Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gymreictod

gymreictod

Cerddi eraill: Pryddest dafodieithol Dyfnallt Morgan am y llen yn disgyn ar Gymreictod, ar ddiwylliant Cymraeg ac ar yr iaith yn rhai o gymoedd De Cymru, a ffafriai Saunders Lewis, a hi oedd y bryddest orau o bell ffordd.

Gan fod offeiriad Aberdâr wedi ymosod yn benodol ar Ymneilltuaeth, gan honni mai hynny, ynghyd â chryfder yr iaith Gymraeg oedd i gyfrif bod bywyd y dosbarth gweithiol yn yr ardaloedd diwydiannol yn isel ac anfoesol, yr oedd y dadleuon yn gorgyffwrdd â'i gilydd, a Ieuan Gwynedd yn ymddangos fel amddiffynnydd 'gwir Gymreictod'.

Llwyddodd carfan o arlunwyr i ddryllio cynlluniau yn ddiweddar i gynnal sioe deithiol i ddathlu ymwybyddiaeth o Gymreictod gan ei bod yn gweld y sioe yn fygythiad iddynt'.

Ni ellir gwadu nad Brad y Llyfrau Gleision a daniodd enaid Ieuan Gwynedd ac a fagodd ynddo wir ymdeimlad o Gymreictod a gwladgarwch.

Ceisiodd yr Athro Steve Jones, genetegydd o Goleg Prifysgol Llundain, ddatrys dirgelion yr hyn a olygir wrth Gymreictod a chenedligrwydd, ynghyd â dadansoddi o ble, yn hanesyddol felly, y daeth cenedl y Cymry.

Y peth a'm trawodd gyntaf am y Coleg oedd ei Gymreictod.

Mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith mae digon o gyfle i ymarfer siarad, ond profiad nifer sy ddim yn ddigon rhugl yw iddynt gael eu boddi gan y môr o gymreictod.

Y mae meysydd addysg, hamdden, adloniant a chwaraeon er enghraifft yn feysydd lle y gellid creu peuoedd o Gymreictod fyddai'n hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg fel iaith fyw a pherthnasol i'r gymuned.

Credaf iddi fod yn gyfrwng i gryfhau yr ymwybyddiaeth o Gymreictod.

Roedd yr ymwybyddiaeth o Gymreictod a chyflwr Cymru, cyflwr yr iaith, y cyflwr cymdeithasol i gyd yn gweithio arna i i ffurfio fy ymateb.

Pryddest dafodieithol Dyfnallt Morgan am y llen yn disgyn ar Gymreictod, ar ddiwylliant Cymraeg ac ar yr iaith yn rhai o gymoedd De Cymru, a ffafriai Saunders Lewis, a hi oedd y bryddest orau o bell ffordd.

Daliaf i fod y math o Gymreictod a'r math o Ewropeaeth a fynegir yma gan Gruffydd yn rhagori ar y fersiynau a arddelid gan Saunders Lewis yn ystod blynyddoedd enbyd ac argyfyngus yr Ail Ryfel Byd.