Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gynorthwyo

gynorthwyo

fel aelod o'r Is-bwyllgor Gweinyddiaeth a Rheolaeth ac yn hapus i gynorthwyo gydag unrhyw ymholiad y bydd gan CCPC.

Daeth ugain o gynrychiolwyr o ganghennau CYD a Merched y Wawr at ei gilydd i dysgu am weithgareddau newydd i gynorthwyo dysgwyr i ymdoddi i'r gymdeithas Gymraeg.

Rydym yn cyd-gysylltu'r ymgyrch yng Nghymru, a byddwn yn darparu enghreifftiau o'r modd y bydd yr argymhellion yn effeithio ar gadwraeth, a manylion ar sut y medrwch chi gynorthwyo yn yr ymgyrch.

Mae'n rhyfedd gennyf sut y llwyddodd aml i saer coed i ddod i ben â'r gwaith cystal a heb ganddo ond ambell i erfyn priodol i'w gynorthwyo.

Mae datblygiad cyfrifiaduron modern wedi bod yn bwysig iawn i gynorthwyo'r gwyddonydd i wneud y dadansoddiadau yma.

Roedd hi wedi cytuno i gynorthwyo un o'r grwpiau sy'n addoli yn Glenwood.

Dylai'r Cynulliad gynorthwyo i sbarduno symudiad yn Ewrop am Ddeddf Iaith i Ewrop gyfan fydd yn sicrhau statws cyfartal i holl ieithoedd Ewrop.

Awgrymwyd enwau Delyth Owen (Y Groeslon), Rhiannon Ellis (Caernarfon) a Luned Jones (Bethesda) i gynorthwyo Mrs Bebb Jones.

I gynorthwyo'r darllenydd y cyhoeddodd Charles y Geiriadur Ysgrythyrol.

Bwriad y Gronfa Gredyd yw i gynorthwyo pobl ar gyflogau isel neu sy'n dibynnu ar y wladwriaeth am gynhaliaeth, i helpu i gilydd drwy gynilo symiau bychain o arian, ac wedyn benthyca arian ar lôg isel.

Yn ôl gohebydd pêl-droed Radio Cymru, John Hardy, ar y Post Cyntaf, 'Mae Saunders yn teimlo mai dyma'r adeg i ymddeol o chwarae i Gymru, ond mae'n gobeithio cadw cysylltiad a'r tîm cenedlaethol drwy gynorthwyo ar yr ochr hyfforddi.

Felly beth am i'r mudiadau uchod ddod at ei gilydd gydag unrhyw un o garedigion yr eisteddfod i drefnu eisteddfod leol i ardal Llangadfan a'r Foel yn y ganolfan newydd y flwyddyn nesaf, ac efallai bod rhai yn ardal Llanerfyl yn awyddus i gynorthwyo i gario'r traddodiad yn ei flaen.

Diolch yn arbennig i'r Parch Arthur Thomas am ddod o Langefni i wasanaethu ac i'r Parch Ceri Evans am ei gynorthwyo.

Cam pwysig ymlaen i gynorthwyo yr ysgolion fyddai sefydlu Fforwm ar y cyd rhwng y pwyllgor addysg a'r llywodraethwyr fel ein bod yntynnu gyda'n gilydd tuag at yr un nod.

Dyna pam y gweithiodd mor galed ac yr aberthodd gymaint wrth gynorthwyo i sefydlu a datblygu Plaid Genedlaethol Cymru.

Y mae ef hefyd, fel aelod o'r Is- bwyllgor Artistig yn barod i gynorthwyo gydag unrhyw ymholiad.

Os yw hyn yn annerbyniol i Mr Thomas, efallai y gallai gynnwys cyfeiriadau at y ddwy gyfrol fawr o weithiau Llwyd ochr yn ochr â'i gyfeiriadau presennol i gynorthwyo'r darllenydd.

Mae natur yr hanes yn wahanol, gan fod Duw yn defnyddio'r llygoden i gynorthwyo Cadog, ond fe welir y sant yn dal llygoden yn ei law ac yn ei rhwymo ê llinyn, elfennau nas ceir yn yr hanesion eraill.

A myfi a sylwais y modd y byddai gyrrwr y trên hwnnw wrth esgyn yn defnyddio grym trydan oedd yn llifo mewn gwifren uwchben i gynorthwyo'r trên ar ei daith.

