Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyhoeddus

gyhoeddus

Roedd yn enedigol o ardal Ardda a threuliodd gydol ei hoes yn ardal Trefriw, yn wraig uchel ei pharch i bob achos teilwng, yn aelod ffyddlon o Gapel Ebenezer, yn athrawes Ysgol Sul am rai blynyddoedd, a chymerai ran gyhoeddus yn y gwasanaethau.

Dyma ddechrau newydd ac euthum ar raglen 'Heddiw' y BBC o Fangor y noson honno i ddathlu yn gyhoeddus.

Llongyfarch Joschka Fischer 'am ei waith ardderchog ac am ei weledigaeth' a wnaeth Chirac, gan dynnu blewyn o drwyn Jospin yn gyhoeddus.

(Yng nghyd- destun y Cymal hwn golyga "o natur rywiol amlwg" weithred, pe'i perfformiwyd yn gyhoeddus a ystyrid yn fasweddus).

Mae hi'n haws pregethu ar bwnc yr iaith yn gyhoeddus nag yn y cartra.

Dyblwyd a threblwyd yr emyn a daeth llanc ifanc ymlaen, un nad oedd erioed o'r blaen wedi gwneud dim yn gyhoeddus, a bwrw ati i ddiolch am farwolaeth y Groes ac i weddi%o'n daer am "awel o Galfaria fryn".

Fodd bynnag, erbyn diwedd y degawd hwnnw roedd cyfuniad o ddirywiad yn yr economi, polisi o gwtogi ar wariant cyhoeddus a rhagolygon o boblogaeth sefydlog yn arwain at leihad sylweddol yn rhan y sector gyhoeddus swyddogol ym maes darparu cartrefi.

siaradai llawer o wy ^ r amlwg prydain yn gyhoeddus yn erbyn rhyfel ac ar un adeg dywedodd un o weinidogion y llywodraeth mai angen, newyn, haint a marwolaeth yw rhyfel.

Dechreuodd yr ymgyrch gyhoeddus gyda rali fawr a drefnodd ar lannau Tryweryn, lle y rhoddais rybudd mai unig obaith llwyddiant oedd ymgyrch nerthol iawn cyn i'r mater gyrraedd y Senedd.

ii) cymryd diddordeb uniongyrchol personol mewn rhaglenni iechyd a diogelwch, ac yn cefnogi'n gyhoeddus bob person sy'n eu gweithredu;

Nodwedd arbennig y cyfarfodydd hyn, fel ym mhobman yng Nghymru ar y pryd, oedd fod pobl yn cymryd rhan yn ddigymell, llawer ohonynt yn bobl nad oeddent wedi cymryd rhan yn gyhoeddus erioed o'r blaen.

Caiff dyletswyddau y Cyngor Darlledu eu rhestru yn Siartr y BBC. Yn fyr, maent yn cynnwys: sefydlu a monitror farn gyhoeddus am raglenni a gwasanaethau drwy ymchwil cynulleidfa; cynghorir BBC ar sut mae'r amcanion yn adlewyrchu buddiannau Cymru; cynorthwyor Gorfforaeth i lunio amcanion, eu monitro a helpur gwaith o ddosrannu cyllid ar gyfer rhaglenni a gwasanaethau o fewn cyllideb gyffredinol Cymru; cyflwyno barn i'r BBC os oes newid arwyddocaol yn sail adnoddur Gorfforaeth; gwneud yn siwr fod unrhyw sylwadau, cynigion a chwynion a wneir gan gynulleidfaoedd yng Nghymru yn cael eu trin yn addas; adolygu a mynegi barn am raglenni â gynhyrchir gan BBC Cymru fel rhan o'r Adolygiad Perfformiad Blynyddol; gwneud yn siwr fod anghenion talwyr y ffi drwydded yn cael eu diwallu yn gyffredinol; gwneud sylwadau ar y cyd-destun cystadleuol a gwleidyddol yng Nghymru i'r graddau y maen effeithio ar raglenni a gwasanaethau BBC Cymru.

ch) cywiro sefyllfa ble caniateir o fewn y sector gyhoeddus i weithredu yn uniaith Saesneg ond nid yn uniaith Gymraeg, er enghraifft wrth gofrestru babanod, lle gellir gwneud yn uniaith Saesneg neu yn ddwyieithog ond nid yn uniaith Gymraeg.

