Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gynllunio

gynllunio

Mae wedi'i gynllunio i'ch cynorthwyo chi, a'ch ysgol neu eich coleg, i gael y budd mwyaf o'r cynllun.

Fe âi ati yn bwyllog a threfnus i gynllunio ar gyfer y pedair tasg.

Rhaid gweithio yn ddyfal eto i sefydlu dulliau mwy effeithiol o ddylanwadu ar y broses gynllunio.

EFFEITHIAU: Yn fras, gellir rhannu effeithiau fel a ganlyn:- llai o lygredd a thagfeydd traffig, llai o alw am gerrig mâl, gwell ansawdd bywyd yng nghefn gwlad a hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r amgylchedd drwy gynllunio teithiau cludiant cyhoeddus i hybu canolfannau ymwybyddiaeth o'r amgylchedd.

Mae ystyried dilyniant, parhad a chydlynedd yn y cwricwlwm yn elfennau holl-bwysig yn y broses o gynllunio ysgol-gyfan, er mwyn creu continuum addysgol i'r plant.

Bu farw'n dlotyn wedi oes fer o gynllunio a dyfeisio er lles yr ardal ac ar y diwedd roedd yn druenus ei weld yn ceisio bodoli ar yr ychydig bres a gai oddi wrth Urdd y Seiri yn Llundain.

Cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith ei hymateb i'r canllawiau newydd ar berthynas y Gymraeg a'r gyfundrefn gynllunio i'r Swyddfa Gymreig heddiw.

GWERTHUSO: Tuedda buddiannau adennill tir i or-bwyso'n erbyn y costau, yn amodol ar gorffori materion yr amgylchedd yn ystod y cyfnod o ddylunio a chynllunio, yn hytrach na meddwl amdanynt fel elfen atodol i'w chyplysu ar y diwedd, ac yn amodol hefyd ar werthuso effaith yr holl waith arfaethedig ar yr amgylchedd, a phwyso honno'n erbyn y defnydd terfynol arfaethedig cyn cychwyn, neu hyd yn oed gynllunio, unrhyw waith.

Cynllunio'ch diet Cyn eistedd i lawr i gynllunio'ch patrwm colli pwysau, gwnewch yn siwr eich bod wedi deall y Canllaw i golli pwysau'n llwyddiannus ac wedi deall yr awgrymiadau sydd yn y Cynllun deg pwynt.

Deuai pobl o bob rhan o Gymru i edrych ar y Cloc Blodau rhyfeddol hwn, a dechreuodd rhai rhannau eraill o Gymru feddwl o ddifrif am gynllunio yr un fath o beth i ddenu ymwelwyr i'w hardaloedd nhw yn y dyfodol.

Er bod gan India a China boblogaeth uwch nag Affrica, llwyddodd y ddwy wlad honno i orchfygu newyn drwy gynllunio'n ofalus.

Argymhellir ymgymryd ag ymchwil mewn rhai agweddau allweddol o'r maes hwn a fyddai'n cynorthwyo llunwyr polisiau ac addysgwyr gweithredol i hyrwyddo agweddiadau positif a chefnogol wrth gynllunio rhaglen datblygu addysg Gymraeg.

Sefydlwyd project eisoes i'r perwyl hwn i ganfod yr anghenion galwedigaethol mewn rhai meysydd penodol ac i gynllunio rhaglen ddatblygol yn y sector addysg bellach is.

asesu, cofnodi a chyflwyno adroddiadau - ei ddefnydd i godi safonau cyrhaeddiad ac i gynllunio gwaith newydd; ei gymedrolrwydd mewnol i sicrhau bod disgyblion yn cael eu gosod yn gywir ar y lefel neu gyfnod yn y Cwricwlwm Cenedlaethol y maent wedi'i gyrraedd; ac i ba raddau y mae system yr ysgol yn cynnig trefn asesu drwyadl, ddibynadwy a pharhaus ar gyfer pob disgybl ym mhob un o Dargedau Cyrhaeddiad y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Roedd y swyddogaeth ganolog y dylid fod wedi ei rhoi i Zola i gynllunio ac addasu'r offer wedi cael ei anwybyddu.

Rydyn ni'n gobeithio cael ymateb da i Benwythnos Sêr S4C, fel y gallwn ni gynllunio dewis ehangach a mwy amrywiol o deithiau yn y flwyddyn 2000, gan gynnwys, o bosibl, penwythnosau garddio a choginio gyda gwahanol gyflwynwyr S4C.

sicrhau fod y drefn gynllunio yn gwasanaethu'r gymuned leol, bod tai newydd yn diwallu anghenion lleol, ac na roddir caniatâd i gynlluniau a fyddai yn niweidiol i'r gymuned yr iaith Gymraeg neu'r amgylchedd.

Dyw'r Antur ddim yn sefyll yn stond - mae cynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol, ac ymdeimlad o hyder wrth gynllunio'r dyfodol hwnnw.

Mae eich trefnydd lleoliadau athrawon yn darparu gwasanaeth cyflawn sydd wedi'i gynllunio i hyrwyddo hyd yr eithaf holl fanteision y lleoliad, ac mae hynny'n cynnwys darparu amrediad o ddeunyddiau i gefnogi'r lleoliad a manylion am opsiynau ar gyfer achredu.

Yr anghenraid i gynllunio cwrs, beth bynnag yw'r cyfrwng - boed teledu neu ystafell ddosbarth - yw cynllunio'r camre.

Bydd y Gymdeithas yn parhau i ymgyrchu o blaid Deddf Eiddo er mwyn sicrhau cyfundrefn gynllunio a pholisi tai tecach i Gymru.

Yr unig beth yr oedd o'n ei licio am gynllunio YTS oedd y teithio.

