Y bore wedyn roedd Merêd yn awyddus i fynd i grwydro naill ai ar hyd yr arfordir i gyfeiriad An Spideal neu i fyny'r dyffryn i gyrion Loch Coirib er mwyn cael mwynhau'r golygfeydd a'r tawelwch digymar; ond mynnodd Dilys gysgu ymlaen ar ôl cyfeddach y noson cynt.
'Roedd y wawr yn rhyw ddechrau torri dros gribau mynyddoedd Eryri pan syrthiodd yr Ymennydd Mawr i gysgu o'r diwedd.
(Syrthio i gysgu unwaith eto.)
Roedd rhywbeth yn sw^n y dw^r oedd yn ei suo i gysgu bron.
Blinodd Wiliam feddwl, ac aeth i gysgu.
Mi oedd Mrs Robaits wedi nodio i gysgu go iawn, a'i cheg hi'n gorad, a'r peth nesa oedd i un o'r cregyn 'ma landio yn 'cheg hi.
Mae'n amlwg fod dewin yn dwyn bwyd y llys, a hynny ar ôl gwneud i bawb gysgu'n drwm.
Cefais hyd i rwyd i'w thaenu dros y gwely bach, ac oherwydd hynny gallwn gysgu heb ofni brathiadau mosgito, a rhaid fod hyn eto wedi f'arbed rhag dal malaria.
Fel arfer dim ond un ystafell gysgu oedd iddynt ac ystafell fawr arall i eistedd i lawr i weithio.
Nid wyf yn cofio ddim rhagor, ond ein bod wedi mynd i'n gwelyau yn go hwyr, ond cyn i ni gysgu, dyma gloch Anti yn swnio, am y tro cyntaf, a'r dro diwethaf hefyd.
Nid oes unrhyw anhawster i gysgu ar ôl ei gymryd.
Bu'n rhaid iddo yntau gysgu noson yn llofft stabl y gwesty cyn troi'n ôl.
'Roedd yr hyn ddigwyddodd wedyn fel ffars Brian Rix; nhad yn neidio o'i wely, y tŷ'n ysgwyd, drws ystafell gysgu mam a nhad yn agor a chau, drws ystafell gysgu ni yn agor, yr ystafell fel bedd, Wili a Glyn yn y gwely mawr yn cuddio o dan y blancedi a finna yn y gwely bach un lygad ar agor yn gwylio'r digwyddiadau, a gweld nhad un llaw yn dal y 'long johns' i fyny a belt yn y llaw arall yn colbio'r gwely.
'Pan fyddwn ni wedi ei orffan o, mi fydd yr aer sy'n cael ei gludo gan y pryfaid cop yn llenwi hannar y palas, ac mi fydd digon o le i ni'r chwilod pwysig gysgu yma drwy'r nos.
Fodd bynnag yn ôl i'r noson hwyr: nhad yn gweiddi o'r stafell gysgu - "Cysgwch hogia%.
Aeth yntau i gornel gysgodol, ac wedi cael man cyfforddus i orwedd ar hen domen o deiars, fe syrthiodd i gysgu.
Fe dyfodd yn arfer iddo ef fynd i'r ystafell ymolchi o'i blaen hi a rhoi cnoc ar ddrws yr ystafell wely fel arwydd ei fod e wedi gorffen yno, cyn iddo droi i'r ystafell fyw i gysgu.
Fe gaech chi gysgu yn honno.
All yr un ohonon ni gysgu'n dawel yn ein gwlâu, wedi mynd.
Mae'r peiriannau presennol at dwymo'r awyrgylch erbyn nos yn ddefnyddiol iawn, ond 'does dim allan o le i berson oedrannus, neu ffaeledig, gysgu yn ei ystafell ddydd os mai dyna'r ffordd hawsaf i gadw'n wresog.
Anodd dweud o edrych arno beth sydd gan y dyn i'w gynnig ond dywedwyd ar y radio mai ymffrost fawr Paul Daniels yw iddo gysgu gyda 300 o ferched.
Roeddwn innau'n fwy bodlon, ond er hynny ni fentrais gysgu yn y camp bed am rai nosweithiau rhag ofn i rywun sylwi a chlebran wrth y Capten.
O wisgo'r dail ar y fron wrth gysgu gallai rhywun gael breuddwydion oedd yn proffwydo'r dyfodol.
Chwalwyd perthynas lwyddiannus Llew a Meira ar ôl i Llew gysgu gyda Gina, ffrind Meira.
aros fel glas- wellt y borfa heb dyfiant yn ystod yr oerni, gwywo uwchben y pridd fel danadl poethion, neu gysgu'n flagur tew o fwlb dan y pridd.
