Roedd y gymeriadaeth wedi ei hangori mewn hen chwarelwr cwbl gredadwy (o Ddeiniolen, mae'n siwr!) Roedd rhythmau iaith lafar John Ogwen yn gweddu yn gwbl fanwl i rythmau cryf y sgrifennu a'i gymeriad yn rhan o'r gymdeithas a ddisgrifiwyd mor hoffus gan Gwenlyn ei hun yn y rhaglen fywgraffyddol a gyflwynodd y gyfres.