Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gymharol

gymharol

Digon fydd cyfeirio yma at y nodyn a geir ar ddiwedd copi o Dares Phrygius a Brut y Brenhinedd a ddarganfuwyd yn gymharol ddiweddar: 'Y llyuyr hwnn a yscriuennwys Howel Vychan uab Howel Goch o Uuellt...

Roedd buddugoliaeth Evans yn un gymharol hawdd mewn gêm oedd trosodd mewn 54 munud.

Mae'n anodd i ni, sy'n hedfan i Awstralia mewn mater o oriau, ddychmygu'r fath brofiad; wythnosau lawer wedi eu carcharu o fewn terfynau llong gymharol fechan, heb gysylltiad o gwbl a gweddill y ddynoliaeth.

(ii) Ieithyddiaeth Ddisgrifiadol, yn canolbwyntio ar ddadansoddi a disgrifio'n syncronig, hynny yw, mewn cyfnod arbennig neu, nodweddion ieithoedd unigol, gan gynnwys iaith ardal (tafodiaith) neu ddosbarth arbennig neu hyd yn oed iaith unigolyn (idiolect); (iii) Ieithyddiaeth Gymharol, yn cynnwys cymharu dau gyfnod yn hanes un iaith neu'r berthynas rhwn nifer o ieithoedd; astudiaeth hanesyddol, ddeiacronig y gelwir y math hwn o waith ieithyddol; (iv) Ieithyddiaeth Gymwysedig.

Beth bynnag eu henillion, p'un a oedd y rhieni'n gymharol gyfforddus neu'n dlawd, dodid y plant allan i weithio pan fyddent yn saith neu wyth mlwydd oed, yn ferched a bechgyn fel ei gilydd.

Mae Gareth Roberts yn llywio'r cwis yn ddiogel ac mae'r cwestiynau, yn ôl arfer cwisiau Cymraeg, yn gymharol hawdd fel nad oes peryg i'r un tim o gystadleuwyr orfod gadael heb wobr o ryw fath.

Tan yn gymharol ddiweddar yr oedd yr iseldir corsiog hwn yn ymestyn o'r dref i'r môr, yn fath o aber eang i Afon Cefni, aber yr oedd ynddo lanw a thrai, ac a rannai Fôn yn ddwy, Sir Fôn Fawr a Sir Fôn Fach.

Gwyddai'r gwyr hyn beth oedd pregethu i dyrfaoedd enfawr a dengys hynny un o nodweddion amlycaf eu dawn - eu gallu i gyfareddu gwerin gymharol ddiaddysg a hynny heb lastwreiddio na darostwng urddas y genadwri.

Roedd hi'n anodd iawn gwneud y brif stori achos roedd Terry Waite yn mynd i ffwrdd y peth cynta' yn y bore a doedden ni ddim yn ei weld o wedyn tan yn gymharol hwyr yn y nos.

Penderfynnwyd yma i edrych ar y berthynas ar lefel gymharol syml a disgrifiadol.

Ac fe ellid bod wedi disgwyl gêm gymharol hawdd, ddi-fflach iddyn nhw yn erbyn Rhydychen, sydd mewn trafferthion, ar y Cae Râs neithiwr.

Erbyn diwedd oes Panqcelyn yr oedd swm eu llyfrau print yn gymharol fawr.

At ei gilydd, mae gweinyddu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn ffenomen gymharol newydd ac er bod defnydd cyhoeddus o'r Gymraeg wedi cynyddu'n aruthrol yn ystod y degawdau diwethaf, nid yw gweithredu drwy gyfrwng y ddwy iaith eto'n beth cwbl arferol a diffwdan.

Sut felly mae egluro'r ymlyniad greddfol bron wrth blaid sy'n gymharol newydd?

Wedi gwallgofrwydd bargeinion Ionor yn y faelfa cafwyd egwyl gymharol dawel, a dechreuodd y staff son am eu cynlluniau ar gyfer gwyliau'r haf: bwthyn yn Sir Benfro - y - Dyfed; wythnos yn Llundain; paentio'r tŷ; Iwerddon; llynnoedd Lloegr; Cernyw; Eastbourne; a hyd yn oed Majorca.

Ni all y CDs hyn ond atgoffa rhywun o'r senglau feinyl 7 modfedd a oedd mor boblogaidd flynyddoedd yn ôl ond sydd erbyn hyn yn gymharol brin.

Gresynai Cynddylan fod cymaint o ôl syniadaeth William Owen Pughe - ar y cystadleuwyr a barnai Hawen i'r beirdd eu harwain 'i diroedd gwynfaol - rhamant disylwedd...' Diystyrwyd gwersi ieithyddiaeth gymharol yn llwyr: 'Ofnwn, pe cyfieithid rhai darnau o rai o'r pryddestau hyn, y câi y philistiaid Seisnig wledd na chawsant ei bath er ys llawer dydd.

Os oedd Ystorya Trystan, neu'n arbennig y darnau rhyddiaith, wedi cyrraedd ei ffurf bresennol yn gymharol ddiweddar, pan oedd y traddodiadau Ffrangeg wedi cael digon o gyfle i ymledu, gallwn dybio fod elfennau estron wedi eu gwrthod yn fwriadol.

Pan fo un plaid mewn awdurdod am ddegawd a rhagor yn ddi-dor gall y gweision sifil mewn adran gymharol fychan lithro i rigol meddwl sy'n eu dallu rhag gweld rhinweddau'r gwrthddadleuon.

