Dyma ddadl gymhleth sy'n galw am ystyriaeth.
Mae Meini Gwagedd yn gampwaith, lle mae'r awdur wedi dod o hyd i gyfrwng hollol addas i fynegi gweledigaeth gymhleth o sefyllfa dyn.
Roedd y rhesymau am hyn yn gymhleth ac amrywiol iawn ond un rheswm diamheuol oedd y ffaith nad oedd y cyrsiau a arweiniai at yr arholiadau traddodiadol mewn ieithoedd modern yn atyniadol i'r mwyafrif.
Cyfuniad yw o elfennau diriaethol a haniaethol ac y mae'n gyfrwng i fynegi ymwybyddiaeth gymhleth.
Gan fod bywyd yn gymhleth, mae ei gemeg yn gymhleth, ac yn llawn o folecylau cymhleth.
O ganlyniad i'r newidiadau mawr a ddilynodd gau'r Gors yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, crewyd rhwydwaith gymhleth o sianelau geometrig.
Roedd gwasg yr oes aur yn adlewyrchiad o Gymru gymhleth oedd bron â chyrraedd y lan.
Mae rhwydwaith Afon Cefni, un o brif afonydd Môn, yn gymhleth iawn.
Mae siarad ag Eryl Ellis am eiwaith yn sicr yn cynnig cipolwg ar fyd artistig, deallusol cynhyrchu theatr; cawn yr argraff ei fod ar fin ehangu ar y theori%au dwfn, abstract, a syniadau a iaith gymhleth, aruchel yr athronwyr celfyddydol.
Naturiol iddyn nhw yw ymgynghori â'r dyn hysbys pan fydd hwnnw, mewn defod sy'n gymhleth gan gof y llwyth, yn torri wyau er mwyn dadlennu'r dyfodol.
'Mae holl sefyllfa y gystadleuaeth yn gymhleth.
Un canlyniad i hyn yw nad yw llawer ohonynt yn cael digon o brofiad ac o hyfforddiant i feithrin y medrusrwydd angenrheidiol, yn enwedig yn y mathau o driniaeth sydd yn gymhleth ac yn arbenigol.
Gwyddai awdur Gereint ac Enid rywbeth am y ffordd hon o blethu hanesion a'u hystofi'n gyfrodedd gymhleth ac fe'i defnyddiodd yn effeithiol ac yn hollol ymwybodol, er heb holl gywreinrwydd ystyrlon rhamantau'r drydedd ganrif ar ddeg.
"Mae gwaith Robin Llywelyn, ynghyd â'r derbyniad a gafodd ei waith, yn fan cychwyn dihafal ar gyfer dadansoddi'r berthynas gymhleth rhwng awdur, darllenydd a chymdeithas yng nghyd-destun diwylliant llenyddol cyfoes y Gymraeg," eglura.
Ond y tu ôl i'r triawd, neu y pedwarawd destlus yma, mae yna rwydwaith annirnadwy o gymhleth, gyda llu o ddylanwadau, bach a mawr, yn effeithio ar bob digwyddiad a phob cyfnewid sydd yn bodoli rhyngddynt yn barhaol.
Ond mwy rhyfeddod yw'r bersonoliaeth gymhleth -þ ddireidus, ddifrif, ofnus, feiddgar, fyfyriol, weithgar - a dreuliodd ddyddiau a nosau ei blynyddoedd "er mwyn Cymru%.
Os dadleuir bod yn rhaid i fywyd fod yn gemegol gymhleth, rhaid dadlau hefyd nad oes ond carbon a all ffurfio'r nifer anferth o gyfansoddion angenrheidiol.
Tasg anodd fodd bynnnag ydyw crynhoi dylanwad hinsawdd, tirwedd a phriddoedd ar amaethyddiaeth yng Nghymru gan fod llawer o wybodaeth ar gael ynglyn a'r ffactorau hyn ac oherwydd fod y berthynas rhyngddynt yn gymhleth.
Ond gall ymdrin â chymdeithas tai fod yn broses hirfaith, gymhleth, a bydd yn fynych yn golygu bod gofyn i staff mewn llochesau ddatblygu gwybodaeth arbenigol mewn maes arall eto, a hwythau eisoes â gormod o waith a rhy ychydig o arian.
Prin oedd gwybodaeth y rhan fwyaf am wleidyddiaeth gymhleth y Dwyrain Canol, ond nhw, nid yr academyddion na'r diplomyddion gartref oedd ar yr union adeg hynny yn newid y darlun.
Mae bywyd personol Llew wedi bod yr un mor gymhleth a'i yrfa.
Mae'r ateb, bid sicr, yn gymhleth, ond dyma geisio rhoi bys ar o leiaf rai o'r ffactorau.
Mae'n tarddu mewn ardal lle mae'r traenio'n gymhleth ac yn amhendant i'r de-orllewin o Bentraeth ac yn ymuno â'r brif afon ar Gors Ddyga ger Tregarnedd.
O ganlyniad i hyn, y mae tuedd ddiamheuol iddynt gynnig triniaethau llawfeddygol pan nad oes gwir angen amdanynt ac i roi triniaeth gymhleth a drudfawr pan fyddai un syml a rhad yn gwneud y tro'n iawn.
Mae mwy nag un cyhoeddiad o'i eiddo yn tystio fod Peter Williams yn hoœ o gymhleth-bethau'r dychymyg, yn fwy hoœohonynt na neb arall o'r prif Fethodistiaid.
* Gall gwybodaeth ysgrifenedig achosi rhwystr os defnyddir iaith gymhleth neu jargon.
Yn rhinwedd ei genedlaetholdeb dysgodd weld perthynas gymhleth iawn rhwng dyn a'i amgylchfyd.
Ond yn union fel y mae angen y golygfeydd, y setiau a'r actorion eraill ar y rhan fwyaf o berfformiadau theatr i gadw diddordeb y gynulleidfa, felly y mae angen pob cymorth posibl ar y rhan fwyaf o athrawon a darlithwyr i ennyn diddordeb eu dosbarthiadau - yn arbennig mewn pwnc lle tuedda pynciau i fod yn gymhleth ac yn amhosibl eu datrys, yn ôl pob golwg, ac sydd hefyd mor wahanol i'n problemau ninnau yng Nghymru yn yr wythdegau.