Pan bregethais y Traet~awd hwrl gyntaf yn gyhoeddus, Fy Nhafol oe~ B;n ysgrifcnny~ an, rhy fu~n, rnae'n debig, i'r Sawl oedd yn dywed, gofio a chynnwys y M~tter yn gryno: etto c~fodd Ef~ith ar Glu~tiau, ac (yr wyf yn gobeithio) ~r Galorm~u rai, fd y t~er ddymun~nt ei lrgr~phu.

Os ydych chi am weld un o olygfeydd hardda natur sy wedi cael ei chreu gan law dyn, yna ewch i weld Cloc Blodau mewn parc neu mewn gardd gyhoeddus sy'n perthyn i dre fawr.

Ni welwn fawr ddim diben mewn gwneud y Gymraeg yn brif gyfrwng addysg holl ysgolion Categori A y sir, oni ddaw'r Gymraeg wedyn yn brif iaith gweinyddiaeth gyhoeddus a mewnol ein prif sefydliadau.

Yn wyneb y dehongliad "treisgar" a roddai rhai pobl barchus ar dân Penyberth, yr oedd e'n tybio mai da fyddai pwysleisio'n gyhoeddus mai plaid gyfansoddiadol a heddychol oedd y Blaid; ond yn ôl y cof sydd gennyf i, nid oedd e'n sicr mai doeth fyddai codi'r mater i'r gwynt yn y Gynhadledd: tebyg ei fod yn ofni yr ai'n ddadl fawr ar y cynnig, a hynny'n fel ar fysedd y collfeirniaid o'r tu allan.

a) cynnwys y sectorau preifat a gwirfoddol ynddi fel cydnabyddiaeth o'r trawsnewid sydd wedi digwydd wrth ystyried darparwyr gwasanaethau a fu'n draddodiadol o fewn y sector gyhoeddus, twf cyffredinol y sector breifat ac edwiniad cymharol y sector gyhoeddus, a mentrau ar y cyd rhwng sectorau.

Fe ddywedodd nhad lawer gwaith yn gyhoeddus nad oedd y tŷ o'r gwneuthuriad gorau, a fod yna gap rhwng y ffenest a'r parad.

Ac nid yw medru dweud Fe ddwedon ni yn rhoi dim pleser i'r rhai hynny ohonom a rybuddiodd y byddai gwasanaeth a diogelwch yn dioddef wrth i gyfundrefn drafnidiaeth gyhoeddus o'r fath droin ffynnon broffid.

Faint ohonom sy'n mynnu dangos ein parch at yr iaith wrth ei siarad yn gyhoeddus, ond sy'n ei hanwybyddu yn y diregl, er enghraifft, wrth ysgrifennu llythyr neu wrth lenwi ffurflen?

Fe'i heriodd i'w wynebu mewn dadl gyhoeddus a phan wrthododd yr eglwyswr cyhoeddodd gyfres o lythyrau chwyrn yn achub cam merched ac Ymneilltuwyr Cymru yn y Monmouthshire Merlin a'r Caernarvon Herald, a'r llythyrau hyn a fu'n sail i'w bamffled grymus, ...

Mewn gwirionedd, cynhaliwyd dau gyfarfod, y cyntaf yn breifat a'r ail yn gyhoeddus.

Nid yw'n annheg dadlau fod y ddisgyblaeth hon wedi crisialu'n ddiweddarach yn barchusrwydd ffurfiol a phobl yn canmol y gwerthoedd yn gyhoeddus ac yn eu gwadu yn y dirgel.

Ond gair o gyngor cyn i fi fynd - paid â gwneud bygythiadau fel 'na'n gyhoeddus 'to.

Roedd yn greadur gwreiddiol, ac er bod atal dweud arno, roedd ganddo dduU unigryw a doniol o areithio'n gyhoeddus.

Eu gobaith hwy oedd y byddai eu pregethu'n creu barn gyhoeddus ddigon cref i ddylanwadu ar y Senedd i wneud gwelliannau.

Gyferbyn a'r Rex lleolir siop y Valley Videos ac yn oes mwy unigolyddol y peiriant fideo aeth y sinema gyhoeddus ar i lawr (er bod arwyddion o ddadeni diweddar yn ei hanes gyda dyfodiad y system multiplex o America lle ceir ffilmiau, bariau, clybiau a bwytai oll o fewn yr un adeilad).

