Cyn dyfod y gyfundrefn hon yr oedd cadw'r heddwch yn gyfrifoldeb yr ustusiaid.
Y mae Geraint wedi'i addysgu, nid yn nyletswyddau marchog fel y bu rhaid gwneud yn achos Peredur wladaidd, ond fel llywodraethwr, a'i gyfrifoldeb ef bellach yw cynnal ei lys ei hun, amddiffyn ei derfynau ac ymgymryd â dyletswyddau arglwydd.
Deuai ffydd Hugh Hughes o'i galon, wedi'i seilio ar "adnabyddiaeth bersonol o Dduw a'i bethau% Adlewyrchiad o hyn oedd natur bersonol ei ymosodiad, ac o'i ganfyddiad o gyfrifoldeb pob unigolyn yn y byd hwn am ei weithredoedd, ac o'i atgasedd, felly, at naws haniaethol dadleuon yr academegwyr.
Fel y dehonglid undod y teuly yn elfen bwysig yn fframwaith y gymdeithas pwysleisid hefyd gyfrifoldeb yr uniad priodasol dros faterion moesol ac i greu cytgord rhwng ceraint a theuluoedd a'i gilydd.
Cymer Hiraethog gyfrifoldeb am y rhannau hyn o'i waith; ysgrifenna fel petai'n agos iawn ato ac yn gwybod popeth amdano.
Mae yma gyfrifoldeb arswydus ar ein hysgwyddau.
Y mae rhoi clust i'r gri yng nghanol adfyd yn gyfraniad amhrisiadwy ac yn gyfrifoldeb y dylai hyrwyddwyr iaith ei arddel.
'Dyw ei Gymraeg ddim cweit cystal â'i Sbaeneg, a hynny mae'n siŵr (yn hytrach, debyg gen i, nag unrhyw gysylltiadau â'r Wladfa) sy'n cyfri bod ganddo gyfrifoldeb dros Dde America.
Mae gan y BBC gyfrifoldeb i ehangu sylfaen ei wasanaethau hefyd, a thrwy sylfaen mwy strategol y gall rhaglenni BBC Cymru barhau i ddenu gwylwyr a gwrandawyr.
Mae lle i berson gyda'ch math chi o gyfrifoldeb gael ei apwyntio yng ngweddill ysgolion uwchradd Cymru, yn arbennig felly yn yr ysgolion cyfrwng Saesneg yn bennaf, os yw addysg ddwyieithog i lwyddo.
Roedd o'n gwnsler profiadol ac ymarferol, a'i gyfrifoldeb o, yn y pen draw, oedd sut i gyflwyno'r achos.
Ond yn awr at gyfrifoldeb y Gwyddonydd yn ei Gymdeithas.
Dyma rai dadleuon o blaid credu bod yr ymadrodd "nid yw yn gaeth" yn golygu mwy na rhyddhau o gyfrifoldeb darparu aelwyd.
Dywedodd fod problemau yng Nghymru ond na ellid eu datrys heb gyfrifoldeb amdanynt.
Sylweddolodd fod byw mewn cymdeithas o'r fath yn gadael llawer o gyfrifoldeb yn nwylo'r llenor unigol a'i ofn oedd y buasai caniata/ u i bob unigolyn ddilyn ei drywydd ei hun yn arwain at anarchiaeth a diffrwythdra.
Mae hynny'n bwysig am fod ymwybyddiaeth o dras (nid trwy waed o angenrheidrwydd) yn debyg o gynysgaeddu pobl a theimlad o gyfrifoldeb.
Yn anffodus, yfai ei gwr ddiodydd meddwol ac ni faliai ddim am gyfrifoldeb magu teulu.
A rhoi'r peth yn nhafodiaith ein hoes ni, y mae gofal am yr amgylchfyd yn gyfrifoldeb sylfaenol a osodwyd arnom gan y Creawdwr.
Roedd - - yn awyddus i weld y cyfrifoldeb o gynhyrchu yn nwylo'r cynhyrchydd a'r materion golygyddol yn gyfrifoldeb ar y cyd rhwng y cynhyrchydd a'r comisiynydd.
