Mae'r awdurdodau iechyd yn poeni fod yr arfer o ddefnyddio tatws parod ar gynnydd gan fod y mwyafrif o bobl eisoes yn tueddu i fod yn brin o fitamin C.
Ond er gwaethaf pob gwrthwynebiad ar gynnydd yr âi'r mudiad.
Ymdrinia'r nofel hon â hen broblem oesol ac un sydd ar gynnydd heddiw yn ôl y sôn – sef trais o fewn perthynas.
Mae'n amlwg fod y math yma o ymosodiad ar eiddo ar gynnydd yn ardal Bangor.
Bu cyfnod Elfed ym Mwcle yn gyfnod o gynnydd a ffyniant yn hanes ei eglwys.
Ar hyd y bymthegfed ganrif gwelir yn amlwg gynnydd mawr ymhob gwlad yn rhif y rhai a ddysgasai ddarllen: lleygwyr yn ogystal â chlerigwyr, gwyr a gwragedd fel ei gilydd.
Nid yw'r Cyngor wedi sylwi ar unrhyw gynnydd amlwg yn y gynrychiolaeth o leiafrifoedd ethnig ar raglenni'r BBC dros y deuddeg mis diwethaf.
Rhaid wrth oleuni haul a'i wres os am gynnydd, ac y mae'r sawl sy'n gosod ei ddawn o dan lestr yn ei cholli.
Dydi hyn ar ei ben ei hun ddim yn golygu y gall y person ymuno'n llawn mewn bywyd cymdeithasol, ond gall leihau dibyniaeth ar gymorth personol, a gall hynny yn ei dro arwain at gynnydd mewn rheolaeth.
Gwnaed iawn am hyn yng nghynhyrchiad Merfyn Owen ar y teledu drwy bwysleisio'r grisiau ar amserau tyngedfennol yn y sgript ac asio hynny a phwyslais neu gynnydd mewn cerddoriaeth a ddynwaredai guriad calon (cerddoriaeth William Mathias).
Ni theimlwn yn obeithiol y bydd y cynllun hwn yn arwyddo unrhyw gynnydd mawr yn yr adnoddau ar gyfer plant o fewn Cymorth i Fenywod yng Nghymru, ond croesawn unrhyw gam newydd sy'n cydnabod anghenion plant yn benodol.
Gruffydd, er enghraifft, fod Catholigiaeth ar gynnydd yng Nghymru.
Ond er gwaethaf yr holl gynnydd ymysg ieuenctid, mae lle i boeni hefyd.
Ond ni thalwyd llawer o sylw i'r aflonyddwch diwydiannol a oedd ar gynnydd: 'Cyllideb i'r Bobl' a'r twf yn Llynges yr Almaen a bwysai ar feddwl y Llywodraeth Ryddfrydol.
Mae'r cynnydd yn statws yr iaith yn arwain at gynnydd mewn defnyddio'r Gymraeg yn y sectorau gwirfoddol a phreifat hefyd wrth i gyrff a chwmnïau sydd â chysylltiad â'r cyhoedd yng Nghymru fynd ati i ddatblygu eu gwasanaeth Cymraeg i'w cwsmeriaid.
Y mae hyder yn sylfaen i gynnydd.
Roedd y Gymdeithas Ddirwestol ar gynnydd yn ystod yr mser hwnnw a'r diwcdd fu i Twm fynd at yr ysgrifennydd Ueol i frestru.
Y dull gwyddonol yng nghyd-destun eich prif bwnc chwi eich hun Lle Gwyddoniaeth yn y cwricwlwm a'r berthynas rhwng y gwahanol wyddorau a rhwng gwyddoniaeth a thechnoleg, mathemateg a phynciau eraill Datblygiadau diweddar mewn meysydd megis technoleg gwybodaeth, micro- electroneg, a biotechnoleg Perthynas gwyddoniaeth a thechnoleg a bywyd bob dydd ar bob lefel Defnyddio'r amgylchfyd ar gyfer dysgu Asesu Sgiliau sylfaenol asesu a sut i'w cymhwyso wrth ddysgu Sgiliau cadw golwg ar gynnydd a chyrhaeddiad disgyblion a'u cofnodi, gan gynnwys swyddogaeth gwaith cartref Sgiliau angenrheidiol ar gyfer cloriannu gwerth gwersi, defnyddiau dysgu a meysydd llafur Iechyd a Diogelwch Yn ogystal â gwybodaeth am ddeddfwriaeth ynglŷn ag iechyd a diogelwch yng nghyd-destun yr ysgol, cynhelir sesiynau ar gyfer pob myfyriwr gwyddoniaeth ar beryglon arbennig labordai bioleg, cemeg, ffiseg ac astudiaethau maes Ymarfer diogel wrth wneud gweithgareddau ymarferol gyda disgyblion Storio a chynnal cemegau a chyfarpar Gofalu am greaduriaid a phlanhigion cyffredin y labordy Egwyddorion sylfaenol ac ymarfer Cymorth Cyntaf Datblygiad Personol a Phroffesiynol Paratoi'r myfyriwr ar gyfer profiad ysgol Datblygu hyder fel athro ac ymwybyddiaeth o gryfderau a gwendidau personol wrth ddysgu Hyrwyddo cyfranogi bywiog gyda chydweithwyr wrth ddatblygu a dysgu cwricwla newydd, cynlluniau gwaith, ymarferion theoretig ac ymarferol Bod yn ymwybodol o'r cynnydd mewn ymchwil addysgol, yn arbennig ym maes dysgu'r gwyddorau Astudiaethau Addysg a Datblygiadau Arloesol Bod yn ymwybodol o bwysigrwydd dysgu 'sgiliau proses' mewn gwyddoniaeth Dod yn gyfarwydd a mentrau megis, Cofnodi Cyrhaeddiad, Disgwylir i bob myfyriwr archwilio posibiliadau Gwybodaeth Technoleg, eu heffaith ar arddulliau addysgu a dysgu, a dod i'w defnyddio'n hyderus.