Yr oedd cael cwyro'r edafedd a phwytho'r cynfas yn dasg o lawenydd ar ôl segurdod cysglydd y gell gosb Pan oedd Myrddin Tomos ar gysgu un noson deffrowyd ef gan sþn gweiddi ac ysgrechian yn y gell uwch ei ben.
'Dos i gysgu,' meddai.
Fel roedd Dora Williams ar syrthio i gysgu lluchiodd rhywun ddyrnaid o fân gerrig yn erbyn y ffenestr.
Gollyngodd ei dannedd gosod i jwg chwart o ddwr a halen, penliniodd i ddweud ei phader ac yna dringodd i'r gwely dwbl i gysgu noson arall yng nghwmni llun Cynddylan Jones a siampler ac arni'r adnod - 'Na thrysorwch i chi drysorau ar y ddaear', mewn ffrâm fahogani.
Syrthiodd tawelwch dros y tŷ i gyd wedi i'r plant gysgu.
"Fe ddylai 'nhad fod yn dal i gysgu, a'r golau wedi diffodd," meddai wrtho'i hun gan frysio ymlaen i weld beth oedd o'i le.
Wn i ddim sut y gallan nhw gysgu'n dawel fyth eto." "Ond o leia mae ganddyn nhw ei gilydd, lle nad oedd ganddi hi neb iddi hi ei hun.
Roedd o am wybod faint o oriau y byddai'r ci'n cysgu ac a oedd yn well ganddo gysgu mewn cenel neu fasged neu ar fat o flaen y tân.
Fe enillan nhw gyda llond cart o geisiau prynhawn fory yn Sain Helen, ac fe gân nhw gysgu'n dawel y penwythnos yma.
Mi wna'i ngorau i gysgu heno,' meddyliodd, hwyrach y medraf ddianc oddi yma fory i chwilio am blisman yn rhywle.' O fewn dim 'roedd yn y gwely ac er ei holl bryder 'roedd Glyn Owen yn cysgu'n drwm.
Dyw'r ymosodwyr ddim yn ddigon galluog i ddryllior amddiffyn ac yn dilyn hyn gwelwch gemau anniddorol syn ein suo i gysgu.
Wedyn, mi fydd pob un ohonoch chi'n cael digon o le i gysgu." A dyma'r dynion bach od yn edrych ar ei gilydd ac yn chwerthin yn hapus.
Gallwn gysgu yn dawel.
Hefyd y ffaith fod y meddyg wedi rhybuddio na ddylai Pengwern gysgu ar ei ben ei hun rhag ofn iddo gael trawiad ar y galon.
Roedd lle i wyth gysgu arni ond byddai dau bob amser ar wyliadwriaeth.
Diau na all Ms Clwyd gysgu'n dawel yn y sicrwydd ei bod hi wedi ein rhybuddio ni am gamweddau ein gweithredoedd.
Gwyddai Jacob fod darllenwyr Yr Ymofynnydd wedi hen gyfarwyddo â gweld eu cylchgrawn yn syrthio i gysgu ar adegau anodd, eithr yn dihuno'n fuan wedi'i atgyfnerthu'n llwyr.
Es i gysgu yn swn y morloi yn canu...
Roedd ar fin setlo i gysgu yn fodlon braf pan glywodd leisiau dau lais dieithr yn siarad yn y tywyllwch.
Cerddodd Ifor ar ei hôl fel oen llywa'th, a'i awydd i gysgu yn gryfach na'r un i ddadlau hefo'r ffurat o'i flaen!
Nid yw'n syndod fod plant ar ben heol yn ceisio denu milwyr i gysgu gyda'u chwiorydd - a'u mamau hefyd, fel y clywais.
Syrthiodd y tair i gysgu cyn gynted ag yr oedd eu pennau ar y gobennydd - Eira ar fatras ar y llawr, Iona mewn un gwely ac Elen mewn gwely uwch ei phen.
Fe dorrodd y gwely yn ystod y nos a bu raid imi gysgu ar lawr.
Aiff y broses o ad-feddiannu yn ei blaen bellach: daw'r Rex yn slei bach yn fan ymarfer ar gyfer y drymiwr, sy'n cadw Tref yn effro yn ystod y nos, ac aelodau eraill pyncaidd ei grŵp; yn garej ar gyfer motobeic Dave na all fforddio talu'r drwydded ar ei gyfer; ac yn ganolfan gymdeithasol ar gyfer hen ferched y cartref lle cant eu suo i gysgu o flaen y teledu ddydd a nos.
Fe fyddai'r plant yn disgwyl iddi hi a Tom rannu caban, ac yn sicr, pe baen nhw'n dal i gysgu ar wahân, fe fyddai Joc yn deall ar waith fod rhywbeth rhyfedd ynglŷn â'u priodas.
