Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gynneddf

gynneddf

Bid a fo am hynny, mae'r gair Cymraeg 'awen' yn nes o ran ei ystyr i ysbrydoliaeth nag ydyw dychymyg, ac onid wyf yn camgymryd, 'roedd Waldo'n ffyddlon i ryw gynneddf yn ei natur wrth ddewis y gair hwn, ac wrth wneud, 'roedd yn gallu cadw'r hyn a oedd yn werthfawr yn ystyr y gair 'Imagination' i Blake heb gael ei lluddias gan rai o ragdybiaethau'r meddwl diweddar am y dychymyg.

A hyd yn oed yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, yn y flwyddyn 1952, yn Siarter y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig, er yr holl newid a fu yn agwedd a meddwl arweinwyr addysg a diwylliant, fe ofalwyd peidio ag enwi'r iaith Gymraeg yn gynneddf anhepgor ar reolwr a chadeirydd i Gymru.

Y mae tradyrchafu un gynneddf, dyweder y gynneddf ddadansoddol, ar draul anwybyddu'r lleill, yn golygu gwneud cam mawr â chyfoeth y bersonoliaeth.