Ychwanega ei fod wedi dwyn croes ein Harglwydd Iesu Grist ar ei ysgwyddau (sef llun neu batrwm ar ei darian yn ôl pob tebyg) am dri diwrnod a thair noson, a dyma'r enghraifft gynharaf o'r syniad am Arthur yn amddiffynnydd i'r Ffydd Gristnogol.
O droi at ffynonellau hanesyddol pur fe geir mai'r ddwy gynharaf sy'n crybwyll Arthur yw'r Annales Cambriae, cronicl o hanes y Cymry, a'r Historia Brittonum, 'Hanes y Brythoniaid', a briodolwyd yn gam neu'n gymwys i un o'r enw Nennius.
Ond ymddengys mai'r gerdd gynharaf sydd gennym i un o noddwyr y sir yw'r awdl farwnad a ganodd Casnodyn ei hun i Fadog Fychan o'r Goetref, yn Llangynwyd.
Fe geir naw o gerddi marwnad gan feirdd i'w plant eu hunain, y gynharaf o gryn dipyn gan Gynddelw yn y ddeuddegfed ganrif, a'r lleill i gyd yng nghyfnod Beirdd yr Uchelwyr o'r bedwaredd ganrif ar ddeg ymlaen.
Yn ôl yr Athro Patrick Ford, 'y mae'r dystiolaeth gynharaf am Arthur yn ei osod yn ddiogel ymhlith ffigurau a gysylltir yn bendant gennym â thraddodiad mytholegol a etifeddwyd o'r cyfnod Celtaidd.
Fe hawliwyd mai mewn barddoniaeth Gymraeg y ceir y ddau gynharaf, a phe gellid bod yn sicr o hynafiaeth y testunau byddai'n hawdd credu hynny.