Efallai nad oedd Wilson Knight yn bwriadu i ni gymhwyso ei frawddegau at eiriau unigol ond mae'n demtasiwn cymryd defnydd Waldo o'r gair 'awen', ac, o ran hynny, y gair 'adnabod' fel enghreifftiau o "words inflated by mind", ac arwain hyn ni i ystyried pa fath o feddwl a oedd gan Waldo, gan gynnwys yn y gair 'meddwl' nid yn unig y meddyliol ond hefyd y teimladol yn ei wneuthuriad.
Felly fe gawn bobl eisiau mabwysiadu egwyddorion Iesu Grist neu gymhwyso ei ddysgeidiaeth at broblemau cyfoes yn y gobaith y gwnaiff hynny eu datrys.
dim ond trwy gymhwyso'n syniadau i ateb anghenion darlithwyr, myfyrwyr a chyflogwyr cymru y daw llwyddiant.
Gafaelai'r dwblwr mewn un pen o'r llafn a'i ddyblu ar lawr y felin, ac yna ei godi at fwrdd y shêr, ei gymhwyso, ei roi o dan y gwasgwr, ei drin o dan y gyllell, ac yna ei daflu ar draws y felin at y gweithiwr ffwrnais.
safonau cyrhaeddiad - gan gynnwys cwmpas gwybodaeth y disgyblion am y pwnc a'u gallu i gymhwyso'r wybodaeth hon i sefyllfaoedd newydd; maint eu dealltwriaeth a'u meddiant o sgiliau; eu canlyniadau yn asesiadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol ac mewn arholiadau cyhoeddus.
[Cynhwysir enghraifft o holiadur ar gyfer llunio Audit Staffio yn Atodiad ] Cyrsiau - audit a fyddai'n cynnwys gwybodaeth am y posibiliadau o ddatblygu gwahanol agweddau ar addysg Gymraeg yn yr ysgolion a'r colegau; Er mwyn sicrhau addysgu effeithiol byddai angen ymchwil i feysydd hyfforddiant a thechnegau dysgu ar batrwm yr awgrymiadau canlynol: - llunio cynllun hyfforddiant i gymhwyso athrawon i ddysgu Cymraeg fel pwnc a thrwy gyfrwng y Gymraeg; - archwilio strategaethau dysgu er mwyn adnabod y rhai mwyaf effeithiol ar gyfer dysgu Cymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg ar batrwm Ysgolion ar Waith a Primary schools: some aspects of good practice; - archwilio'r posibilrwydd o greu strategaethau dysgu gwahanol a newydd yn ôl y galw, ee grwpiau bychain, dysgu o bell.
O gymhwyso'r syniadau hyn at Ogledd Iwerddon, byddai Ulster, yn eu cynllun hwy'n cynnwys naw sir yn hytrach na chwech.
Prinder gofod yw'r rheswm, efallai, ond byddai'n dda ei gael mewn llyfr rhagarweiniol fel hwn, yn enwedig gan fod rhai ieithyddion o Gymru wedi ei gymhwyso at y Gymraeg.
Nid oedd ddirgelwch yn y bydysawd i gyd na ellid ei ddatrys trwy gymhwyso'r method gwyddonol.
Os cymerwn yr hyn a ddywed Saunders am ei ffydd grefyddol a'i gymhwyso at ei feirniadaeth, gallwn ddweud mai gamblo fod ei ddehongliad ef yn iawn a wna, heb unrhyw brawf.
Nid yn aml y ceir esiampl felly o gymhwyso hen chwedl at ymosodiad gwleidyddol neu gymdeithasol.
Ac nid oedd unrhyw wrthwynebiad i gymhwyso'r un egwyddor at gartref y Cymro.
Sôn a wna'r Athro am eiriau a lefarwyd ychydig cyn hynny gan y diweddar Dr T Gwynn Jones, sef 'nad yr iaith a sieryd pobl sy'n bwysig ond yr hyn a feddyliant: gofalwch am y meddyliau, ac fe ofala'r iaith amdani ei hun.' Yna, meddai'r Athro, 'os goddefir imi gymhwyso'r geiriau mewn enghraifft, y mae'n well ganddo Sais yng Nghymru sy'n meddwl yn iawn na Chymro sy'n meddwl yn gam.' Hawdd credu i'r geiriau trawiadol hyn gael eu camddeall a'u camesbonio gan lawer y pryd hwnnw ac y byddai'n anodd gan nifer heleath o Gymry heddiw ddeall eu gwir arwyddocâd.
'Wel, Wel,' meddai Ioan, 'mae'n well i ti fynd yn ôl; wn i ddim be ddaw ohonom.' 'Mae y Meistr wedi gorchymyn i mi fynd i Fethsaida,' meddai Pedr, 'fe gaiff bow y llong fod ar Bethsaida.' Wrth gymhwyso'r neges i ddibenion ymgyrch y Drysorfa Genhadol, meddai'r Parch.
Er mai derbyn gweledigaeth hanes yr Iddewon fel egwyddor universal a ddarfu'r Eglwys Fore, ymhen y rhawg dechreuodd rhai haneswyr gymhwyso'r gweld (a'r dweud) a geir yn yr Ysgrythur at hanes eu gwledydd eu hunain.
Mewn rhai achosion gyda rhywfaint o gymhwyso ar y llyfrau y mae'n bosibl gweithredu system o gostio y tu mewn i'r cyfrifon ariannol.
Mae'r mathau o dasgau a osodir i brofi ymhellach ddealltwriaeth disgyblion o gysyniad neu faes, neu gymhwyso'r hyn a ddysgwyd i sefyllfa arall debyg, o orfod yn golygu defnyddio iaith.
Yn y broses o greu cyllidebau, felly, bydd yn angenrheidiol i gymhwyso'r gwahanol gyllidebau yng ngoleuni'r sefyllfa gyfansawdd fel y gwelir hi'n datblygu.