Gallai argyhoeddi unrhyw Gymro fod Yr Ymofynnydd yn unigryw ac yn werth ei dderbyn a'i ddarllen, gan mai hwn oedd 'misolyn hynaf y genedl', heblaw'r ffaith mai hwn oedd yr unig bapur y gellid ei gyfrif yn gyfuniad o gylchgrawn a newyddiadur, ac yn hollol agored i bawb, heb erioed gau clo ei gloriau yn wyneb neb, boed Drindodwr, Undodwr, amheuwr neu anffyddiwr.
Sefydlodd cyfres deledu gyntaf Owen Money ar gyfer BBC Cymru, American Money, y seren o BBC Radio Wales, fel cyflwynydd teledu poblogaidd a oedd yn amlwg yn mwynhau ei hun, ac roedd Whole Lotta Money yn gyfuniad celfydd tebyg o hiwmor a cherddoriaeth roc.
Efallai nad ydym bob amser yn sylweddoli lawn cymaint ag y dylem y fath gyfuniad prin o gynwysterau y mae'n rhaid wrthynt mewn cyfieithydd ysgrythurol.
Ond ni ellid, ar ôl ymaflyd yn gadarn ymarferol yn y cnewyllyn hwn, gael unrhyw frawddeg yn y byd Cymraeg nad yw'n cael ei hadeiladu o amrywiad neu gyfuniad o hon.
Canent awdlau serch lled faith i dywysogesau a rhai byrrach i ferched anhysbys (ac anghyffwrdd), heblaw dwy 'orhoffedd' sy'n gyfuniad diddorol o ymffrost serch a rhyfel ac o ganu natur.
Anghydwelai Gruffydd a Saunders Lewis a'i gymheiriaid tybiedig am gyfuniad cymhleth o resymau; yr oedd rhagor na'u 'syniadau gwleidyddol' yn achos digofaint iddo.
Os byddai planhigfa o goed derw neu ffawydd neu gyfuniad o'r ddau ar dir y plas elem yno gyda phartner i ogrwn y deilbridd addas fyddai yn drwch danynt a'i storio mewn adeilad ar gyfer amser o angen.
Mae pob elfen ym mioleg creadur - sut y mae'n datblygu wrth dyfu, lliw y llygaid, math o groen, neu faint crafanc anghenfil - wedi ei chynrychioli gan gyfuniad o un neu fwy o unedau gwybodaeth yn y DNA.
Sioe fawr, lwyddiannus sy'n gyfuniad hapus o amaethyddiaeth a thwristiaeth Môn.
ond rhaid imi ddweud y tro yma fy mod erbyn hyn yn sicr na all unrhyw gyfuniad o aelodau Cymreig wneud dim i newid meddwl llywodraeth Lloegr ar faterion Cymreig, ac nid llywodraeth un blaid arbennig a olygaf ond unrhyw blaid.
Yn ogystal â pherfformiadau unigol, ychwanegwyd at y profiad gan gyfuniad effeithiol o actio, delweddu, canu, symud a dawns.
Ond sut y gellir rhagori ar gyfuniad Val Viola, y cwm yn ei ben draw, o dyrau Gothig uchel, o feysydd eira dilychwin pell, o laslyn a fforest a phorfa?
Efallai eich bod yn credu fod y Gymdeithas yn enghraifft o fudiad protest hynod lwyddiannus oedd yn llwyddo yn ei hamcanion drwy gyfuniad o ddulliau cyfansoddiadol ac anghyfansoddiadol.
Dyna'r lle y gwelir ar ei anterth gyfuniad o'r elfennau gwahanol yng ngwaith Davies fel esgob, sef, y gwladweinydd, y bugail, a'r ysgolhaig.