Y bore wedyn roedd Merêd yn awyddus i fynd i grwydro naill ai ar hyd yr arfordir i gyfeiriad An Spideal neu i fyny'r dyffryn i gyrion Loch Coirib er mwyn cael mwynhau'r golygfeydd a'r tawelwch digymar; ond mynnodd Dilys gysgu ymlaen ar ôl cyfeddach y noson cynt.
Ar gyrion y nofel Gymraeg y bu gwleidyddiaeth - hyd yn oed yng ngwaith Kate Roberts a T.
Ond ar gyrion Y Gaiman rhaid aros yn gyntaf am lymaid - a chân coeliwch neu beidio - yn Na Petko, a chyn bo neb yn sylweddoli bron y mae'n bedwar o'r gloch y bore cyn bo pawb ar y bws i ddychwelyd yn ôl dros y paith yn llawer iawn distawach nag yn ystod y daith i lawr.
Yr oedd y Cyfundeb wedi sefydlu eglwysi ers rhai blynyddoedd o bobtu Peniel, sef yn Nantglyn a Phrion, ond fe gynhaliwyd Ysgol Sul yn y Lawnt, lle bychan rhwng Peniel a Dinbych, ac hefyd yn Nhŷ Coch sydd ar fin y ffordd rhwng Dinbych a Nantglyn ac ar gyrion ardal Peniel.
Yn ugeiniau'r ganrif hon sylweddolwyd bod ein haul ar gyrion ein galaeth, y llwybr llaethog, ac yn un o gannoedd o filiynau o sêr a oedd yn troi o gwmpas ei ganol.
Fe ddylen ni fod yn ddiogel felly rhag unrhyw derfysgaeth o du'r Palestiniaid, ac i mewn â ni ar fore Sul, heibio i'r rheolfa filwrol ar gyrion y dref.
Nodwyd fod yna ddigon o eiddo gwag a ellid ei addasu yn gartrefi mewn nifer helaeth o ardaloedd heb fynd ati'n ddi-reolaeth i adeiladu ystadau o dai drud ar gyrion penterfi.
Y lladron yna wnaeth ddwyn gardd gyfan o dy ar gyrion un o drefi Lloegr.
Ond ers i arwyddion ffyrdd newydd gael eu codi ar gyrion y pentref yn ddiweddar, mae'r cwyno wedi dechrau.
Yn un o siopau llyfrau Chapters ar gyrion Toronto, Canada, y mae dynes o fy mlaen trosglwyddo cryn hanner dwsin o lyfrau i'r ferch tu ôl i'r cownter a derbyn bwndel o arian yn ôl.
Un o'r profiadau mwya' ysgytwol i mi oedd ymweliad â Cheung Euk, sef y `killing fields' enwocaf ar gyrion Phnom Penh.
Ond ambell i ddiwrnod byddai anferth o grât yn cyrraedd o waith Rover ar gyrion y ddinas.
A phan gerddai tuag ataf ar gyrion llychlyd iard yr ysgol, ei ddyrnau'n 'i gaddo hi a'i lygaid yn bygwth ffeit a'i holl gorff yn ysu am roi cweir imi, fe wyddwn drwy'r ofn mai canlyniad oedd hyn i'r pellter hwnnw nad oedd yr un ohonom yn gyfrifol amdano.
Cafodd y bobl a symudwyd o'r hen ddinas eu hail-gartrefu mewn fflatiau ar gyrion Havana.
Coeliwch neu beidio, dim ond ychydig dros ddwyawr a gymer y daith yno o gyrion Bangor, gan fod y ffordd mor hwylus erbyn heddiw.
'Doedd dim deunydd cenhadwr ar gyrion coedwig gynoesol afon Mersi yno' i chwaith, 'neno'r tad!
Gwelir yr elfennau sy'n tarddu o hanes, a'r rhai onomastig, ond y mae'r rhan fwyaf yn nodi problemau ynglŷn â'r gwaith am fod yr arwr tybiedig, Culhwch, yn cadw ar gyrion y stori, gan adael cyflwyno'r tasgau arwrol i Arthur, a bod hwnnw yn ei dro 'dan law' y cawr ynfyd Ysbaddaden Bencawr.
Fe gawson ni gyfle i dalu'n ôl i rai ohonynt wrth rannu gwersyll ar gyrion Zacco, a rhannu crât o gwrw â nhw.
Roedd Alwyn Owens a'i wraig yn ymlacio yn eu hystafell wely yng ngwesty'r Priory ar gyrion Llundain.
Pan laniodd yr awyren mewn cae ar gyrion Mogadishu, a phan agorodd ei safn fecanyddol yn araf er mwyn i'r gwaith o ddadlwytho sachau bwyd a newyddiadurwyr ddechrau cyn y saethu, roedd yr olygfa yn un yr oeddwn innau wedi'i gweld ar sgrin y teledu.
Ar gyrion y trefi mae'r halting sites, rhes o garafannau a chartrefi ar olwynion yn bentref unnos, a phethau fel dwr, tai bach a man golchi wrth law.
Roedd hi mewn tymer mor wyllt ar y dechrau fel mai prin y sylwai ar yr hyn oedd yn digwydd yn y sedd gefn nac yn y byd oddi allan i'r car bach coch, ac fe'i cafodd ei hun rai milltiroedd o'i chartref, yn teithio ar gyrion Llundain, cyn i'w thymer ostegu digon iddi sylwi ar ddim.