Ond nid pawb a gymeradwyai'r drefn hon o bregethu teithiol, oblegid rhoddai gyfle i rai cymeriadau digon brith ac annheilwng i fanteisio ar garedigrwydd yr eglwysi, a daeth amryw o 'wŷr y gwithe allan o waith yn crwydro'r wlad i bregethu' yn destunau gwawd a dirmyg.