Dyma hefyd yr unig ffordd i Gymreigio'r Saeson yn llwyddiannus.
Rhaid i ni weithio ym mhob cymuned i Gymreigio pob rhan o'n gwlad.
Er gwaethaf yr holl Seisnigrwydd, yr oedd yn yr Eglwys Wladol yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf nifer o offeiriaid a oedd yn fawr eu gofal dros y diwylliant Cymraeg ac a ymdrechai i Gymreigio bywyd yr Eglwys.
Mae presenoldeb bywiog a chryf yn y meysydd hyn yn allweddol i ddyfodol y Gymraeg, ac mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ymrwymo i'r ymgyrch hon, gan adeiladau ar yr ymgyrch i Gymreigio ffonau symudol, cwmni Microsoft a chanolfannau galw.
Cerdd am John Roberts, y chwaraewr rygbi rhyngwladol a aeth yn genhadwr, ^wyr Iolo Caernarfon, beirniad a phrifardd eisteddfodol, yw 'Y Dyrfa'. Disgrifir gêm rygbi yn Twickenham ynddi, a hynny gan ddefnyddio termau rygbi wedi eu lled-Gymreigio.