Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyndyn

gyndyn

Erbyn amser cinio, daeth yn amser ffarwelio â'r lle, ac roedd hyd yn oed Dafydd Morgan Lewis yn gyndyn i adael.

.' (neu 'ffisig coch', 'ffisig gwyrdd' neu 'ffisig du', yn ôl y galw.) Un gaeaf pan oeddwn yn llanc, o fethu â chael gwared â pheswch go gyndyn, nid oedd dim amdani ond galw yn Llys Meddyg i ddweud fy nghwyn.

Yr enghreifftiau mwyaf trawiadol o'r rhwystr hwn yw'r rheini a dreuliodd oes yng Nghymru gan wrthod yn gyndyn gwneud unrhyw ymgais hyd yn oed i ynganu "Machynlleth" neu "Pwllheli% yn gywir.

"Y cyfan rydw i ei angen yn awr ydi cornel fach glyd i roi fy mhen i lawr." "Mae'na le yn y stabal," meddai'r tafarnwr yn gyndyn, ond heb feiddio edrych ym myw llygaid tywyll y cardotyn.

A'i nain wedyn, yr oedd honno yr un mor gyndyn i ollwng ei gafael, ac yn ôl pob golwg, hyd yn oed yn gwrthryfela yn ei henaint, yn codi ei llais gynnau, yn erbyn pwy tybed?

Dengys y ddedfryd a dderbyniodd David Phillips a John Smith anghysondeb parhaus y gosb a fu am gyflawni troseddau cyffelyb, gan fod rheithgorau a barnwyr fel ei gilydd yn ystyried y gyfraith yn rhy llym ac felly yn gyndyn i weithredu ei holl rym.

Of nai'r meddyg y byddai'n rhaid torri'r droed i ffwrdd gan mor enbyd oedd ei chyflwr, ond yr oedd Phil yn gyndyn iawn i gytuno â hynny.

Y mae'r ddogfen hanesyddol hon yn nwylo Llywodraeth Ffrainc ar hyn o bryd ac mae'n gyndyn i ollwng gafael arni.

Gellwch feddwl ein bod ni braidd yn gyndyn i fynd am yr archwiliad yma ar ôl gwrando ar hanesion yr hen ddynion yn y chwarel.

Rhaid glynu'n gyndyn wrth yr egwyddor nad yw byth yn foesol i ysbeilio neb o'i fywyd.

Cododd Iona'n gyndyn a mynd allan at y car.

Torrodd Griffith Jones, Llanddowror, gwys newydd pan sefydlodd ei ysgolion cylchynol trwy lynu'n gyndyn wrth yr egwyddor mai Cymraeg oedd iaith yr ysgolion i fod.

Felly nid yw'n syndod o gwbl bod prifysgolion a sefydliadau eraill sy'n ymwneud â safonau academaidd yn gyndyn o roi o'u hamser a'u harian i archaeoleg môr neu i gael eu cysylltu â hi.

Pam ydych chi'n gyndyn i wneud hynny?

Pam wytlti mor gyndyn o fynd yn ôl i Loegr?

Am ei fod mor gyndyn o ddefnyddio cadair olwyn roedd yn cael ei ynysu fwyfwy yn gymdeithasol ac roedd llai o gyfle ganddo i gael mynediad i'r gymuned.

Dim ond newid yn fy ymwybyddiaeth a arweiniodd at hyn, ac wedyn dim ond yn gyndyn iawn, a dim ond yn yr wyth mlynedd diwethaf."

Er gwaethaf rhybuddion Robin, doedd Rhian ddim wedi rhag-weld pa mor gyndyn y byddai'r sefydliad i gyfaddef nad oedd cyfiawnder.

Ei fwriad oedd ei holi ynglŷn â'i weithredoedd, mewn ymgais i geisio deall pam y'u cyflawnodd, ond roedd Josef Mengele yn gyndyn o drafod Auschwitz mewn unrhyw fanylder, heb sôn am ddangos unrhyw deimladau.