Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyrhaeddais

gyrhaeddais

Peidiwch â bod yn hir efo'ch cinio, rhag i ni fod yn hwyr yn yr ysgol." Ni fum yn hir yn llyncu fy nghinio, a phan gyrhaeddais at y gamfa, yno'r oedd Capten yn disgwyl amdanaf.

Pan gyrhaeddais Pwll y Bont rhoddais y gêr i lawr yn ofalus ar y dorlan.

Ro'n i'n dal i ystyried faint o raff yr oedd y lliw personol, yr angen i adrodd profiad, yn ei ganiata/ u pan gyrhaeddais Mogadishu.

Pan gyrhaeddais gysgod y feranda y tu allan i'r stafell bwyso, roedd yr hyfforddwr a'r perchennog yno'n barod yn aros yn gyhuddgar.

(Yno, fel y digwyddodd pethau, ar ymweliad â chartref Wil, fy mrawd, y cafodd Mam ei tharo'n wael.) Pan gyrhaeddais, roedd fy chwiorydd a'm brodyr yn y llofft o gylch y gwely, a Mam, druan, yn anymwybodol.

Cofia, saith o'r gloch nos Lun." Wrth sefyll am foment ar ben y lôn wedi dywedyd 'Nos dawch,' clywn fy nghyfaill Williams yn mwmian canu - "'Does unman yn debyg i gartref." Pan gyrhaeddais gyffiniau Siop y Sgwâr ar noson y cinio yr oedd yn amlwg fod ysbryd y Nadolig wedi meddiannu'r lle.

O'i chymharu ag Agra, roedd stesion Delhi'n edrych yn lan pan gyrhaeddon ni'n ol heno, a'r YMCA., pan gyrhaeddais hwnnw ar ol taith wallgof trwy draffig ardal yr orsaf mewn rickshaw-peiriannol, yn ddigon croesawgar yr olwg - ymron yn aelwyd gynnes gyfarwydd.

Am y rheswm yna, falle, wedi cael cymaint o amser i feddwl am ein cychwyn da a'n gobaith o gyrraedd Sbaen, fe gyrhaeddais i stâd o nerfusrwydd go arw cyn y gêm nesa allan yn Twrci.

Bid a fo am hynny, yn yr awyrgylch yna 'roedd yn ddigon naturiol i mi fagu diddordeb mewn cantorion, ac fel yna fe gyrhaeddais fyd Opera.

PAN gyrhaeddais i gyntaf a gweld cymaint o ffrindiau yr oedd pawb gyda Suzi a Sigrid, ro'n i'n teimlo ychydig o anobaith a fyddwn i byth yn cael fy nerbyn fel nhw?