Roedd yn fuddugoliaeth mewn llawer ystyr, roedd fel pe bai mwy na bygythiad Ffasgaeth wedi'i ddileu, oherwydd fe gyneuwyd gobaith newydd drwy'r byd yn gyfan gwbl, gobaith y gellid dechrau adeiladu'r byd newydd hwnnw y bu cymaint o aros amdano.
Ond fe ddiffoddwyd y fflamau hynny a gyneuwyd gan ddynion a fynnai reoli'r byd crwn cyfan yn fuan - nid oedd golau'r gobaith mor hawdd ei ddiffodd.