Ceisia gysgu, cariad; roedd hi'n gwybod ein bod ni'n ei charu hi ac os nad oedd hynny'n ddigon i'w dal yn ol...
Rhaid ei bod hi wedi syrthio i gysgu rywbryd, a deffrodd yn hwyrach nag arfer, ei phen fel meipen a'i cheg fel cwter.
Balch iawn oeddwn nad oedd rhaid i mi gysgu mewn pabell ond yn ddigon blin wrth feddwl y byddwn ynddi hi y noson wedyn.
"Mi fydd yn hyfryd cael mynd i'r caban i gysgu," meddai Douglas Wardrop.
ac ar adeg pan oedd pawb arall ar gysgu y gofynnodd Gerry Adams a chynrychiolwyr Sinn Féin am gael cynnwys y cymal holl bwysig ar y Wyddeleg.
Methu â chysgu llawer yn ystod y nos, er i Mac gysgu fel llo, set bren neu beidio.
Ac erbyn amser gwely mi fydden nhw wedi blino'n l_n ac yn barod i fynd i gysgu.
Nid oedd f'ymateb y tro hwn lawn mor frwd a phan ddarllenais y llyfr gyntaf dros hanner can mlynedd yn ol, ac eto mae'r stoi'n dal yn un afaelgar, yr hanes am fab i grydd o bentref bach Llangernyw yn gadael ysgol yn ddeuddeg oed ac yn llwyddo i gyrraedd prifysgolion Glasgow a Rhydychen: Ar ol peth trafferth medrodd fy mrawd John a minnau berswadio Mam i adael inni gysgu yn y gwely ym mhen tywyll y gweithdy.
Mae Robat newydd gysgu a dwi jest iawn â mynd hefyd.
"Fe gaiff pawb ei gymryd o'n ei dro i gysgu yn y gwely ar y llawr," gorchmynnodd eu mam cyn iddynt fynd i gadw, "mae'r tŷ yma mor llawn - dyma'r unig ffordd y medrwn ni i gyd gysgu." "Yn llawn o Domosiaid!" chwarddodd Elen.
Gan ei fod ar gymaint o frys i gael swatio yn y bync i gysgu, fe anghofiodd rywbeth pwysig iawn.
Ond dihangfa oedd hyn oll i Ynot; allan y nos neu beidio, adre'n hwyr neu beidio, rhaid oedd dychwelyd bob nos i gysgu hefo Arabrab, neu o leiaf i orwedd yn effro tra chwythai a chwyrnai ei hanadl wnionllyd drosto.
Ni lwyddodd Henedd i gysgu.
Ond o ddifri, o fod wedi cael rhyw dywedwyd y byddai rhedwr yn cyrraedd diwedd y farathon gryn chwarter awr yn gynt na phe byddai wedi mynd yn syth i gysgu.
Mae mam yn rhywle gan bob un o'r bechgyn hyn - a thad, a chwiorydd, a brodyr - wedi colli, mae'n dra sicr, lawer deigryn ers pan adawsant eu cartref - wedi treulio llawer noswaith heb gysgu.
Diolch i'r drefn, wnest ti ddim blasu ond y tameidyn lleia - ac eto, roedd hynny'n ddigon i'th hala i gysgu am amser maith!
Gwelodd y Capten ei gyfle a meddiannodd y soffa iddo'i hun yn wely tra gorfu i'r Major a'r Cyrnol gysgu ar welyau plyg, nid mor gyfforddus o'r hanner.
Rhaid fod si'r peiriannau wedi ei yrru i gysgu oblegid ni chofiai ddim am weddill y daith, ond cofiodd iddo neidio'n sydyn yn ei sedd wrth glywed llais yn ei ymyl.
Mae gan bawb waith i'w wneud cyn y medrwn ni gysgu yn y tŷ yma heno," meddai ei fam.
Ceisia gysgu - dyna'r unig feddyginiaeth am y tro." Clymodd ei freichiau'n dynn amdani a chusanu ei gwallt.
"Fasach chi ddim yn lecio i ni gysgu yma hefo chi y noson gynta' fel hyn?" Llamodd JR o'i gadair a bugeiliodd yr iâr uncyw i gyfeiriad y drws.
Ochenediodd hithau, cyn rhoi ei llaw yn ysgafn ar ei thalcen i'w thawelu, ac ni symudodd nes iddi lithro'n eri hôl i gysgu'n esmwyth a dibryder.
Ambell dro troi a throsi am hydion, ychydig funudau o gysgu a breuddwydio hiraethus ac yna dihuno drachefn a'r breuddwyd gynnau'n deffro pryderon amdanynt gartref.
O'r blaen buasai'n pwysleisio'r fath gymorth i fynd i gysgu fyddai gwylio'r llygod mawr yn cynnal eu mabolgampau nosol rhwng y styllod.