Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyllideb

gyllideb

cymharu yn gyson y canlyniadau â'r gyllideb er mwyn darganfod camgymeriadau, rheoli gwaith aelodau o'r staff sy'n gyfrifol am wahanol adrannau, a darparu data at gyfer amcangyfrifon pellach at y dyfodol.

Bydd y gyllideb gwerthiannau yn dangos faint o gynnyrch yr arfaethir ei werthu a'r elw gros y gellir ei ddisgwyl oddi wrtho; bydd y gyllideb gynhyrchu yn dangos y nifer a'r mathau o nwyddau y bwriedir eu cynhyrchu, a'u gwerth, ac yn y blaen, am bob agwedd ar weithgarwch y busnes.

Wrth ystyried cynlluniau unigol, dylid meddwl am gyllideb adennill tir diffaith mewn perthynas ag ynni ac, ym mhob achos, dylid ystyried y dewis o beidio â gwneud dim.

Mae'r gyllideb hon yn agored i gynigion gan y grwpiau cleient/defnyddwyr, yn ogystal â'r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Awdurdod Iechyd a'r sector annibynnol.

Er enghraifft, yn yr Unol Daleithiau gall gymryd misoedd i'r Arlywydd berswadio'r Gyngres i dderbyn ei gynigion ynglŷn â'r Gyllideb.

Gellir dangos wedyn sut y mae'r gwerthiannau a gyflawnir yn cymharu â'r gyllideb:

Y mae'r flwyddyn yn gyfnod naturiol i'w ddewis er mwyn gwneud cyllideb ond bydd llawer o fusnesau (os ydynt o unrhyw faint) yn gwneud cyllideb am fis neu chwarter, ac yn gwylio'r perfformiad trwy gynhyrchu cyfrif a'i gymharu â'r gyllideb ar ddiwedd y mis neu'r chwarter.

Pan ddown at fyd busnes, y mae'n bosibl inni wneud amcangyfrif (neu gyllideb, fel y'i gelwir yn gyffredinol) am y flwyddyn, a chymharu'r cyfrif elw a cholled ag ef ar derfyn y cyfnod.

Y mae'r gyllideb gwerthiannau yn effeithio ar gynnyrch y ffatri, ar y pryniannau ac ar ddylifiad arian; yn yr un modd, bydd y cyfyngiadau ar gynhyrchu yn penderfynu pa faint y gellir ei werthu.

Os yw'r busnes o unrhyw faint, golyga hyn baratoi cyllideb ar gyfer pob adran; bydd y cyllidebau adran hyn wedyn yn cael eu cyfuno mewn cyllideb elw a cholled i'r busnes cyfan, a byddant hefyd yn rhoi'r ffigurau angenrheidiol er mwyn paratoi'r gyllideb ariannol, a fydd yn dangos y dylifiad o arian i mewn ac allan a'r amcangyfrif o'r fantolen ar ddiwedd y cyfnod.

Cloriannu'r gyllideb; fedrwch chi ddim gwneud pethau crand efo ceiniog a dimai, mae'n rhaid i chi wneud pethau diymhongar - ond da.

Ar yr un pryd, mae'n rhoi lle i fentrau gan staff y llinell flaen trwy'r gyllideb a ddatganolwyd.

Wrth edrych yn ôl, bach iawn hyd yn gymharol ddiweddar oedd y newidiadau o flwyddyn i flwyddyn yn y Gyllideb: ac y mae'n annhebyg felly fod y rheiny wedi dylanwadu ryw lawer y naill ffordd neu'r llall ar gwrs yr economi, yn arbennig o gofio am y sefydlogrwydd cynhenid sy'n deillio o system trethiant esgynraddol, budd-daliadau diwaith, a sefydlogyddion tebyg.

Fel rhan o gyfraniad cadarnhaol S4C i fywyd ieithyddol, diwylliannol ac economiadd Cymru, mae 95% o'r gyllideb raglenni yn cael ei gwario'n uniongyrchol yng Nghymru gan greu swyddi a chyfrannu at ffyniant economaidd y wlad.