Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyfrifoldebau

gyfrifoldebau

Dylid nodi'n eglur gyfrifoldebau athrawon dosbarth ac athrawon eraill o safbwynt cydgysylltu'r ddarpariaeth a wneir gan yr ysgol a chan asiantaethau eraill.

Erbyn hyn nid oes unrhyw reolaeth democrataidd dros Addysg Bellach - mae'r holl gyfrifoldebau yn nwylo'r Quangos.

Bydd Arshad Rasul yn ymuno â Thîm Rheoli S4C ac yn ymgymryd â'i gyfrifoldebau ar Awst 23ain.

Cred Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod creu dyfodol llewyrchus i'r iaith Gymraeg yn un o brif gyfrifoldebau pobl Cymru a bod hynny yn rhan allweddol o ddemocrateiddio ein gwlad a chreu gwell dyfodol i'n pobl a'n cymunedau. Nid ydym yn derbyn fod y Gymraeg yn perthyn yn unig i'r ychydig rai a gafodd fynediad iddi drwy hap a damwain eu magwraeth a'u haddysg, ond yn hytrach y mae'n perthyn i bawb o bobl Cymru fel etifeddiaeth gyffredin, ac yn un o brif nodweddion Cymru fel gwlad.

Hefyd mae nifer o swyddogion blaenllaw Awdurdod Datblygu Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru am eu hamheuon bod y Cynulliad yn ceisio tarfu ar gyfrifoldebau a statws y corff.

Mae gan benaethiaid yr adrannau perthnasol gyfrifoldebau arbennig mewn perthynas a chynnwys, dulliau cyflwyno a safoni.

Mae hyn hefyd yn golygu edrych ar gyfrifoldebau yr Awdurdodau Unedol newydd a gwaith y Quangos, a cheisio creu strwythur sydd yn datganoli grym, yn atebol ac yn dod a grym yn nes at y cymunedau.