Yr oedd ynddo gymysgfa fywiog o wybodaethau am hanes Cymru, gwyddoniaeth, cerddoriaeth, crefydd a phersonau amlwg.
Roedd gan Llewellyn fwy o ddiddordeb ym mrithluniau pobl am y gorffennol nag yn yr hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd, ac oherwydd hynny, efallai, fe lwyddodd ef i greu darlun mythaidd o gymdeithas, yn gymysgfa o drais a haelioni, o dlodi a dioddef a brawdgarwch, a fu'n faeth i lu o ddehonglwyr ar ei ol, mewn rhyddiaieth ac mewn cerdd.