Mi fuo am gyfnod cyn priodi â gwraig weddw ydi hi ar hyn o bryd, a 'dwyt ti'n synnu dim at hynny wedi byw o dan yr un gronglwyd â hi am wsnos - cyn priodi mi fuo'n gwasanaethu hefo rhyw nob a'i wraig - Syr Simon a Ledi Gysta chwedl hitha, ac mae'r rheini wedi troi yn 'i phen byth wedyn.
Mae croeso iddi hi fyw yn ôl patrwm Ledi Gysta os ydi'n dewis hynny, ond mae disgwyl i mi siopwr ynghanol gwlad, drefnu 'mywyd ar yr un llinella â rhyw sprigyn o Syr hefo mwy o bres neg o synnwyr, yn afresymol.
Mae'n ymddangos fod Syr Simon a Ledi Gysta yn arfar cnoi pob tamaid ddeng waith a thrigain cyn ei lyncu.
Roedd Ledi Gysta mor ddelicet." "Wilias-y!" ebr y misus, yn sydyn.
Tyrci, wrth gwrs, fyddai gan Syr Simon a Ledi Gysta bob Nadolig.