Mewn cyfnod pan na cheid heddlu ystyrid mai disgyblaeth yn y cartref oedd y dull mwyaf effeithiol ac ymarferol i sicrhau heddwch a threfn yn gyhoeddus a moesau da mewn bywyd personol.

Fodd bynnag, 'rydw i am geisio ateb cwestiynau sydd wedi eu gofyn lawer o weithiau i mi - "Ydi dy dad yn un mor ddoniol ar yr aelwyd ag ydi o yn gyhoeddus?" Neu bellach wrth gwrs "Oedd o?" (Ydi mae'n anodd dweud 'Oedd o?' am nhad.

At hynny, mynegais y farn mai anodd oedd i odid neb aros yn ddi-Gymraeg yn y sir ddwyieithog hon ar ol byw yma am rai blynyddoedd - ac eithrio'r rhodresgar, y meddyliol-anneallus, neu'r diog: yn enwedig unrhyw un mewn swydd gyhoeddus.

Mae'r neges yn aros, ar drafnidiaeth gyhoeddus y mae angen gwario nid ar gael mwy o geir ar y ffyrdd.

ato ef daeth y gŵr ifanc marconi i geisio cymorth i brofi ei ddyfais newydd i drosglwyddo negesau heb wifrau ; bu'n brif beiriannydd y swyddfa bost, ac yn ddiweddarach yn arloeswr gyda'r sistem gyhoeddus o gyflenwi trydan.

Troes ei obsesiwn yn amgueddfa gyhoeddus.

(iii)Caniatau'r ceisiadau canlynol dan yr amodau a nodir ar eu cyfer yn y Gofrestr Ceisiadau:- Cais amlinellol - newid defnydd tir gwag ar gyfer diwydiant Cais llawn - arwydd wedi ei oleuo'n allanol Cais llawn - estyniad i falcon Cais amlinellol - tŷ annedd Cais llawn - manylion mynedfa a ffyrdd ystad, ac ail-leoli cyffordd ffordd gyhoeddus ar gyfer parc bwyd/amaeth gyda lladd-dŷ (Datganwyd diddordeb yn y cais hwn gan y Cynghorydd JR Jones ac ymneilltuodd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio).

Anodd oedd annerch yn gyhoeddus mor fuan ar ôl profedigaeth, ond rhaid oedd ufuddhau i'r alwad.

Y mae'n iawn dweud diolch wrthyn nhw yn gyhoeddus ac yn iawn ceisio cael eu henwau yn y papurau.

Anllythrennog oedd llawer o'r hen frodyr a gymerai ran yn gyhoeddus, yn fwy o bosibl na'r ieuenctid a fynychai'r Ysgol Sul.

yr oedd yr hynaf, joseph, wedi dechrau chwarae'n gyhoeddus ar y delyn yn bedair oed ; pan oedd yn ddeuddeg fe gyhoeddodd gasgliad o alawon cymreig, british melodies ".

Y mae angen cydnabod, felly, fod y berthynas addysgol rhwng oedolyn a disgybl neu fyfyriwr (a hefyd y berthynas rhwng myfyriwr a myfyriwr) yn berthynas gyhoeddus.

Digwyddais alw i mewn y diwrnod o'r blaen - a rwyn ymddiheuron gyhoeddus yn awr i'r ddau tu ôl i'r cownter am dorri ar draws eu sgwrs trwy holi am gopi o Restr Testunau Eisteddfod Dinbych y flwyddyn nesaf - a chael yr ateb, Dydyn nhw ddim allan eto, gan un o'r ddau.

Erbyn hyn wrth gwrs, a Morfudd wedi bod yn ei bwthyn ers sawl blwyddyn, ac atyniadau llawer mwy pêr wedi cyrraedd y pentref i ddifyrru'r tafodau yn y cyfamser, anaml iawn y byddai unrhyw drafod ar yr hen wraig, yn gyhoeddus o leiaf.

Yna dechreuais weiddi ac hyd yn oed sgrechian, ond yr hyn a weithiau fel brec arnynt oedd llond ceg o Gymraeg na fuaswn yn ei defnyddio'n gyhoeddus adre!

Nid yw'n ymestyn i bob rhan o'r sector gyhoeddus.

