Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gynghorwyr

gynghorwyr

Saesneg bob gair oedd cyfraniadau'r holl gynghorwyr eraill, ac er bod y cadeirydd yn honni bod yn 'Gymro da' ni ddaeth gair o'r heniaith dros ei wefusau y prynhawn hwnnw.

Yr oedd un neu ddau o gynghorwyr lleol pur brofiadol yn bresennol, a gofynnodd un ohonynt am ganiatâd i gyflwyno'r cynllun i'w gyngor ef, yn gynllun a awgrymwyd iddo gan arbenigwr, ond heb enwi'r Blaid; yr oedd e'n ffyddiog y byddai ei gyngor yn ei dderbyn ac y byddai'r aelodau'n barod i'w gymeradwyo i gynghorau eraill.

Dau ohonon ni oedd ar y daith, golygydd cylchgrawn Cymraeg (fi) ac un o gynghorwyr Plaid Cymru (Gareth Butler o Aberystwyth).

Yn Arnom yr oedd honno ond fe gafodd llawer o hogia o Nom hefyd waith yno i helpu'r Romans, drwy i gynghorwyr Nom dorri eu rheolau eu hunain.

Bu Cymdeithas yr Iaith yn pwyso ar gynghorau ac ar gynghorwyr Sir a Dosbarth, yn arbennig yng Nghlwyd, i ddangos eu ewyllys da i'r iaith Gymraeg trwy weithredu yn y modd yma.

Ymhlith yr aelodau yr oedd: Cadeirydd y Pwyllgor Addysg, Cadeirydd ac Is-Gadeirydd Pwyllgor y Llyfrgell; Edward Lewis, Cyhoeddwr, Llandysul (yno fel Cynghorwr); dau athro wedi ymddeol, ond yn Gynghorwyr; dwy wraig o Aberystwyth; Prifathro Ysgol Uwchradd, a Phrifathro Ysgol Gynradd.

Gwrthododd Cyngor Tref Blaenau â derbyn y cymal yma ac felly mae'r Gadair yn gogrdro rhwng cylch bach o Gynghorwyr, ac ymddengys fod y cylch yma yn mynd yn llai ac yn llai.

Neu ar y llaw arall falla y bydd y rhai efo ewyrthod yn gynghorwyr yn Nom yn medru cael job yn rhwydd.

ANNWYL OLYGYDD--Rwy'n sgwennu'r llythyr yma atoch fel un o Gynghorwyr Tref Blaenau Ffestiniog yn dilyn ymddiswyddiad un o'r aelodau yn y cyfarfod blynyddol yn ddiweddar am y tybiaf y medraf esbonio rhai o'r rhesymau a'r cefndir i'r digwyddiad yma.

Mae ugain o Gynghorwyr Cyngor Bwrdeisdrefol Sirol Caerffili wedi arwyddo deiseb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg sydd yn galw am Ddeddf Iaith Newydd.

CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG Annwyl Olygydd, Llythyr Agored at Gynghorwyr Cymuned Dosbarth a Sir Mewn ymateb i'r ddirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg a'r Swyddfa Gymreig yn gynharach eleni datganwyd yn ddigon clir bod gan y Cynghorau Dosbarth a'r Cynghorau Sir yr hawl i baratoi adroddiadau "ar unrhyw destun a ddymunant, gan gynnwys yr iaith Gymraeg".