Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gynhyrfu

gynhyrfu

Yr Athro WJ Gruffydd oedd hwnnw: yntau wedi dod allan yn Bleidiwr amlwg yn sgil ei wrthwynebiad i'r Ysgol Fomio, ac wedi'i gynhyrfu cymaint gan y prawf yn Llundain nes cyhoeddi y byddai Cymru mwyach yn cyfrif pob Sais yn elyn; galwodd ar Gymru oll i foicotio coroni'r brenin Siôr Vl, ond nid oedd hyd yn oed fro enedigol Gruffydd ei hun yn aeddfed i ymwrthod a the parti'r dathlu pan ddaeth yr adeg.

'Mae rhywbeth newydd ei gynhyrfu'n fawr a gwneud iddo siarad ag e'i hunan.

Mi fydd yn rhaid i rywun gynhyrfu'r hogia', yr hogia' fydd heb ddim i'w wneud!" "Aros ein hamser fydd raid i ni," ychwanegodd Elystan yn bwyllog, "ac wedi i'r hin gynhesu peth, mi af i â thi i lawr i'r Clas belled â'r Betws, Gwgon.

'Roedd e wedi ei danio a'i gynhyrfu gymaint gan yr hen ganu, a chan yr hyn oedd ganddo i'w ddweud, nes ei fod wedi anghofio'r cyfan am y glaw, a ninnau allan yn ei ganol!

Y mae'r newidiadau yma yn dal i gynhyrfu'r gynulleidfa radio yng Nghymru, er bod llawer o'r ymateb wedi bod yn geidwadol iawn.

'Roedd yn un hawdd ei darfu ac nid oedd dim yn ei gynhyrfu'n fwy na gorfod mynd o dŷ heb damaid o fwyd.