Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gymdogaeth

gymdogaeth

Yn y graig honno mae ogof Rhys Gethin, un arall o gefnogwyr Glyndwr yn y gymdogaeth.

Y mae 'anllywoadraeth a lladrad', meddai ymhellach, yn sicr o lygru 'hil gŵr a nerth gwâr yn ei ôl', a 'hwnnw sy'n gyfion', yn 'geidwad', yn 'gadarn', yn 'gall' ac yn ŵr 'da'r synnwyr' yng ngherddi Wiliam Llŷn, os nad hwnnw a oedd ei hyn yn benteulu a gadwai drefn ddisgybledig ar ei dy a'i dylwyth ac a estynnai gortynnau ei warchodaeth i gylch ehangach ei gymdogaeth.

Dyna drist fod arwydd o gymdogaeth glo\s yn rhywbeth i synnu a rhyfeddu ato yma.

Mae Elin yn ymweld â chartre'r henoed ac yn methu adnabod Martha, hen fenyw a arferai fod yn adnabyddus yn y gymdogaeth fel person cymwynasgar oedd yn rhedeg siop y pentref.

Yr oedd yr Wyddgrug yn ddyledus am ei llwyddiant i'r chwyldro diwydiannol a chyfoeth mwynol y gymdogaeth.

Dysgai ei ddawn i drin ei lys ei hyn iddo sut y gallai drin ei gymdogaeth a materion y wladwriaeth sofran.

Pa wendidau bynnag a ganfyddid yn ei berthynas â'i gydnabod, ei statws ar ei aelwyd ei hun ac adlewyrchiad ohono o fewn ei gymdogaeth a gyfrifai fwyaf.

Y peuoedd traddodiadol i'r Gymraeg oedd yr aelwyd, y teulu ymestynnol, y gymdogaeth, y gymuned, y capel neu'r eglwys a mannau gwaith.

Gall y Stiwt fod yn ganolfan y ddrama a cherdd yn yr ochr hon o Sir Clwyd a phwy a wyr na ellir sefydlu cwmni bach proffesiynol o actorion yma a fyddai'n gwasanaethu'r gymdogaeth drwy'r ysgolion a'r neuaddau bach gwledig.

Ond llawer mwy difrifol na'r ddeubeth hyn oedd fod Evan Meredith yn amau fod i Forgan ran mewn dwyn achos o odineb yn ei erbyn yn llys yr esgob yn Llanelwy, er bod Morgan yn gwadu hynny; a hefyd y ffaith ddiymwad fod Morgan wedi helpu i sicrhay llaw aeres Maesmochnant, un o stadau cyfoethocaf y gymdogaeth, ar gyfer Robert Wynne, mab ei noddwr, Maurice Wynn o Wedir, er bod Edward Morris hefyd a'i lygad arni.

Fe ddechreuodd siarad â'i mam, a chafodd wybod eu bod yn dod o gymdogaeth ei wraig, ac yn wir ei bod wedi enwi'r ferch ar ôl ei Linda ef.

Daeth cwmwl o dristwch dros y gymdogaeth pan fu Mr Huw Williams, Pencoed farw ac yntau ar ei wyliau gyda'i deulu yn Creta.

Nid oedd peiriannau heddiw gan y ffermwyr i hwyluso'u gwaith, ond roedd cyd- ymdrech gan y teulu cyfan a'r gymdogaeth yn rhoi boddhad iddynt er gwaetha'r gwaith caled.

Mawr oedd y syndod a'r llawenydd a'r siarad trwy'r gymdogaeth ar yr achlysur; ond yr oedd Robin y Glep, druan, fel wedi ei daro â dychryn a mudandod; yr oedd ei holl ddaroganau wedi profi'n gelwyddog.

