Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gynnwrf

gynnwrf

Cyfrinach llwyddiant Merch Gwern Hywel yw fod yr ymdeimlad o 'fyw trwy'r digwyddiadau' wedi'i drosglwyddo iddi, a'n bod ninnau'n cyfranogi o gynnwrf yr ymrafaelion diwinyddol fel petaem yn gyfoes a hwy.

Un yno i geisio dal peth o gynnwrf digwyddiadau diweddar mewn ychydig dudalennau o brint, y llall yn gobeithio dysgu a chynnig help.

Cawsom gynnwrf rowndiau cyn-derfynol a therfynol y gystadleuaeth Choir of the Year yn ystod penwythnos yr Wöyl.

Ond o'r berw a godai yn sgîl clywed mor hwyr y dydd am ddigwyddiad o'r fath, y tebygrwydd yw y byddai cyflwynydd y rhaglen yn ymddangos mor ddi-gynnwrf ag erioed wrth adrodd holl fanylion y stori o fewn yr awr.

Nid oedd ganddo feddwl uchel o gynnwrf Diwygiadau.

Nid oedd y trydan wedi ei gadael, roedd hi'n dal yn gynnwrf byw o hyd.

Ond parodd cyhoeddi dau ohonynt gynnwrf anarferol.

Neithiwr cafwyd rhywbeth arbennig ac aeth y gynulleidfa allan i'r egwyl yn ferw o gynnwrf.

yr amser y mae'r bom i fod i gael ei thanio; ble y gall y bom fod wedi'i gosod; oed, rhyw, acen ac unrhyw arwydd o gynnwrf, tensiwn neu fedd-dod yn y sawl sy'n galw; p'un a yw'r alwad wedi'i gwneud o flwch ffôn, wedi'i deialu i mewn neu yn dod o estyniad mewnol; p'un a oedd yr alwad yn swnio fel bod y sawl oedd yn galw yn darllen neges oedd wedi'i baratoi neu beidio.

Wrth son am 'led-glasuraeth' y ddeunawfed ganrif mae Saunders Lewis yn datgan yn feirniadol: Nid oedd ei threfn hi, ei synnwyr da a'i chytgordiad, yn effaith meistrolaeth eang ar gynnwrf profiadau, ond yn hytrach yn gynnyrch crebachu profiad a rhannau pwysig o gyflawnder bywyd.

Felly ar ôl yr holl gynnwrf, beth yw priodweddau'r ffurf newydd yma ac oes 'na beth ohoni i'w gael mewn huddygl?

Mae yna gryn dipyn o gynnwrf wedi bod am y cynnyrch gan fod yna doreth o artistiaid eraill yn cyfrannu at y casgliad sydd bellach yn dipyn o draddodiad gan y grwp.

Gall bensednne a chyffuriau tebyg achosi cyflwr o gynnwrf meddwl ac aflonyddwch corfforol ynghyd

A chreodd ei bregeth gynnwrf.