Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyfrannu

gyfrannu

Nid tamaid i aros pryd mohono, mae addysg feithrin o safon yn cyfoethogi datblygiad y plentyn cyfan ac fe all gyfrannu at godi safon ei berfformiad academaidd cyffredinol.

Byddai'n braf petaent yn cael eu hannog i gyd-weithio a chyd-gyfrannu, a hynny mewn ysgol hapus ag adnoddau digonol.

'Gyda'r system hon, gall pobl ddatrys eu problemau tai eu hunain ac, ar yr un pryd, gallan nhw gyfrannu at ddatblygu cymdeithasol,' meddai.

Gallwch gyfrannu at gadw ansawdd BBC Ble ar y We wrth roi gwbod inni os yw unrhyw safle'n annerbyniol neu'n peri tramgwydd.

Deddf yr Eisteddfod yn dod i rym ac yn caniatáu i awdurdodau lleol i gyfrannu tuag at yr Eisteddfod Genedlaethol lle bynnag y cynhelid hi.

Mae eglwysi ac unigolion yn gallu perthyn iddo trwy gyfrannu tâl blynyddol.

A gwared ninnau rhag bod yn gwta ein haelioni pan ofynnir inni gyfrannu at y gwaith hwn.

Trwy'r Ysbryd y caiff yr egwyddor hon ei mynegi a thrwy'r Ysbryd hefyd y caiff y credadun gyfrannu yng ngwaith gwaredigol Duw ar ei ran.

Trwy gyfrannu'n weithredol tuag at iechyd y boblogaeth y mae Sefydliadau'r Merched yn helpu i ymgyrraedd at y nod hwn'.

gwahodd yr aelodau sy'n medru rhywfaint o Gymraeg i gyfrannu yn Gymraeg.

Tasg PDAG yw hwyluso datblygu addysg yn Gymraeg gan yr holl asiantau statudol ac annibynnol a fedr gyfrannu at y ddarpariaeth.

Cewch gyfrannu yn y gwaith o'r diwrnod yr ydych yn ymaelodi.

Mae pethau'n dechrau torri lawr rhyngon ni - elli di ddim gwadu hynny - a wela'i ddim sut y gall gadael i'n cariad ni farw gyfrannu mewn unrhyw ffordd at wneud iawn am farwolaeth Heledd." Rhedodd Marc ei fysedd drwy ei wallt du, cyrliog a dechrau cerdded yn ol ac ymlaen ar draws yr ystafell.

Gwrthodant gyfrannu tuag ati neu gyfrnnu cil-dwrn tuag ati oblegid mai sefydliad Cymraeg yw hi.

Cafwyd ysgrifenwyr medrus i gyfrannu erthyglau, rhai fel Brynmor L. Davies, D. Myrddin Davies, T. Eurig Davies, R. Elfyn Hughes, A. O. H. Jarman, J. Gwyn Jones, Enid Parry, Jennie Thomas a J. O. Williams.

Cyfrannu'n Ariannol Disgwylir ichwi gyfrannu rhyw gymaint yn ystod y flwyddyn, e.e.

Ar y noson fawr bydd llu o rifau ffon ar gael i alluogi'r gwylwyr i gyfrannu at Apel Plant Mewn Angen.

Cewch yma gyfle i gyfrannu llinell neu gwpled at gywydd-seiber, cewch bleidleisio dros eich hoff awdl, a dweud eich dweud mewn seiat fywiog.

Os hoffai unrhyw un gyfrannu anfonwch at y trysorydd.

Ychwanegodd y byddai'r Rheilffyrdd Prydeinig yn barod i ailystyried y sefyllfa os oedd y Cyngor yn barod i gyfrannu'r gwahaniaeth rhwng y gost a'r incwm a dderbynnid gan y gwasanaeth tren hwn.

Yn hyn a'm trawodd yn ddifyr o'i ddarllen oedd geiriau tafodiaith y gohebwyr wrth gyfrannu i'r papur.

Pan wahoddwyd fi i gyfrannu'n wythnosol i'r Herald Cymraeg (saith mlynedd yn ol bellach), ef, John Eilian a roes ei theitl 'Wrth Edrych Allan' i'r golofn hon.

Dau, a dau yn unig, a oedd o amodau i gyfrannu i'r gyfrol: bod yn y tŷ a bod yn weinidog ordeiniedig.

Credwn fod angen cydnabod fod cyfrifoldeb ar bob darparwr i gyfrannu at greu hinsawdd ieithyddol fwy cytbwys yng Nghymru.

