Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gymysgu

gymysgu

Efallai fod y reverb sydd wedi ei roi wrth gymysgu, wedi effeithio ar gryfder swn yr offerynnau gwreiddiol ac o ganlyniad mae'n tynnu oddi ar y gân.

Gellir gwella'r blas trwy gymysgu stribedi mân o fetys efo sôs hufen neu mayonnaise ac ychwanegu lovage, teim a hadau carddwy.

Yr oedd cysondeb hefyd rhwng dadlau'r achos ar lefel rhesymeg mathemategaidd, haearnaidd, amhersonol, a'i gymysgu ar yr un pryd gydag ymosodiadau poeth, emosiynol ac yn aml enllibus o bersonol.

I wella chwydd yn y traed berwid gwraidd yr ysgawen, ei gymysgu gyda hen saim i wneud eli a'i roi ar y traed a'r coesau.

A phob natur a phriodoledd Eto'n hollol gadw'u lle, -Dyndod heb gymysgu â Duwdod; Priod f'enaid byth yw E.

Yn lle taflu cynnwys y bagiau, ar ôl cael gwared o'r planhigion a'u gwreiddiau, ei storio ar gyfer ei ddefnyddio fel mawn cyffredin wrth gymysgu compost.

Ceir dewis rhwng gweithio'n gyflym gynyddol ar y naill law, neu gymysgu'n araf ddryslyd flêr ar y llaw arall.

Toddwch saim a'i gymysgu â chnau, crofen cig moch, etc.

Rhyw liw felly wedi ei gymysgu efo melyn cyfoglyd ydi'r milgi.

Gwnaeth y teulu hefyd gymwynas fawr â dynoliaeth trwy gymysgu eli o lysiau at wella'r eryr - Eli Dremddu sydd wedi bod yn fodd i wella pobol ar draws y byd o'r dolur eryrod.

Beth bynnag, wn i ddim yn union ar ba gangen o'r goeden achau dwi'n sefyll ar hyn o bryd, os newch chi faddau i mi am gymysgu delweddau am eiliad; wn i ddim os ydw i yng nghorlan y defaid gwynion neu'r defaid duon ('da chi'n gweld, roedd hi'n anodd gosod dafad ar goeden, neu frigyn, neu mewn nyth, yn doedd?).

Desg Gymysgu Garry Owen yn ateb ein cwestiynau treiddgar!

Yn ogystal â'r ddesg gymysgu arbennig sydd ar gael yn barod, sy'n eich galluogi i gymysgu a chreu eich jingls eich hunain, bydd cyfle hefyd yn ystod yr wythnosau nesaf i chi ddefnyddio'r meddalwedd diweddaraf un.

Os bydd hylif fel llefrith wedi ei gymysgu gyda'r wy yna, wrth ei dwymo, bydd yr hylif yn cael ei ddal yn y rhwydwaith ac fe gewch gwstard.

Er bod yr Eglwys yn sgut yn erbyn y Cacao, criw o Leianod yn Chiapas oedd y rhai cyntaf i gymysgu'r Cacao efo siwgwr gan wneud y cachu carnero yn debycach i be ryda ni'n gwagio bocseidia ohono fo i lawr ein llwnc bob Dolig a phen-blwydd heddiw.

Yn raddol hefyd, sylweddolwyd nad haint newydd mo SDIC, ond hen haint a gadwyd o fewn terfynau mewn rhannau arbennig o'r byd, ond a ymledodd trwy'r byd i gyd fwy neu lai, oherwydd mwy o gymysgu rhwng poblogaethau.

Ni fedrai ond llenor gymysgu mor gyfrwys holl ddysg Ysgol Hanes Rhydychen ad addysg yr Ysgol Sur a blodau ac adar ac arwyr a'r un bersonoliaeth ryfedd yn eu cynnwys oll ac yn ei mynegi ei hun trwyddynt.

Beirniadwyd Stalin am esgeuluso un cwlwm hanfodol, sef y cwlwm diwylliannol, ac am gymysgu dau ffenomenon, "pobleictod" a chenedligrwydd.

Fe allech glywed 'i chwerthin o bell, ac roedd hi'n barod i gymysgu ym mywyd y pentre.

Y mae ei gamgymeriadau, meddai, 'yn difwyno llyfr hanes sydd, mewn cyfeiriadau eraill, yn gampus.' Y mae David Powel yntau yn cydnabod bod peth sail i'r amheuon ynghylch bodolaeth Arthur, un o gonglfeini'r hanes Brytanaidd, yn ogymaint a'i fod wedi'i gymysgu a 'ffug-chwedlau' a 'phroffwydoliaethau ynfyd Myrddin', ond eto i gyd, deil yn gadarn ei gred yng ngwirionedd sylfaenol yr hanes: 'y mae'n glir nid yn unig wrth y llu hen gofebau sydd wedi cael eu henw oddi wrth Arthur, ond hefyd wrth yr hanesion Sgotaidd a Sacsonaidd ac ysgrifeniadau'r mwyaf dysgedig ymhlith amddiffynwyr yr hanes hwn, fod yr Arthur hwnnw wedi bod yn frenin ar Brydain, yn ddyn amlwg ei glod mewn rhyfel, ac iddo'n fynych fod yn fuddugoliaethus ar ei elynion trwy ei gampau tra rhagorol'.