Teimlid bod y cyfeiriadau cyson at yr 'hynaf penteulu' a'r 'hylwydd iawn gynheiliad' ynghyd â'r 'ymherawdr' a'r 'emprwr', y sofran a wyliai fuddiannau ei ddeiliaid, yn elfennau teuluol yn eu hystyr ehangaf ac yn cyfannu'r gymdeithas ac aelodau o'r 'cenhedlog waedogaeth' ynghlwm wrth uned sylfaenol y teulu cenhedlig na allai ffynnu mewn cyflwr o anarchaeth neu ddiffyg trefn.
Amheuai eu gogwydd tuag at Gatholigiaeth a'u gwrthwerinoldeb, bid siwr; eithr yr hyn a barai'r anesmwythyd mwyaf iddo oedd parodrwydd digwestiwn eu hadwaith: 'Nid wyf yn hoffi ffolineb y Sais; ond nid wyf yn hoffi ychwaith ffolineb Ffrainc, ac ni all haeriadau Ffrainc fod ddim mymryn mwy deniadol i'm twyllo na haeriadau Lloegr.' Yn ei hanfod, ymryson oedd dadl Gruffydd a Lewis ynghylch pwy oedd gwir gynheiliad 'yr hen ddiwylliant Cymreig.' Yr oedd diffiniadau ehangach o'r cychwyn yn iswasanaethgar i Gymreigrwydd y ddwy estheteg a bleidiwyd.