Sôn am flyndar--canys dyna'n union sut y cefais fy hun yn Ysgol Uwchradd Fodern Roscommon Street a swatiai dan gysgodion y Braddocks nid nepell o Scotland Road.
Eisteddodd yno nes i'r awyr ddechrau gwanio ac i'r machlud daenu o bell gysgodion ei gochni dros y nen.
Profiad ingol ar drothwy'r 'Dolig oedd mynd heibio a gweld dim ond pedair wal yn sefyll a pheirianna'n turio hyd yn oed i sylfeini un o'r rheini tra llosgai'r gweithwyr rai o blancia'r to yn ei grombil gwag, y gwreichion yn tasgu o'r fflama' a'u cochni yn cael ei adlewyrchu yn gysgodion grotesg ar blastar y muria' i oleuo mwrllwch bore oer o Ragfyr.