Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gymunedol

gymunedol

Dylai'r Cynulliad sicrhau cefnogaeth ariannol digonol i brosiectau diwylliannol cymunedol fel bod cyfle i ddiwylliant a chelfyddyd ffynnu ar lefel gymunedol yn ogystal â chenedlaethol.

Dylid creu strategaeth a Chynllun Datblygu Clwstwr a'i gyflwyno i rieni a'r gymuned i geisio cynigion o gymorth o ran codi arian ar gyfer bws mini a dulliau eraill o gludo plant o adeilad i adeilad ac i hybu ymateb o ran addysg gymunedol.

Yn bedwerydd, mae'n hanfodol i'r iaith feddu ar sail gymunedol gadarn.

Daeth Michael Bogdanov o dan y chwyddwydr yn Bogdanov, lle bur cyfarwyddwr llwyddiannus yn siarad am ei dechnegau ai ymrwymiad i ddrama gymunedol, gan gynnwys ei drioleg A Light On... ar BBC Wales.

Mi hoffwn y sicrwydd y bydd ysgol Cai yn ysgol gymunedol gref â dyfodol diogel ac y bydd yn derbyn addysg gyflawn Gymraeg.

Blaenoriaeth arall i'r Cynulliad ddylai fod i sicrhau datblygu Cwricwlwm Cymreig sy'n gwricwlwm eang, cytbwys a pherthnasol gan roi lle arbennig i ddealltwriaeth gymunedol a fyddai'n cynnwys addysg wleidyddol, addysg amgylcheddol, addysg datblygiad byd ac astudiaethau heddwch.

Ond, rhaid wrth strategaeth gynhwysfawr ac ymgyrchu integredig ar draws ystod eang o feysydd a sectorau os yw'r Gymraeg i gael dyfodol fel iaith gymunedol fyw.

Un yn cael ei gynnal gan Fenter Iaith Dinbych Conwy, oedd hefyd yn gyfrifol am ryddhau y cd Planed Paned, ar llall gan Cerdd Gymunedol Cymru.

Buddsodda pob un o ddeiliaid y sinema yn y fentr gymunedol gydweithredol.

Yn ôl Cyfrifiad 1991 rhyw 142,000 sydd â rhyw wybodaeth o'r iaith -- canran is na 10% -- a llawer iawn o'r rheiny wedi dysgu'r iaith yn yr ysgol a heb gael y profiad ohoni fel iaith gymunedol fyw, er gwaethaf eu hymdrechion i'w meithrin felly.

* Cyngor Cyllido Addysg Bellach sy'n darparu cyrsiau mewn colegau chweched dosbarth, colegau trydyddol a cholegau addysg bellach; darparu cymorth i sefydliadau addysg gymunedol gan gynnwys Mudiad Addysg y Gweithwyr (WEA) ac i gyrff gwirfoddol addysg a gwaith ieuenctid gan gynnwys Urdd Gobaith Cymru a Mudiad Ffermwyr Ifainc;

Sicrhau addysg gyfun, gymunedol ddwyieithiog.

Yn hynny o beth, edrychwn tuag at y Cynulliad i ddatblygu gwleidyddiaeth radical yng Nghymru wedi ei seilio ar egwyddorion Sosialaeth Gymunedol. Gwleidyddiaeth fydd yn ei hanfod yn ymateb i anghenion Cymru ac sy'n gweithredu dros sicrhau cyfiawnder i'r Gymraeg a chyfiawnder cymdeithasol ac economaidd i bobl a chymunedau Cymru.

Y mae modd adnabod tri chyfnod o addysg: cyfnod addysg cyn- statudol, cyfnod addysg statudol, a'r cyfnod addysg ôl statudol sy'n cynnwys addysg bellach, addysg uwch ac addysg gymunedol barhaus, a'r ddarpariaeth ar gyfer dysgu Cymraeg gan oedolion yn brif ystyriaeth ynddo.

Yn ychwanegol at bynciau, mae gofyn i arolygwyr ystyried dwy agwedd arall ar y ddarpariaeth gwricwlaidd: (i) y Dimensiwn Cymreig a (ii) y themâu trawsgwricwlaidd (addysg yrfaoedd, dealltwriaeth gymunedol [gan gynnwys dinasyddiaeth], dealltwriaeth economaidd a diwydiannol, addysg iechyd ac addysg yr amgylchedd).

O ran y Gymraeg fel iaith gymunedol, ni all y Bwrdd osod targed ar hyn o bryd gan nad yw ef na'i bartneriaid wedi bod mewn sefyllfa i ddylanwadu'n fawr hyd yma ar y ffactorau sosio-economaidd y cyfeiriwyd atynt eisoes.

92% o'r Cymry Cymraeg a 77% o'r di-Gymraeg yn cytuno y dylid atgyfnerthu'r Gymraeg fel iaith gymunedol.

Daeth Michael Bogdanov o dan y chwyddwydr yn Bogdanov, lle bu'r cyfarwyddwr llwyddiannus yn siarad am ei dechnegau a'i ymrwymiad i ddrama gymunedol, gan gynnwys ei drioleg A Light On... ar BBC Wales.

Mae mesurau yn cael eu cymryd mewn gwledydd eraill, a dydi'r Gymdeithas ddim yn gofyn am ddim mwy na rheolaeth gymunedol dros dir a thai.

Mae'n hanfodol fod sail gymunedol gadarn i'r iaith.

Pan cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith ddogfen am ddyfodol addysg Gymraeg ac addysg gymunedol y Sir i'r Pwyllgor Addysg, taflwyd yr argymhellion allan heb drafodaeth, ar y sail eu bod yn 'rhy wleidyddol'. Mae'r penderfyniad anhygoel yma yn ei gwneud hi'n amlwg bod polisi'r Blaid Lafur tuag at Quangos yn hollol anhrefnus ac aneglur, os oes un yn bodoli o gwbl.

Disgwyliwn i'r Cynulliad ddod o hyd i ffyrdd creadigol i annog cyfranogiad pobl Cymru gyfan yn holl brosesau'r Cynulliad gan gynnwys cynnal fforymau lleol i fudiadau pwyso a chynrychiolaeth gymunedol o bob agwedd ar fywyd ein cymunedau.

Mae swyddogaeth gymunedol yr ysgol bentref wedi dod yn bwysicach yn siroedd Dyfed yn ystod y ddegawd ddiwethaf oherwydd dirywiad yr iaith yn y cymunedau ehangach a dyfodiad y polisi iaith newydd i ysgolion y siroedd.