Trwy ddarparu gwasanaeth Cymraeg cyflawn sy'n anelu at fod cystal â'r hyn a geir yn Saesneg, a thrwy wahodd eu cwsmeriaid i ddefnyddio'r Gymraeg wrth ddelio â hwy, gall y sawl sy'n darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg gyfrannu'n helaeth at y broses o newid ymddygiad.

Mae ei broffesiynoldeb a'i awdurdod wedi bod yn ysbrydoliaeth i bob darlledwr, ac rydym yn falch y bydd yn parhau i gyfrannu'n rheolaidd i'r orsaf.

Eto i gyd, does dim digon o arian yn cael ei gyfrannu gan wledydd tramor.

Yn hytrach na bod ar y clwt mi gynigiais fy ngwasanaeth yn haelfrydig i Bwyllgor Addysg Lerpwl ac mi fynegais barodrwydd i gyfrannu dysg a gwybodaeth mewn unrhyw ysgol y gwelai'r Awdurdod yn dda fy ngosod ynddi.

Cynigiwyd ein bod yn ail-edrych ar y sefyllfa ariannol eto gyda golwg ar gyfrannu mwy at Gyfeillion y Samariaid.

Am fanylion tanysgrifio i'r Tafod papur, neu i gyfrannu erthygl neu syniad, cysylltwch â tafod@cymdeithas.com neu â'r Brif Swyddfa. Rhifyn Diweddara

Yn ychwanegol at hynny, gan ddefnyddio'r meini prawf gwerthuso perthnasol a nodir yn y Fframwaith, dylid barnu rheolaeth pob un o'r pum ffactor a ganlyn ac i ba raddau y mae rheolaeth briodol yn galluogi pob ffactor i gyfrannu at safonau ac ansawdd:

Yn sicr nid gwaith newyddiadurwyr oedd paratoi adroddiadau a fyddai'n annog pobl i gyfrannu'n helaeth tuag at y gwaith yn Somalia.

cyflogedig i osgoi peryglon ac i gyfrannu mewn modd cadarnhaol at eu hiechyd a'u diogelwch eu hunain yn y gwaith, gan gynnwys darparu dillad gwarchod personol addas.

Ym Mangor penderfynodd y Frigad Dân ddefnyddio eu hysgolion i annog y cyhoedd i gyfrannu at fwcedi Pudsey a thra eu bod nhw'n dringo, roedd gweithwyr archfarchnad KwikSave yn y ddinas yn gwisgo dillad hanesyddol lliwgar i berswadio cwsmeriaid i gyfrannu ychydig o geiniogau at yr achos.

Er mwyn achub y diwylliant hwnnw y mae awdur dan bwysau i sgrifennu llyfrau ac i gyfrannu llithiau nad ydynt y gwaith gorau y medr ef eu gwneud.

Mewn oes pan nad oedd hanner poblogaeth Cymru yn mynychu na chapel nac eglwys, meddai ef: '...' Gellid dadlai mai nai%vete/ a barodd iddo wrthod derbyn yr un ddimai goch o arian y wladwriaeth i gynnal ysgolion yng Nghymru, a breuddwyd gwrach oedd disgwyl i enwadau, yr oedd eu culni a'u heiddigedd o'i gilydd yn ddihareb, ymuno'n frwd â chynllun a fyddai'n cymell gwerinwyr tlawd i gyfrannu swllt y pen bob blwyddyn yn enw addysg grefyddol wirfoddol.

Ymhlith syniadau eraill y mae gwahodd sêr y cyfryngau a chwaraeon i gwrdd â grwpiau o blant a phobl ifainc, trefnu teithiau cyfnewid gydag ieuenctid o wledydd sydd yn siarad ieithoedd lleiafrifol a llunio cyweithiau cymunedol fyddai'n denu pobl ifainc i gyfrannu tuag at ddiogelu'r amgylchedd a bod yn fwy ymwybodol o'r peryglon sydd yn ei bygwth.

Y mae llawer o'r ddogfen yn ymwneud ag addysg ac hyfforddiant a theimlir nad oes gan y staff y wybodaeth na'r arbenigedd briodol i gyfrannu'n effeithiol tuag at y pynciau hyn.

A yw trefniadau'r ysgol yn annog yr holl ddisgyblion i gyfrannu tuag at fywyd yr ysgol ac i dderbyn cyfrifoldebau?