Mae nifer y Cristionogion cywir yng Nghymru ar gynnydd.
Rhyw ddicter ar gynnydd fel bys cyhuddgar yn cael ei anelu ato hi.
Heb unrhyw amheuaeth, yr oedd y Rhyfel yn grwsâd yn erbyn rhuthr y gwrth Dduw Natsi%aidd, a gelyn rhyddid, ond ymofidiodd am fod canlyniadau'r Rhyfel, sef casineb, rhagfarn, bydolrwydd, anobaith, colli ffydd yn Nuw a dyn, pylu'r ddeddf foesol a diystyru'r ysbrydol ar gynnydd.
"Mae yna gynnydd lle mae yna fywyd bob amser," ebe mishtir.
Os ceir Nodau Cyfathrebol heb gynnydd cydgysylltiol mewn patrymau brawddegol, rşm yn ôl cyn y Dilyw gyda'r Dull Union.
Ond mae hon yn alwedigaeth sydd ar gynnydd gydag agoriadau ar feysydd criced ar hyd a lled Prydain heb sôn am Wimbledon ac yn awr ein caeau golff.
Wele gynnydd!
Mewn rhai achosion, mae anawsterau gallu'n benodol, ac yn effeithio ar gynnydd mewn rhai meysydd o'r cwricwlwm, megis llythrennedd, yn fwy nag eraill.
Mae peiriannau yn disodli pobl mewn llawer maes, ac o'r herwydd mae diweithdra ar gynnydd.
A thra bo hunan-hyder ar gynnydd mewn merched y mae ar drai ymhlith dynion.
Felly yr oedd gwariant personol a buddsoddiant ar gynnydd.
Mae'n syniad buddiol gosod amser penodedig ar gyfer adolygiad o gynnydd hanner ffordd drwy'r lleoliad.
Yr hyn a'm cynhyrfodd i gyfansoddi y ffug-chwedl a nodwyd ydoedd fy mawr gasineb at yr hen arferiad gyffredin o nosgarwriaeth, ynghyd â deall fod yr unrhyw ar gynnydd mawr, a'r drygau annifeiriol cysylltiedig â hi yn annioddefol mewn llawer man .
Mae asesiadau athrawon mewn iaith yn rhoi ystyriaeth i gynnydd y disgyblion yn yr amrediad llawn o waith llafar, darllen ac ysgrifennu.
Hefyd yr oedd awdl Gwenallt yn Babyddol ei syniadaeth a'i delweddaeth, ac ofnai llawer ar y pryd, W. J. Gruffydd, er enghraifft, fod Catholigiaeth ar gynnydd yng Nghymru.
Yr oedd y nifer fechan a adawyd yn weddill yn ddigon serch hynny, oherwydd yn fuan iawn ar ôl anterth y clwy yr oedd cwningod ar gynnydd eilwaith.
Pryderai ynghylch pwyslais Moderniaeth ar gynnydd dyn tuag at berffeithrwydd.
Roedd y cynigion i gyd yn y cywair lleddf; roedden nhw i gyd yn ddigalon, ond digalon yn gyffredinol ac nid dim ond digalon ynghylch Cymru, ac roedd hynny'n rhyw fath o gynnydd.
Gallai un anghyfarwydd â'r grefft synied bod y saer yn gwastraffu ei amser gan mor ychydig o gynnydd a datblygiad a ellid ei ganfod.
Thema ganolog: disgyflogi, diboblogi, a bygwth dwyn tir Cymru yn arwain at ddechreuad Oes y Brotest: cenedlaetholdeb ar gynnydd yn sgîl y bygythiad i foddi Cwm Tryweryn, darlith 'Tyned yr Iaith' Saunders Lewis a ffurfio Cymdeithas yr Iaith, a phroblemau economaidd a gwleidyddol Cymru yn arwain at gyfnod y Brotest; a buddigoliaeth Gwynfor Evans yng Nghaerfyrddin efaill yn pwyntio i gyfeiriad Oes y Brotest.