Nid yw'r BBC yn barod i dderbyn unrhyw gyfrifoldeb o safbwynt unrhyw broblemau neu golledion a achosir gan arsefydlu RealPlayer yn anghywir o unrhyw ffynhonnell.
Yr oedd gwir angen symud ymlaen a'r cynllun ac argymhellodd fod y Cyngor yn ymgymryd â'r gost o gysylltu'r holl dai a bod Cyfreithiwr y Cyngor yn edrych i mewn i gyfrifoldeb perchenogion y tai a werthwyd gan y Cyngor i gyfarfod â'r gost mewn perthynas i'w heiddo hwy.
Y mae yntau fel petai am ddweud rhywbeth wrthym am gyfrifoldeb pobl pob oes tuag at y dyfodol.
Erbyn hyn mae Hiraethog wedi lleihau ei gyfrifoldeb fel adroddwr.
Yn gyntaf derbyniwyd cyd-gyfrifoldeb dynoliaeth am stâd ein planed a'n dibyniaeth ar y prosesau ecolegol sy'n ein cynnal.
Gwnant yr ymdrech oherwydd yr ymdeimlad o gyfrifoldeb at y gorffennol sydd ganddynt.
Fel y rhai y mae'r prif gyfrifoldeb arnynt am y sefyllfa, gwŷr Gŵr Glangors-fach a'i ferched am fodolaeth y lleill er nad yw Rhys ac Ifan, Elen a Sal yn ymwybodol nad ar eu pennau eu hunain y maent ym murddun y tyddyn.
Yn ôl milisia Hebogiaid Fatah gymrodd gyfrifoldeb am yr ymosodiad, doedden nhw ddim wedi torri gorchmynion Arafat.
Ond nid arbrofi er ei fwyn ei hun mo hwn; yn hytrach yr arbrofi hwnnw gyda dulliau dysgu sydd yn golygu fod y plentyn yn cael mwy o gyfrifoldeb am ei ddysgu ei hun a thrwy hynny yn dod yn fwy annibynnol yn ei ddysgu; yr arbrofi hwnnw sydd yn sicrhau fod athro'n cael gafael ar y gymysgedd addas rhwng dysgu athro ganolog a dysgu plentyn ganolog.
A gan mai gwaith pur anodd yw gosod unrhyw gyfrifoldeb yn gryno ar gefn pwyllgor mawr ac amrywiol rhaid i'r baich yn y pen draw syrthio ar gefn un dyn, yr ysgrifennydd cyffredinol.
Yn wyneb hyn oll, a'r gwasgar a fu ar y gweithwyr ym Maulvi Bazaar o'i achos, gofidiwn yn ddirfawr nad yw Mr Jones yn ymddangos yn teimlo fod unrhyw radd o gyfrifoldeb arno ef am yr hyn a ddigwyddodd, nac yn datgan unrhyw ofid am ei ymddygiadau a'r anghysur a achosodd i eraill; a rhaid i ni ychwanegu ein bod yn rhyfeddu at dôn a chynnwys ei lythyrau diweddaf yn roddi adroddiad mor galonnog a brwdfrydig am y gwaith ar yr orsaf.' Haerid fod Pengwern wedi dweud ei fod 'yn teimlo ei fod yn gwneud i fyny'r hyn sy'n ôl o ddioddefiadau Crist' bryd hyn.
Yn ail gofynnwyd iddo hybu cysylltiadau gwell rhwng yr Eisteddfod a'r Gymdeithas Ddrama a'r cwmni%au, boed amatur neu broffesiynol, oedd yn gweithio yn y Gymraeg, Ac, yn olaf, ei gyfrifoldeb ef fyddai cydlynu a datblygu gweithgareddau drama yn yr ardaloedd hynny oedd yn gwahodd yr Eisteddfod.
Y mae gan y golygydd gyfrifoldeb terfynol am newyddion a ddarllenir fel arfer gan rywun arall.
Mae gan y Swyddog Ymgyrchoedd wedyn gyfrifoldeb dros y Grwpiau Craidd, gan wneud gwaith ymchwil ar eu rhan, rhyddhau datganiadau i'r wasg a chysylltu â'r aelodaeth yn gyffredinol ar ran y grwpiau craidd.
Eisteddais i lawr mewn ofn a phanic fawr am y fath gyfrifoldeb.