Bydd y plentyn yn sylweddoli hefyd, gydag amser, bod yr hyn sy'n gymeradwy yn newid fel y bydd yn aeddfedu ac yn datblygu fel defnyddiwr iaith wrth i'r rhai sy'n ymwneud ag ef deilwrio eu disgwyliadau yn ôl yr hyn a wyddant am natur eu hyfedrwydd.
Mae angen i blentyn ddeall bod consyrn ei gymuned gyda'i genadwri a bod ei ymdrechion i fynegi'r genadwri honno, sy'n aml yn garbwl a bler, yn gymeradwy yng ngolwg y rhai sy'n ei derbyn.
Wedi'r cyfan, fyddai hi ddim yn wleidyddol gymeradwy i America gythruddo yn ormodol Siapaneaid 2001 gydag anrhaith a ddigwyddodd ddechrau pedwar degau y ganrif ddiwethaf.
Am to swear like a trooper cawn, yn gwbl gymeradwy, rhegi fel cath, paun, melin, tincer a cwrcyn ond nid rhegi fel llongwr na nafi.
Bu yn Bregethwr Cynorthwyol am flynyddoedd, ac yn gymeradwy yn arbennig yn ystod y blynyddoedd olaf.
Ond, ysywaeth, nid oedd tafodiaith y Cei yn gymeradwy iawn y tu allan i blwyf Llanllwchaearn.
Roedd profiad o'r fath, a hynny oherwydd i feirniad gredu mai rhywun nad oedd yn gymeradwy ganddo oedd y cystadleuwr, yn brofiad digon annymunol ond gyda gwên ar ei wyneb y cofiaf y bardd ei hun yn adrodd yr hanes.
Hwyrach y dylid nodi nad yw tatws yn gymeradwy ym mhob rhan o'r byd.