Gydol ei oes gyhoeddus, hefyd, dadleuodd bod anufudd-dod dinesig yn anorfod yn y frwydr genedlaethol yng Nghymru.

Rhaid sicrhau fod y statws yn ddiamwys drwy'r sector gyhoeddus led led Cymru.

Mae gan Bellamy gytundeb pedair blynedd gyda chlwb Highfield Road - ac, yn gyhoeddus o leia, mae hi'n ymddangos y bydd yn parchu'r cytundeb hwnnw.

Pan weddi%ai'n gyhoeddus gwyddai pawb ei fod wedi treulio cryn amser cyn hynny'n gweddi%o'n ddirgel.

Bu yn athrawes Ysgol Sul am rai blynyddoedd, a chymerai ran gyhoeddus yn y gwasanaethau.

O ddarllen y rhain, ynghyd a'r gweithiau eu hunain, ceir darlun sy'n cyfuno'r personol a'r swyddogol-gyhoeddus.

O ddifrif, wrth gwrs, mi ddylai pawb ohonom wneud mwy o ymdrech i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Nid oeddwn erioed wedi dweud gair ar wleidyddiaeth yn gyhoeddus.

Ymhellach, cefnai'r disgyblion ar ddysgu iaith gyda theimladau negyddol, sef nad oeddent hwy'n ddigon da i fynd ymlaen â'r gwaith ac y byddent, o barhau, yn methu ag ennill cymhwyster a fyddai'n cael ei gydnabod yn gyhoeddus.

Mi fydd disgwyl hefyd i Rod Richards gydweithio efo awdurdodau lleol - Ynys Môn, er enghraifft, sydd, yn ei farn gyhoeddus o, yn llawn llygredd; neu awdurdodau Llafur y De, wedyn, a fyddai, yn ôl ei awgrym o eto, yn fodlon gwerthu'u nain yn hytrach na chanu iddi.

Nid yw'n ymestyn i rannau helaeth o'r sector gyhoeddus e.e. ni ellir cofrestru genedigaethau a marwolaethau yn y Gymraeg er i'r frwydr hon gael ei hymladd gyntaf bron i ddeugain mlynedd yn ôl.

arwyddion adeiladau'r Cynulliad a phob gwybodaeth gyhoeddus sydd yn ymwneud â'r cyhoedd i fod yn ddwyieithog.

Bydd y rhelyw o rhain yn siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf erioed, ac felly, yn haeddu cydymdeimlad a ddealltwriaeth.

Nid wyf yn cofio a oed dhi'n gweddio yn gyhoeddus.

Mae cyrychiolaeth drom o'r sector hwn yn ardal y cynllun yn y sector gyhoeddus, adwerthu a thwristiaeth.

Ofnai rhai mai cynllwyn ydoedd cefnogaeth y Blaid Rhyddfrydol er ceisio marchogaeth ar gefn y farn gyhoeddus a oedd yn prysur gryfhau o blaid Senedd; "Cast etholiadaol ydyw%, meddai Saunders Lewis gan gyfeirio'n amlwg at yr etholiad cyffredinol a oedd ar ddod, a mynnai rhywun fod yn Rhyddfrydwyr yn bwriadu defnyddio Cymru er mwyn eu plaid a Phlaid Cymru am ddefnyddio'r Blaid er mwyn Cymru.

'Roedd hyn wedi digwydd tua dwy flynedd a hanner cyn i'r peth ddod yn gyhoeddus a chyn i Nolini ddod yn wraig i Badshah.

Ac yn wir dyma'r awel yn dod, ac yn rhoi Richard Owen ar lawr ar ei liniau i weddio'n gyhoeddus am y tro cyntaf erioed am wn i, ac yna yr oedd yn ceisio gweddio yn ei ddagrau, ac yn methu dweud dim, ond dyma fo yn medru gweiddi allan: 'O Arglwydd, maddau, maddau, maddau imi.

Y nod yw efelychu llwyddiant Denmarc, Valencia yn Sbaen, Emilia-Romagna yn yr Eidal, Baden- Wuerttemberg, ein chwaer-ranbarth yn yr Almaen a rhai o daleithiau America fel Pennsylvania wrth greu yr hyn a elwir yn 'rhwydweithiau cydweithredu' rhwng cwmni%au bach a mawr a rhwng y sector breifat a'r sector gyhoeddus.