Ef yw'r pren bywiol y mae ei ddail "i iacha/ u'r cenhedloedd." Mae'n dilyn na all Cristionogion fod yn segur heb gynorthwyo yn y gwaith gwefreiddiol o sicrhau fod y neges am y Gwaredwr yn cyrraedd pawb.

Mae Awdurdod Datblygu Cymru yn ymrwymedig i gynorthwyo busnesau presennol i ehangu a ffynnu ac annog mewnfuddsoddiad, adleoli diwydiant a chreu swyddi yng Nghymru.

Deuai i gyffyrddiad â phob math o droseddwyr ac ni ellid cael neb gwell i drafod eu hachosion ac i gynorthwyo'r llysoedd i wneud cyfiawnder â hwy.

Ei amcan yw hybu'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn ei holl agweddau a chyd-gysylltu buddiannau awduron, cyhoeddwyr, llyfrwerthwyr a llyfrgelloedd, ac hefyd i gynorthwyo a chefnogi awduron.

Gallai, petai anhrefn yn mynd y tu hwnt i allu'r cwnstabliaid lleol i'w reoli, alw'r fyddin i gynorthwyo trwy ddarllen y Riot Act.

Trawsffurfiodd yr hen Gomisiwn Eglwysig a'i droi'n Llys yr Uchel Gomisiwn a hwnnw'n gwbl wynebgaled yn defnyddio ddulliau hen chwilys yr Oesoedd Canol, yn gorfodi pob cyhuddedig i gymryd y llw ex officio a oedd yn caniata/ u i esgob yn rhinwedd ei swydd ofyn unrhyw gwestiwn a fynnai i'r cyhuddedig a phe peidiai hwnnw ag ateb, gellid cymryd yn ganiataol ei fod yn euog, er nad oedd un ditment wedi ei chyhoeddi yn ei erbyn cyn hynny na thwrnai'n bresennol i'w gynorthwyo.

Mae nodiadau yng nghefn y llyfr i gynorthwyo'r darllenydd ddeall cefndir y cerddi a'r awdur ei hun.

Os yw hynny yn wir, haws credu mai a gynorthwyo gyda'r gwaith hwnnw a wnaeth y Dr John Davies.

Teimlai pobl Allhallows the Great, yr eglwys a roes gartref i'r Cymry alltud yn ystod blynyddoedd y Rhyfel Cartref, ei bod yn ddylestwydd arnynt anfon chwech o bregethwyr i gynorthwyo yn y gwaith.

Deunydd i gynorthwyo integreiddio mathemateg o fewn dysgu thematig.

Emlyn Jones ac yn ei gynorthwyo y Parch.

Dangosa'r fodrwy hon iddo, ac fe fydd yn siŵr o'th gynorthwyo." Mae'n estyn modrwy aur i ti, yna gan estyn ei law i ffarwelio, mae'n dweud, "Gwell i mi ddychwelyd i Godre nawr i roi help llaw i Cedig ddod o hyd i Cadlais.

Cyffwrdd yr un pryd â'n calonnau ninnau i ennyn ysbryd cenhadol ynom, i'n cynysgaeddu â pharodrwydd i gynorthwyo'r gwaith mawr nid yn unig mewn gwledydd tramor, ond yn ein hardaloedd ninnau yng Nghymru, fel y bo'r gwaith yn ei gyfanrwydd yn ogoniant i'th enw, yn Iesu Grist.

O ganlyniad mae'r pwyslais ar gynorthwyo a gwasanaethu yn hytrach nag ar reoli a llywodraethu.

fod disgwyl i'r Is-gadeirydd ymgyrchu gweithredol (a'r swyddog sydd â chyfrifoldeb dros y maes) gynorthwyo a hybu gwaith cadeiryddion rhanbarth).

Bendithia ymdrechion Cymorth Cristionogol a'r eglwysi a miliynau o Gristionogion i gynorthwyo'r anghenus a bwydo'r newynog.

Yn yr ail act mwynheais berfformiadau Alun Elidir (Jo) a Judith Humphreys (Mari) yn arw, yn enwedig yn y rhan lle roedd Jo am adael ond yn aros i gynorthwyo Mari i lapio cynfas, gyda'r ddau yn dod yn nes at ei gilydd gyda phob plygiad a'u hymddygiad yn mynd yn fwy awgrymog drwy'r amser.

Daeth ef a'r prentis yma yn gyfeillion mawr - a'r prentis yn ei gynorthwyo pan bu ymrafael rhwng rhai o'r morwyr ar ei long ef a rhai o long arall yn Newcastle, New South Wales.