Adferf yw yma yn ôl ei brif swyddogaeth ond aethpwyd i'w gyfuno â'r fannod yn swyddogaeth ansoddair dangosol didoledig, y ...yma, mewn dynwarediad o'r gwir ddangosolion hwn, hon etc., a all weithredu yn swydd rhagenw dangosol neu fel ansoddair dangosol didoledig mewn cydweithrediad â'r fannod.
Llyfr oedd hwn a luniwyd ganddynt trwy gyfuno eu nodiadau eu hynain ac eiddo myfyrwyr eraill o ddarlithiau Saussure.
Trwy gyfuno natur, hanes, archaeoleg, diwydiant, a hyd yn oed broblemau llygredd, fe gre%ir darlun byw a chyflawn o dreftadaeth Ynys Môn.
Ceir yn y ddwy yr un awydd i gyfuno'r brotest lenyddol esthetig a'r defnydd o gyfryngau barddonol blaengar, newydd.
Un o'r pethau sydd yn ddiddorol i ni heddiw ydy na cheisiwyd yn y chwech a'r saithdegau gyfuno'r ddau symudiad: at Brwsel ar un llaw, ac at ddatganoli ar y llaw arall.
Mae'r strategaeth felly yn symbol o'r consensws newydd sy'n bodoli ym myd busnes a datblygu economaidd yng Nghymru ac yn Ewrop ac sy'n anwybyddu'r hen wrthgyferbyniad rhwng y 'Wladwriaeth' a'r 'Farchnad' a lywiodd gymaint o'r trafod yn yr wythdegau, a hynny trwy osod nod strategol sy'n ymgais i gyfuno buddiannau pawb yn y gymdeithas ar lefel ranbarthol.
Ni lwyddwyd bryd hynny, mwy na rwan, i gyfuno'r gwahanol ddiffiniadau.
Ymunodd Steve Evans â BBC Radio Wales hefyd, gan gyfuno ei rôl o gyflwyno'r rhaglen materion cyfoes Sunday Edition gyda'i brîff diwydiannol ar gyfer Newyddion y BBC yn Llundain.
Wedi'r ffilmiau bu cyfle iddo drafod yn Chapter eu hunion grefft, am gwta dri chwarter awr pryd, y nododd fel dawn sylfaenol gwneuthurwr rhaglenni y grefft o gyfuno'r gallu i ddweud stori a'r gallu i dynnu llun - dau beth sy'n gynhenid i ni'r Cymry, yn ôl Gwyn Erfyl.
Fe gynhyrchir y rhai cyntaf drwy gyfuno llythrennau'r chwe phentref ar siawns.
Mae'r Penwythnos, o dan y teitl 'Gweithredu, Lobïo a'r Cynulliad', i'w chynnal yng Nghanolfan Rhyd-ddu, Gwynedd, a'r bwriad yw edrych ar sut i gyfuno dulliau lobïo newydd gyda gweithredu uniongyrchol.