Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag, ymledodd y Gymraeg i fod yn gwymhwyster dymunol mewn nifer cynyddol o swyddi proffesiynol, ac yn gymhwyster angenrheidiol mewn rhai meysydd newydd, yn arbennig y cyfryngau a rhai swyddi yn y gwasanaethau cyhoeddus.
Hefyd, roedd ei diddordeb yn y maes ethnogerddoriaeth fel rhan o'i gradd BA (Cerdd) yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Gogledd Cymru, Bangor, yn gymhwyster ychwanegol.
Bu Hugh Evans yn athro yn Ysgol Sabothol Cefn Brith flynyddoedd lawer, ac roedd ynddo gymhwyster eithriadol i'r swydd.
Prif gymhwyster swyddog project yw profiad diweddar yn y dosbarth â'r gallu i ddod â syniadau newydd i'r maes.
Ymhellach mae'n rhaid i Heddlu Gogledd Cymru adolygu eu polisi iaith, gan wneud y Gymraeg yn gymhwyster gorfodol i unrhyw un fydd yn gweithio iddyn nhw yn y dyfodol.
O hynny ymlaen unig amcan etholiad yw ennill, a sicrhau grym i'r mudiad Cymreig, a'r gwir gymhwyster i'n hymgeiswyr oedd yr ysfa am rym, a'r penderfyniad i gael trefnu pethau yng Nghymru.
Bwriad y wefan yma yw cynnig cefnogaeth ac ysgogiad i bobl sy'n gweithio tuag at gymhwyster NVQ Lefel 4 mewn Rheoli.
Yr unig gymhwyster a fynnai Eglwys Lloegr gan ei phregethwyr oedd gradd mewn prifysgol - sef dysg, ac nid duwioldeb, a allai ddod gyda phrofiad mewnol yn unig.