Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyhoeddid

gyhoeddid

Fe gyhoeddid rhyw fath o ddyddiadur - dyddiadur a dim ond Suliau ynddo fo - Suliau am ddeng mlynedd ymlaen.

Prynais yno hefyd rai o lyfrau Mordaf Pierce a gwþr llengar eraill o sir Aberteifi; cefais yno gannoedd o lyfrau yn ymwneud â sir Feirionydd o gasgliad Edward Griffith y llyfrbryf, Dolgellau, ac yno, yn ddiweddar, deuthum ar draws set gyflawn o gopi%au o'r "Undebwr" papur Tori%aidd a gyhoeddid yn sir Aberteifi adeg helynt Iwerddon.

Byddai'r cylchgrawn hwn a gyhoeddid gan enwad bychan yn cyrraedd cartrefi dros bedwar ban y wlad gan gymaint croeso a gawsai'r golygydd eisoes ar aelwydydd Cymru, drwy gyfrwng y radio a'r teledu, fel colofnydd wythnosol Y Cymro, a golygydd papur cenedlaethol yr henoed.

Ynddo defnyddid gweledigaethau hynod, arwyddion a delweddau dirgel, rhifau cyfrin, a disgrifiadau nerthol i ddynodi chwerwder y frwydr rhwng y wladwriaeth a phobl Dduw; a'r sicrwydd hefyd mai gan Dduw oedd yr oruchafiaeth ac mai Iesu a gyhoeddid yn y diwedd Yn Frenin brenhinoedd ac Arglwydd arglwyddi.

Gwylltiai hefyd pan gyhoeddid dedfryd megis 'Marwolaeth drwy ddamwain' neu 'Marwolaeth drwy ymyrraeth Duw' ar ddiwedd cwest i farwolaeth glo%wr, ac yntau'n gwybod o'r gorau mai esgeulustod y meistri oedd yn bennaf cyfrifol am y drychineb.