Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyflogi un o dditectifs enwocaf Prydain Fawr (a'i gynorthwydd) i ddod o hyd i Rosemary Butler yr aelod o Gabinet y Cynulliad Cenedlaethol sydd a chyfrifoldeb dros addysg dan 16 oed.
Bydd y detectif byd enwog (a'i gynorthwydd) yn cyrraedd lobi Cynulliad Cenedlaethol am 10 o'r gloch Dydd Mercher Rhagfyr 15ed er mwyn ceisio dod o hyd i Ms Butler.
Dywedodd Dafydd Morgan Lewis, Swyddog Ymgyrchoedd y Cynulliad 'Mae'r sefyllfa hon yn un llawn dirgelwch a dyna pam yr ydym wedi cyflogi detectif enwocaf Prydain (a'i gynorthwydd) i'n helpu i ddatrys y broblem.