu'r Wyniaid o Wedir, Sir Gaernarfon, i hanes cymdeithasol Cymru rhan olaf yr unfed ganrif ar bymtheg a'r rhan helaethaf o'r ganrif a'i dilynodd.
Ond pe gofynnech iddo ymhle mae'r Wythi%en Fawr ond odid mai eich cyfeirio i bentref Brynaman a wnâi, gan restru enwau tyddynnod a mân ffermydd fel Pen-y-graig Glynbeudy, Cwm-garw a'r Croffte, oblegid teulu a wnaeth gyfraniad sylweddol i'r diwylliant brodorol a chenedlaethol yw'r Wythi%en Fawr.
Heb yn wybod iddynt eu hunain, yr oedd pobl yn dysgu bod yn llafar ac yr oedd hynny'n gyfraniad o bwys eithriadol i'r bywyd cyhoeddus.
Fel rhan o gyfraniad cadarnhaol S4C i fywyd ieithyddol, diwylliannol ac economiadd Cymru, mae 95% o'r gyllideb raglenni yn cael ei gwario'n uniongyrchol yng Nghymru gan greu swyddi a chyfrannu at ffyniant economaidd y wlad.
Prif fwriad Bwrdd yr Iaith Gymraeg wrth gyhoeddi'r strategaeth ymgynghorol oedd ceisio datblygu strategaeth mewn partneriaeth â'r cyhoedd, ac â'r sefydliadau sydd â chyfrifoldebau allweddol neu gyfraniad pwysig i wneud dros yr iaith.