Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gymreigrwydd

gymreigrwydd

Bu Henry Jones fyw'r rhan fywaf o'i oes trwy gyfrwng y Saesneg, ond ni wybu ef erioed amau ei Gymreigrwydd nac amau beth oedd ystyr bod yn Gymro.

Fe ofynnodd y cyfaill hwn i'r llythyrwr ddewis pump o lyfrau Cymraeg iddo'u dwyn gydag ef, i gadw'i Gymraeg a'i Gymreigrwydd yn fyw.

Yng Nghymru mae'r cwricwlwm i blant dan bump yn adlewyrchu materion Cymreig drwy gyfrwng yr iaith a thrwy brofiadau sy'n arwain plant ifanc at ymwybyddiaeth o Gymreigrwydd eu cymuned arbennig nhw, eu milltir sgwar.

Y mae cynghorwyr sir Rhydaman, Llafur wrth gwrs, yn eithafol eu gwrth-Gymreigrwydd.

Amheuai eu gogwydd tuag at Gatholigiaeth a'u gwrthwerinoldeb, bid siwr; eithr yr hyn a barai'r anesmwythyd mwyaf iddo oedd parodrwydd digwestiwn eu hadwaith: 'Nid wyf yn hoffi ffolineb y Sais; ond nid wyf yn hoffi ychwaith ffolineb Ffrainc, ac ni all haeriadau Ffrainc fod ddim mymryn mwy deniadol i'm twyllo na haeriadau Lloegr.' Yn ei hanfod, ymryson oedd dadl Gruffydd a Lewis ynghylch pwy oedd gwir gynheiliad 'yr hen ddiwylliant Cymreig.' Yr oedd diffiniadau ehangach o'r cychwyn yn iswasanaethgar i Gymreigrwydd y ddwy estheteg a bleidiwyd.

Fyddai'n dda gofyn i'r Cynulliad, tra'n trefnu eu Cymreigrwydd eu hunain, i gael golwg ar Gymreigrwydd sefydliadau eraill hefyd.