Lle cynt y darluniwyd Crist 'yn un â phridd y ddaear' a'i adael ar hynny, bellach daethpwyd i'w gynysgaeddu ag enaid ac i synio amdano fel 'Iesu rhydd', fel un (a defnyddio iaith Peate am y tro heb egluro dim arni) wedi canfod ei enaid a thrwy hynny sicrhau anfarwoldeb iddo'i hun.
Mae hynny'n bwysig am fod ymwybyddiaeth o dras (nid trwy waed o angenrheidrwydd) yn debyg o gynysgaeddu pobl a theimlad o gyfrifoldeb.