Fyddai Roci byth yn crwydro o'i gynefin heb gwmni ei ast ffyddlon, ac aeth a hi i mewn i dy'r cymydog a'i sodro wrth ei gadair o flaen y tan.
Wedi cyfnodau o weithio yng Nghaerdydd a Bangor dychwelodd i'w gynefin i fod yn bensaer gyda phartneriaeth leol ym Mhwllheli.
Williams Parry o Glychau'r Gog ac yn yr ail bennill dengys inni ei gynefin.
Rhoddi tro drwy fynwentydd y cedyrn a gwympasant - a sefyll ar rai o'r meysydd a'r llanerchi ag ar ydym yn y pedair blynedd a basiodd mor gynefin â'u henwau ag yr ydym ag enwau ein mamau a'n chwiorydd, ar tai y'n ganwyd ynddynt.'
Bydd y parasitoed benywaidd yn chwilio am westeiwr addas trwy ddefnyddio symbylyddion amgylchol a ddeilia o'r gwesteiwr a'i gynefin.
Y tueddiad heddiw ydi clirio llefydd o'r fath, a dyna'r nico wedi colli ei gynefin a ninnau yn colli ffrind a chantor lliwgar diguro.
Hwn oedd uchafbwynt y dinistr a'r hoelen farwol yn arch yr hen gymdeithas gynefin gymdogol.
erwau ac erwau o gynefin arbennig ac yng nghanol yr unigeddau - i'w weld o bobman y 'tþ ysbryd' i'r anghyfarwydd, neu Wylfa Hiraethog i'r astudiwr mapiau neu Plas Pren i'r lleol...
Ymhob un ohonynt, dadansoddir y testun yn bwyllog, symudir o bwynt i bwynt yn rhesymegol, dosrennir y pwyntiau'n is- adrannau, nodir yr athrawiaethau sydd yn ymhlyg ym mhob rhan, a goleuir y datganiadau a wneir gan brofion, sef cymariaethau, trosiadau, cyferbyniadau, daduniadau, oll wedi'u tynnu naill ai o'r Ysgrythur ei hun, o lyfrau a ddarllenasai Rowland, neu o'r byd naturiol yr oedd ei ddarllenwyr yn gynefin ag eœ Mae iddynt fframwaith o resymu clir.
Cerddai ar hyd math o gulffordd wastad, ddinodwedd, o wlad gynefin ei lencyndod a phrofedigaethau'r wythnosau diwethaf tuag at diriogaeth ddynol a oedd bron tu hwnt i'w ddirnadaeth a'i ddychymyg.
Wrth ymadael â'r orsaf, wedi dychwelyd adref o'r coleg ar gychwyn Cysgod y Cryman, mae'n taro'i docyn yn llaw'r gorsaf-feistr fel un sy'n 'gynefin â gweision'.
Mae Aduniad yn stori am wraig a ddychwelodd i'w hen gynefin yn dilyn ysgariad.
A dyna braf oedd bod yn ôl; popeth mor gynefin ac mor annwyl.
Ond nid oedd wedi torri pob cysylltiad a'i hen gynefin: roedd ganddo ryw gyfaill neu'i gilydd ymysg is-olygyddion y rhan fwyaf o'r papurau cenedlaethol, a phan ffroenai stori leol y gellid ymestyn rhyw gymaint ar ei diddordeb, ai ar y teliffon i'w hysbysu, a chael punt neu ddwy am ei drafferth.
O, 'roedd o'n hen gynefin a chroeawu y rhyw deg i'w gartref yn Lerpwl ac yno gallai drafod merched, boed briod neu weddw, cystal â'r dyn drws nesa' - ond welw enaid cwbl ddieithr iddo yn ei groesawu i'w gartref newydd yn Nefoedd y Niwl.
Wrth gwrs, byddai'r esboniad hwn yn ateb rhai o'r posau oedd wedi peri cymaint o benbleth iddynt: pam roedd rhai pobl yn methu â'u gweld fel personau ond yn gweld effeithiau eu presenoldeb; pam roeddynt yn teimlo fel bodau ar wahân yn eu hen gynefin, yn fwy felly nag yr oedd traul y blynyddoedd yn ei esbonio; pam roedd agendor diadlam rhyngddyn nhw a'r bobl.
Wedi ei gael dilynai ef mewn lli a sychdwr i'w hen gynefin.
Dyn a'i olygon ar y pellteroedd y tu draw i lesni'r gorwelion, y crwydrwr cosmopolitan oedd dyn â'i law ar lyw beic, ond dyn o fewn ffiniau'i gynefin yn gwarchod gwinllan ei dadau oedd dyn â'i law ar lorp berfa.
Dyma gynefin yr herwr Lewsyn ap Moelyn y clywir llu o chwedlau amdano yn y gymdogaeth.
Beth bynnag, roedden ni'n gwybod hanes cefndir Prys Edwards wrth gwrs, a phenderfynwyd gwylio Glantraeth rhag ofn mai yma yn ei gynefin roedd o'n cuddio.