Edrychwch o'ch cwmpas ar gynllunio graffig - edrychwch ar bapurau newydd ac ar hysbysebion a dysgwch oddi wrthynt.

Prin ei bod yn werth iddo gynllunio ar gyfer honno.

Pan gâi lonydd (ganddo ef ei hunan a chan eraill) at y cofiant yr âi - ac, yn awr ac yn y man, at y cofiant i Goronwy Owen yr oedd hefyd yn ei gynllunio.

a chan sir i gynllunio datblygiad iaith.

Bu farw'n dlotyn wedi oes fer o gynllunio a dyfeisio er lles yr ardal ac ar y diwedd roedd yn druenus ei weld yn ceisio bodoli ar yr ychydig bres a gai oddi wrth Urdd y Seiri yn Llundain.YR OES OLEUEDIG HON...?

Penodi James Griffiths yn Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru gyda sedd yn y 'cabinet'. 'Roedd y Swyddfa Gymreig newydd â gofal am dai, llywodraeth leol, trafnidiaeth ffyrdd a rhai agweddau ar gynllunio lleol.

SC Fe garwn i wneud cais ar i bob cwmni gynllunio o leiaf ddwy flynedd ymlaen llaw.

Rhaid wrth gynllunio manwl, wrth drafod cynnwys y cwricwlwm ac wrth ystyried natur ac amrywiaeth yr arddulliau a'r ymagweddau dysgu sydd i'w mabwysiadu

Mae nodau'n ganolog i'r broses o gynllunio a chwblhau lleoliad llwyddiannus.

PENDERFYNWYD hysbysu Cyngor Cefn Gwlad Cymru na fyddai ychwanegu camau biwrocrataidd i'r broses gynllunio yn datrys problem dylunio.

Dibyniaeth gydberthynol Dyna orffen felly y rhan gyntaf o'r hyn sydd gen i i'w ddweud - sef pam mai hon yw brawddeg bwysica'r iaith ac yn graidd i gynllunio'r dysgu iaith.

Gallwn gynllunio at y dyfodol gan geisio rhagweld beth fydd effaith pa gwrs bynnag y penderfynir arno.

'Roedd y ffordd y bu rhai awdurdodau'n gweinyddu eu swyddogaeth gynllunio yn annerbyniol.

Dylid asesu pob agwedd ar gynllunio ar gyfer datblygiad yn ôl y gofynion er mwyn sicrhau y bydd hynny'n esgor ar gyfle cyfartal i'r holl ddisgyblion ag AAA.

Er bod diffiniadau statudol o'r term anghenion arbennig ar gael, mae ehangder y grp, amrywiaeth yr anghenion ac amlder ymddangosiad y gwahanol anghenion yn arwain at anhawsterau mawr wrth geisio gynllunio'n strategol.

Gellir dadlau, mae'n wir, fod ei charedigion wedi sicrhau mynediad iddi i ysgolion y wladwriaeth drwy gynllunio strategaeth ac ymarfer tactegau cyfrwys i drechu'r rhagfarn na fynnai weld yr iaith ond fel gwreiddyn stwbwrn '...' .

Yr hyn sydd ei angen yw ymdrech integredig a chyfnod o gynllunio pendant er mwyn adeiladu ar gryfderau sy'n bodoli, adnabod unrhyw anghenion datblygu a gosod ar waith strategaeth i ateb yr anghenion hynny.

cwricwlwm - ei drefniadaeth a'i gynllunio ac i ba raddau y mae'n cwrdd â gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Sut all gweithiwr gofal hybu hunan-barch a helpu unigolion i gynllunio eu patrwm byw eu hunain?

O ran y Bwrdd, gwaith y broses o gynllunio corfforaethol fydd hynny: proses esblygol i raddau, ond proses a fydd yn seiliedig ar y strategaeth hon.

Pwysodd hefyd am gynllunio dyfodol i'r Gymraeg.

Cyhoeddwyd y papur ymgynghorol yn sgîl cwynion bod y system gynllunio yn aneffeithiol er rheoli mân newidiadau mewn ardaloedd cadwraeth.

Ond 'tasa gennych chi enw gwerth 'i gyhoeddi, mi fyddai pawb yn siwr o wrando.' Wedyn, dyna fo'n dechrau arni i gynllunio fy holl yrfa.

deallwyd mai gofynion y profion darllen a'r angen i sicrhau ystod priodol o ddeunyddiau darllen a barodd i'r asiantaeth gynllunio ar sail pedair haen, ond wedi rhoi ystyriaeth ddyfnach i'r deunyddiau ochr yn ochr â'r haenau, barn y gweithgor oedd y dylid ystyried eto a ellir asesu darllen mewn tair haen.

Efallai y bydd gan y sefydliad croesawu ei nodau ei hun ar gyfer eich lleoliad, a bydd angen eu cymryd i ystyriaeth wrth gynllunio'r rhaglen.

Er enghraifft, os ydym yn gwybod faint y mae glofa yn ei gynhyrchu, gall fod yn fater eithaf hawdd, trwy gynllunio'r cyfrifon yn briodol, i gyfrif cost tunnell o lo.

Yn achos Cymraeg Uwchradd yr oedd pawb a'i cafodd wedi derbyn hyfforddiant gan yr HC ar gynllunio datblygiad iaith.

Ceisiwch edrych ar y Cynlluniau bwyta yn y pecyn yma er mwyn rhoi rhai syniadau i chi ar gynllunio bwydlen.

Ni ellir adfer gwychder ein canu trwy gynllunio a defnyddio ystrywiau.

Yn achos Ail iaith Uwchradd, derbyniwyd arweiniad ar sut i gynllunio llawlyfr adran.