Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyllell

gyllell

Fe'i sadiodd ei hun, ac wedi sticio'r fforc yn y glun agosaf ato, chwiliodd â'r gyllell am y cymal cyntaf.

Os digwydd i ddwy gyllell groesi ei gilydd ar y bwrdd, bydd cweryl yn y teulu.

Cynorthwywyd ef i ddod allan o'r ffos gan Ernest a'r bonheddwr ieuanc, ac wedi iddo ddod ato'i hun cafodd fod ei geffyl gwerthfawr wedi torri ei goes, ac ebe Ernest: `Wel, wel, mae'r cwbl drosodd efo fo; gadewch i ni ei roi allan o'i boen,' a chan dynnu ei gyllell allan, torrodd y brif wythi%en yn ei wddf, a gwaedodd yr anifail yn fuan i farwolaeth.

Ar ddiwrnod cneifio yn Llannerchirfon ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf fe ganodd Selby Price, bardd gwlad hynod ffraeth o'r fro, fel hyn i'r gyllell y cafodd ei benthyg gan Nedi Pen-dre, Tregaron:

Gafaelai'r dwblwr mewn un pen o'r llafn a'i ddyblu ar lawr y felin, ac yna ei godi at fwrdd y shêr, ei gymhwyso, ei roi o dan y gwasgwr, ei drin o dan y gyllell, ac yna ei daflu ar draws y felin at y gweithiwr ffwrnais.

Yn ei ddicter a'i wylltineb, tynnodd y crwydryn gyllell o'i boced i drywanu Idris ond torrodd honno'n ddarnau pan darodd yn erbyn y wisg ddur a oedd o dan ddillad Idris.

Mi wyddoch o'r gora sut byddwch chi." Yr oedd fy nghyfaill Williams yn hogi'r gyllell ar bigau'r fforc.

Bydd y plant wrth eu boddau yn casglu gwahanol gregyn, gan loffa yma a thraw a chael llygad maharen, gwichiad y gwymon neu gyllell for.

Tynnodd Alun ei gyllell o'i boced a thorri'r lein.

"Ydi," ebe'i ffrind, "Torrodd y llythrennau "DB" hefo'i gyllell boced ar un o lysiau gorau'r prifathro yn ei dŷ gwydr.

Yn methu'n lân, fodd bynnag, â'i leoli, suddodd y gyllell i lawr am y cymal sy'n cysylltu'r aelod wrth y corpws, a dechreuodd hacio'n hyderus yn y diriogaeth honno.

A waeth heb a malu awyr am brydferthwch cwysi union gwŷdd main yn sgleinio yn yr haul, a siffrwd y gyllell drwy'r dywarchen, a rhugl y cwlltwr drwy'r pridd wrth i wedd o geffylau porthiannus ei dynnu, a'r certmon rhwng y cyrn yn ei ddal ag un troed yn y rhych ac un goes yn fwy na'r llall drwy'r dydd.