Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyfunol

gyfunol

Yn gyntaf, na fu wedi marw Elisabeth hyd at drothwy'r ugeinfed ganrif na chais na bwriad gan neb o bwys yng Nghymru i ddatod dim ar y cwlwm a unodd Gymru wrth Loegr na gwrthwynebiad o unrhyw gyfri i'r egwyddor o deyrnas gyfunol a diwahân.

Edrychent ar y Deyrnas Gyfunol fel uned gyda'r Saesneg yn iaith yr uned honno.

Nid oes gan y Deyrnas Gyfunol gyfansoddiad ysgrifenedig a'r traddodiad hwnnw o gymryd pethau'n ganiataol oni phrofir yn wahanol sydd i gyfrif am nad oes datganiad ffurfiol o statws swyddogol y Saesneg fel sydd ar gyfer ieithoedd eraill mewn gwladwriaethau sydd â chyfansoddiad ysgrifenedig.

Ai oherwydd ei bod yn ail iaith swyddogol yn Iwerddon, neu am mai Saesneg yw iaith swyddogol de facto y Deyrnas Gyfunol?

Roeddwn yn arbennig o falch o'r ffordd y chwaraeodd Cyngor Darlledu Cymru ei ran yn y trafodaethau ar y cyfleoedd newydd sydd yn awr ar gael i'r rhwydwaith ac i wasanaethau radio a theledu Cymru yn y ddwy iaith, a bydd yr aelodau'n monitro'r ffordd y portreadir perthnasedd materion newyddion amrywiol i gynulleidfaoedd mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Gyfunol yn agos iawn.

Bydd hyn yn galluogi busnesau yng Ngwynedd a staff yr Awdurdod i gyfathrebu â'i gilydd ac â chanolfannau led-led y Deyrnas Gyfunol a'r tu draw.

Am y tro cyntaf erioed bydd gwylwyr ym mhob cwr o'r Deyrnas Gyfunol yn gallu gwylio'r bwrlwm i gyd, waeth ym mhle maen nhw'n byw, am fod S4C Digidol ar gael ar loeren.

Derbyn y naill egwyddor a wnaeth llenyddiaeth Gymraeg, derbyn y Deyrnas Gyfunol.

Clasur mawr cyntaf y Deyrnas Gyfunol yn y Gymraeg yw'r Bardd Cwsc. Y frenhines Ann gyda Llyfr Statud Lloegr dan ei naill law a'r Beibl dan y llall yw arwr y clasur hwnnw.

Ers ei sefydlu ym 1983, mae Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC, Corws Cymreig y BBC gynt, wedi ennill ei blwy'n eang yn un o'r corau cymysg blaenllaw yn y Deyrnas Gyfunol.

Gwnâi hynny trwy anfon llythyrau am gefnogaeth i'r eglwysi, i'r awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill, yng Nghymru a thrwy weddill y Deyrnas Gyfunol.