Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyfrinach

gyfrinach

'P'run bynnag, rydyn ni'n gwybod y gyfrinach rŵan.' 'Ydyn,' meddai Iestyn, gan ddal i graffu rhwng y cerrig yn y mur fel pe bai yn disgwyl gweld y dyn yn dod yn ôl.

Roedd popeth yn dawel ar lan Afon Ddu a dim i ddangos fod ganddi gyfrinach.

Wedi i'r llais ddistewi, mae'r gyfrinach yn diflannu hefyd.

Doedd Darren ddim yn hapus o gwbl pan ddaeth ar draws Meic Pierce, ond mae gan Meic gyfrinach - ef yw tad Darren.

Dydy hi ddim yn gyfrinach bod y clwb yn ei chael hi'n anodd denu cefnogwyr a'r cyfarwyddwr newydd Geoff Farrell sydd wrth wraidd y syniad.

Yn y rhybudd enwir Iolo Morganwg, ac fe'i disgrifir fel yr unig un a oedd eisoes yn 'Fardd wrth fraint a defod Beirdd Ynys Prydain', sef, fel yr eglurodd yn ddiweddarach, un a wyddai 'Gyfrinach a Breiniau a Defodau Beirdd Ynys Prydain'.

Y gyfrinach, meddai ef, yw synhwyro ar amrantiad beth yw'r pris isaf mae gwerthwr yn fodlon ei dderbyn heb ddangos iddo ef beth yw'r pris uchaf ydych chi'n fodlon ei dalu.

Yn ôl y chwedl, roedd hi'n bosibl i bwy bynnag fyddai'n ddigon ffodus i wrando ar yr anifeiliaid, ddysgu rhyw gyfrinach fawr.

A gan fod y sgwrs yma mor ddagreuol, mi ranna i'r gyfrinach efo chi er mwyn codi dipyn ar eich calonnau.

Mae'r ail stori yn dechrau wrth iddi hi a'i mam-gu fynd am wyliau i Blas yn y gogledd sy'n cuddio ambell i gyfrinach.

Mi gafodd rhai eu colbio ar gam." "Pwy oeddan nhw felly?" "Mae hi'n gyfrinach aiff hefo fi i'r fynwant.

Prin y disgwylid i grwtyn chwilfrydig gydymffurfio a'r gwarharddiad.Fe wn i un peth i sicrwydd, i mi, wrth glustfeinio yno, ddod i wybod aml gyfrinach.Ehangwyd fy ngeirfa aflednais a ddeuthum i ddyfnach adnabyddiaeth o gymdeithas ddauwynebog y Cei.

Gan fod cerddi'r beirdd proffesiynol yn cael eu datgan i gyfeiliant telyn neu grwth (mewn dull y collasom ni yn llwyr ei gyfrinach), fe ffurfiai'r beirdd ynghyd â'r telynorion a'r crythorion un dosbarth o wŷr wrth gerdd, a thebyg fod y cyfarwyddiaid - y gwŷr a adroddai'r hen chwedlau - hwythau'n perthyn i'r dosbarth hwn tra parhaent.

'Roedd gennyn nhw gyfrinach rhyngddyn nhw.

Gyda llaw, wyt ti'n hoffi bwyd ysbyty?' Ac yna, yn ddisymwth, roedd y cyfarfod ar ben a Dei wedi cael mis o amser i gyflawni'r tasgau, ac wedi cael ei siarsio ar boen ei fywyd i gadw'r cyfan a welodd ac a glywodd yn gyfrinach.

Ond nid yw'r dyfodol yn gyfrinach i Ti; gwyddost beth sydd o'n blaen.

Mab y teulu oedd tad y baban, ac fe dalwyd cryn swm o arian iddi am gadw'r gyfrinach a magu'r baban ei hunan.

Mae David Owens yn pwysleisio pa mor anodd oedd hi i berfformio a chynnal cyfweliadau a photo-shoots tran cadwr tensiwn o fewn y grwp a straen dadfeiliad perthynas Cerys a Mark yn gyfrinach.