Bydd Anthony Copsey wedi byw yn ein plith yn ddi-dor ers chwe blynedd erbyn Dydd Calan, sy'n golygu y bydd ym gymwys i'w ddewis i'n Tîm Cenedlaethol yn erbyn ei wlad ei hun.
Os oedd Ysbryd Crist yn amlwg mewn unrhyw ddyn, ni waeth beth fo'i waith beunyddiol, yr oedd yn gymwys i gyhoeddi'r Efengyl.
Gan nad beth, creadur y gwanwyn yw'r oen, ac arferais gredu, yn gam neu'n gymwys, bod a fynno tarddiad enw'r tymor cyntaf â ffurf lluosog y term 'oen'.
Ond fe gymerodd yr ERC drueni dros Castres - maen nhw wedi rhoi pwynt nôl i'r Ffrancwyr ar ôl tynnu dau bwynt oddi arnyn nhw am dorri rheolau Cwpan Heineken drwy gynnwys Norm Berryman pan nad oedd o'n gymwys i chwarae yn y gystadleuaeth.
Wrth gwrs, nid oedd dim yn newydd yn y defnydd a wnaed o'r Ymofynnydd i amddiffyn safbwynt pan y'i heriwyd, nac yn ei ryddid i eraill ei ddefnyddio at yr un pwrpas; yn wir, ni allaf feddwl am un enghraifft pan wrthodwyd cyfle teg i ohebydd ddweud ei farn ar dudalennau'r cylchgrawn, boed y farn honno'n gam neu'n gymwys yng ngolwg y mudiad a'r golygydd.
Nid oedd hynny yn ei wneud yn gymwys am grant ac ni chai'r perchennog osod y tŷ.
Yn y ddwy adran gyntaf o'r llith hon fy mwriad yw chwilio ym mha ystyr yr oedd y gair yn gymwys.
O droi at ffynonellau hanesyddol pur fe geir mai'r ddwy gynharaf sy'n crybwyll Arthur yw'r Annales Cambriae, cronicl o hanes y Cymry, a'r Historia Brittonum, 'Hanes y Brythoniaid', a briodolwyd yn gam neu'n gymwys i un o'r enw Nennius.
'Os caf i awgrymu yn garedig, mi fyddai troi Anti Meg yn ganeri yn gosb gymwys iawn.'
Yr oedd yr hen gadair yn wag; ac wrth ei hochr, ar y pentan llydan, yr oedd y bibell, yn gymwys yn yr un fan ag y dodwyd hi pan ddefnyddiwyd hi ddiwethaf bedwar diwrnod cyn y noswaith honno.
Brigstocke, YH, Blaen-pant, Ceredigion, na wyddai am yr un ysgol yn yr ardal lle'r oedd athro neu athrawes gymwys.
Bydd enillwyr y cynghrair arfaethedig - a phencampwyr Cymru felly - yn gymwys i gynrychioli ein gwlad ym mhrif gystadleuaeth pêl-droed y cyfandir, sef Cwpan Ewrop.
Gwasanaethodd ar y pwyllgorau canlynol, Ffyrdd, Iechyd, Lles, Adeiladau, Cyllid ac Addysg Amaethyddol, ac yn enwedig y Pwyllgor Addysg a oedd yn delio â materion lle'r oedd Edwin yn neilltuol gymwys i roi arweiniad.
Go brin fod hynny yn fy ngwneud yn gymwys i siarad gydag unrhyw awdurdod am actio ac actorion ond fe fum yn darllen gyda diddordeb mwy na'r cyffredin am yr hyn oedd gan Josh Cohen i'w ddweud wrth edrych ymlaen at actio gyferbyn a Jerry Hall noethlymun yn The Graduate.
Codai egwyddor 'reserve' yn naturiol allan o astudiaeth y Tractariaid o weithiau'r Tadau Eglwysig, sef cadw'n ôl y gwirionedd mwyaf cysegredig a dirgelion y Ffydd hyd nes y byddai'r 'dysgwyr' yn y Ffydd Gristnogol wedi gorffen eu cwrs o hyfforddiant ac wedi'u dangos eu hunain yn gymwys i'w derbyn.
'R oedd y safle yn gymwys i bentref--man cyfarfod Arfon, Llyn ac Eifionydd.