Pan agorodd ei wraig gymharol newydd ddrws eu cartref ar ei ddychweliad bun rhaid iddo yntau feddwl am esgus sydyn am ei absenoldeb.

Mae dadansoddi rhai nodweddion yn gymharol syml.

Un peth y llwyddodd y Blaid i'w wneud yn gymharol ddirwystr yn ystod y rhyfel oedd cyhoeddi ei barn a'i safbwynt mewn papurau, pamffledi a llyfrynnau.

Yn ddamcaniaethol yr oedd gwahaniaeth pendant rhwng y boblogaeth Seisnig gymharol fechan, a oedd wedi'i sefydlu yn y bwrdeistrefi ac ar y tir gwaelod (yn enwedig yn y Mers), a'r boblogaeth Gymreig, yn wŷr rhyddion ac yn gaethion, a oedd yn trin y tir a oedd yn weddill.

Mae'r alaeth yn yr enghraifft ganol (B) yn gymharol hawdd i'w gweld.

Ar ben y rhestr daw dwy genedl gymharol fawr, y Pwyliaid, a gollasai eu hannibyniaeth yn ddiweddar iawn, a'r Magyariaid, a gadwai elfennau o statws awtonomaidd o hyd o dan Fien.

Cyn yr ymweliad, yr oedd y ddwy haint yn gymharol ddibwys ymysg y poblogaethau a oedd wedi arfer â hwy, sef y morwyr â'r frech goch a'r ynyswyr â siffilis, ond bod yr effaith ar y boblogaeth newydd yn farwol.)

rheswm dros hyn yw mai cymdeithas gymharol ifanc yw cymdeithas America y dyn gwyn, heb hanes a diwylliant hynafol y bobl frodorol yno, ac wedi colli cysylltiad â diwylliannau'r ymsefydlwyr cyntaf o Ewrop.

I gychwyn mae Harri'n pwyntio bys at wendidau ei dadleuon, ond yn fuan iawn, ac yn gymharol ddibaratoad, mae Harri'n eu llyncu - nid oherwydd cadernid y dadleuon a gyflwynir, fe awgrymir, yn gymaint ag oherwydd cyfaredd dwy lygad dywyll Gwylan!

Eglurodd y byddai'r swm yn gymharol isel ar gyfer y blynyddoedd cyntaf ond yn cynyddu wedyn.

Safai derwen hynafol yng nghanol tref Caerfyrddin tan yn gymharol ddiweddar.

Ond bu wyth ym Mhrifysgol gymharol newydd Llundain (neu o leiaf yn gwneud ei chyrsiau).

Bu farw Miss Mair Eluned Thomas, Fferm Treoes yn gymharol ifanc.

dyma hefyd brifddinas Pþyl hyd at yn gymharol ddiweddar.

Mae pryniant cylchgronau trwy'r post hefyd yn gymharol uchel, a hynny mae'n debyg oherwydd y cylchgronau hynny sy'n 'arbenigol'.

Y mae nod Taith y Pererin yn gymharol syml: gellir symud y prif gymeriad o gyflwr darluniadol i un meddyliol e.e.

(Nid y peth lleiaf yng nghynhysgaeth feirniadol Mr Thomas yw ei wybodaeth o lenyddiaeth Saesneg y cyfnod ar ei hyd: mae yma ym Mhennod II astudiaeth gymharol rhwng Henry Vaughan a Morgan Llwyd sy'n berl.)

Gall hyn ddigwydd yn hawdd iawn os nad ydych yn fywiog iawn; hyd yn oed os yw'ch cymeriant o egni yn gymharol isel.

Rhan gymharol fechan o Gŵr Pen y Bryn sy'n ymwneud a'r Rhyfel Degwm, a hyd yn oed yn y rhan honno ni phortreedir ef mewn goleuni ffafriol.

Yr hyn sy'n taro rhywun yn syth am hon ydi fod y cyflwyniad yn gymharol hir.

Nid yn unig y rhai sydd yn gweithio'n uniongyrchol yn yr orsaf fydd yn teimlo'r effaith, ond bydd yn cael effaith ddifrifol hefyd ar yr economi leol wrth golli gweithwyr oedd yn cael eu talu'n gymharol dda, a bydd yr effaith ar siopau lleol yn amlwg.

Efallai fod perfformiad disgyblion ag AAA yn gymharol isel o'i gymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol ond eto gall eu cyrhaeddiad fod yn uchel mewn perthynas â'u galluoedd gan adlewyrchu rhagoriaeth mewn perthynas â'r hyn y gellir yn rhesymol ei ddisgwyl ganddynt.

Mae lliw gwyn ar ben y gwartheg Hereford yn en- ghraifft arall o nodwedd sy'n cael ei hetifeddu'n gymharol syml.

Wrth edrych yn ôl, bach iawn hyd yn gymharol ddiweddar oedd y newidiadau o flwyddyn i flwyddyn yn y Gyllideb: ac y mae'n annhebyg felly fod y rheiny wedi dylanwadu ryw lawer y naill ffordd neu'r llall ar gwrs yr economi, yn arbennig o gofio am y sefydlogrwydd cynhenid sy'n deillio o system trethiant esgynraddol, budd-daliadau diwaith, a sefydlogyddion tebyg.