Y broses allblygol; rhannu doniau â chefn gwlad; adlewyrchu'r goludoedd a fuasai'n hanfod ei gyff ei hun ac a ddangosai y 'mawredd a chymeriad' a feithrinai ' o gadw tŷ gwedi y tad': y nodweddion allblygol hynny a roddai ystyr i fywyd yr uchelwr; hebddynt ni allai ei gyfiawnhau ei hun yng ngolwg ei geraint, ei gymdogaeth, na'r wladwriaeth a roesai iddo wisg gydnabyddedig ei statws gweinyddol.

Byddwn i'n gyff gwawd i'r gymdogaeth gron pe...'

'Tŵr a gâr gwald' ydoedd y plasty i Ruffudd Phylip, sef cartref diddos i'r gymdogaeth y lleolid ef ynndi.

O ganlyniad yr oedd yn ofynnol i amryw o bregethwyr gadw fferm neu dyddyn, a gwyddys fod William Evans yr efengylwr o Gwmllynfell yn un o'r amaethwyr mwyaf cysurus yn y gymdogaeth.

Cododd y dref a'r gymdogaeth rai gwŷr galluog eraill, megis John Blackwell (Alun), Thomas Jones (Glan Alun), John Davies, Nercwis.

Enwau ar yr haenau o lo sy'n britho'r ardal ydynt, wrth gwrs, ac er bod y mwyafrif llethol o lofeydd y gymdogaeth bellach wedi cau, y mae enwau'r gwythiennau glo yn dal ar dafod leferydd glowyr y fro.

Ni ellir dibrisio 'lleoliaeth' a'r syniad o berthyn yn glos iawn i ardal neu gymdogaeth ymysg ysweiniaid y ddwy ganrif hynny.

Anwybyddir y gymdogaeth yn gyfan gwbl yn y rhan fwyaf o'r wlad wrth benderfynu ffiniau'r cynghorau dosbarth.

Ffyrdd a newidiodd lawer ar batrwm cymdeithasol yr ardal oedd y rhain, gan rannu yr hyn a fu unwaith yn gymdogaeth hamddenol.

Yr oedd wedi byw bywyd crwydrol braidd am lawer o flynyddau, weithiau yn Llanwrtyd, yn enwedig yn yr haf, ond bob gaeaf braidd yn dod adref i gymdogaeth Ammanford a Llandybi%e, ei hen ardal enedigol .

Am ei geffyl y meddyliai Harri ddydd a nos, ac aeth sôn amdano drwy'r gymdogaeth.

Arwydd o gymdogaeth dda oedd hynny.

Gwahaniaeth arall ynddynt rhagor yr ysgyfarnog 'Gymreig' yw'r ffaith fod eu tiriogaeth yn eang iawn a'u bod yn symud gyda'i gilydd o un gymdogaeth i gymdogaeth arall o flaen storm neu berygl.

Yr oedd rhyw angladd mewn cymdogaeth wledig fel Cwm-garw y pryd hwnnw, lle'r oedd y tai yn anaml, yn beth i sôn amdano, ond heddiw dyma angladd cymydog, angladd perthynas, angladd hen ddyn yr oedd y gymdogaeth yn ei barchu a'i anwylo, - angladd ewyrth Richard Cwm- garw, yn codi o'r tŷ o fewn lled dau gae i'n tŷ ni.

Rhoddir gwybodaeth am ei hynafiaid anniddig yn Eifionydd, y gymdogaeth y maged ef ynddi, a'i gysylltiad â Chrug yn Isgwyrfai a Dolwyddelan yng nghwmwd Nanconwy.

Chwalodd ei deulu a chollodd ei gartref er ys llawer dydd, ac aeth yntau yn grwydryn o'i hen gymdogaeth, ond daliodd i ganu hyd y diwedd.

Mi roedd y trigolion wedi cael llond bol ar ymddygiad y bachgen ac wedi dwyn y mater i sylw'r heddlu yn ystod cyfarfod o Gwarchod y Gymdogaeth.

Dyma gynefin yr herwr Lewsyn ap Moelyn y clywir llu o chwedlau amdano yn y gymdogaeth.